y neidir a'r hamster

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

y neidir a'r hamster

Postiogan Kez » Llun 27 Gor 2009 12:43 pm

Delwedd

A oes rhywun wedi clwad am y neidir a'r hamster yn dod yn ffrindiau. Ma'n debyg odd y neidir yn pallu byta ei lygod wedi rhewi ac felly, nath y sw roi'r hamster byw iddo fe, ond ers mis Hydref y llynadd, ma'r ddou yn ffrinidau. Wi'm yn credu'r stori 'ma ac fi'n siwr bod y ffycar wedi byta'r hamster erbyn hyn.

Dyma'r stori: http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/asia-pacific/4627950.stm

Peth slei ac ych-y-fi yw'r neidir; byswn i wedi marw o sioc tasa nhw wedi rhoi fi miwn gida fe. Welas i lun rwyla unwaith o'r neidir 'ma odd wedi llyncu buwch ne geffyl ne rwpath tebyg ac ot ti'n gallu gweld y coesau yn stico lan o dan groen y neidir, felly bysa hi'n gallu llyncu dyn yn ddigon rhwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: y neidir a'r hamster

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 27 Gor 2009 12:46 pm

Do. Dwi'n meddwl bod y peth wedi cael ei futa erbyn hyn hefyd. Dydi nadroedd ddim yn gwneud ffrindia siwr Dduw - onid ydyn nhw'n gallu mynd oes pys heb fyta dim eniwe?

Mae'r bochdew 'na ar amser benthyg - sy'n iawn achos dwi'm yn licio nhw lot chwaith.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: y neidir a'r hamster

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 27 Gor 2009 2:01 pm

O diar, newydd sylwi ar ddyddiad y stori hon

BBC a ddywedodd:Thursday, 19 January 2006


Fetia' i rywbeth bod yr hamster 'di marw, os nad oherwydd y neidr yna'n naturiol yn sicr!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: y neidir a'r hamster

Postiogan Kez » Llun 27 Gor 2009 2:30 pm

Own i heb sylwi ar y dyddiad - odd y peth ar wefan y BBC pw ddwyrnod. Rhaid bo nhw'n brin o newyddion.

Fi wedi dod o hyd i lun o ddyn a gas e lyncu gin neidir:

Delwedd

Ma'n amlwg taw nid ceffyl ne fuwch ne hyd yn oed ffrind fi Euronwy yw e - neu bysa'r coesau yn stico lan yn yr awyr o dan groen y neidir.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: y neidir a'r hamster

Postiogan Orcloth » Llun 27 Gor 2009 4:40 pm

iiiiwwwww!!! O'n i'n arfer licio nadroedd pan o'n i'n fengach ac yn gofyn i mam brynu rhai rwber i mi bob tro roedd hi'n mynd yn agos i Woolies!! Dwi di mynd off nhw rwan...... :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: y neidir a'r hamster

Postiogan Kez » Llun 27 Gor 2009 5:02 pm

Fi'n cofio 'myngu yn prynu ystlum rwber ifi o Woolies - odd e'n ffycin horrible ac fi'n dal i gal hunllefau biti'r ffycar hyd heddi. Os own i'n wara lan, dela hi a'r ystlum plastig ma mas a welid di mo fi am ddyddia - byswn i'n cloi munan lan yn y ty bach sbo mam yn dod nol a 'machub i.

Ma nadroedd yn bethach horrific hefyd - nhw odd yn gyfrifol am gwymp dyn yng Ngardd Eden, ac odd un o'nhw bron a byta Mowgli yn 'The Jungle Book' - wela i ddim pwy un rhinwedd sy'n perthyn iddyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: y neidir a'r hamster

Postiogan sian » Llun 27 Gor 2009 5:22 pm

Roedd gan fy mam hamster o'r enw Mandy yn y dosbarth pan oedd hi'n athrawes. Un gwyliau, anghofiodd y gofalwr gau'r cawell ar ôl ei bwydo hi ac fe ddiflannodd am byth. Falle taw neidir fytodd hi (yr hamster, nid mam).
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: y neidir a'r hamster

Postiogan finch* » Iau 30 Gor 2009 12:38 pm

Glywoch chi'r stori am y boi ma odd yn cadw neidr anwes yn y ty a'n gadel iddo fe gysgu yn gwely da fe yn y nos. Ath y neidr i fyhafio'n od iawn, ddim yn byta'i lygod ac yn cysgu yn rili syth ar bwys y boi, ddim wedi cyrlo lan. Ath a fe at y fet i weld beth odd yn bod a gwedodd hwnw bod e'n lwcus i ddod a fe nol mewn pryd achos odd y neidr yn stretcho ac yn mesur y perchenog i baratoi i fyta fe!
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Re: y neidir a'r hamster

Postiogan Kez » Iau 30 Gor 2009 1:17 pm

Urghhhhh!

'Co ti foi stiwpid yn cadw neidir yn y ty heb son am y gwely a dyna iti oxymoron yn galw 'neidir anwes' ar y ffycar.

Odi ddi'n wir nad oes nadroedd yn yr Iwerddon neu ryw fyth yw hwnna?
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron