A oes rhywun wedi clwad am y neidir a'r hamster yn dod yn ffrindiau. Ma'n debyg odd y neidir yn pallu byta ei lygod wedi rhewi ac felly, nath y sw roi'r hamster byw iddo fe, ond ers mis Hydref y llynadd, ma'r ddou yn ffrinidau. Wi'm yn credu'r stori 'ma ac fi'n siwr bod y ffycar wedi byta'r hamster erbyn hyn.
Dyma'r stori:
http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/asia-pacific/4627950.stmPeth slei ac ych-y-fi yw'r neidir; byswn i wedi marw o sioc tasa nhw wedi rhoi fi miwn gida fe. Welas i lun rwyla unwaith o'r neidir 'ma odd wedi llyncu buwch ne geffyl ne rwpath tebyg ac ot ti'n gallu gweld y coesau yn stico lan o dan groen y neidir, felly bysa hi'n gallu llyncu dyn yn ddigon rhwydd.