Mae'r Urdd di penderfynnu y bydd alcohol yn cael ei gwerthu ar y maes yn steddfod Ceredigion yn 2010. Beth yw barn pawb ar hyn??
Yn hunain, dwi ddim yn bothered..a fi yn meddwl bod yr ymateb i hyn yn way OTT (er iw ddisgwyl!)
Ro ni yn cofio'r ffys mawr pam oedd yr Eisrteddod Genedlaethol di cael gwared ar polisi 'Dim Alcohol ' ar y maes.. Odd na pob math o wrthwynebaid at hyn, bod e mynd i strywio awyrgylch y maes, a bod heidiau o bobl ifanc yn mynd i meddwi yn racs ar y maes...nath e ddigwydd ? Wrth gwrs ddim...erbyn heddi, mae'r gwrthwynebaid na wedi tawelu, a mae yn edrcyh fel bod pobl yn derbyn e..
Gwbod mae gwyl ieuenctid yw e, ond sdim byd yn bod bod oedolion yn cael rhyw peint bach, neu glased o win gyda'i bwyd ar y maes..beth yw'r broblem da hynny?
Cawn fyw yn yr 21ain ganrif bois a da iawn Urdd Gobaith Cymru am neud y penderfyniad dewr yma...