Pryderi a ddywedodd:Mae'n anodd gen i gredu fod magwaraeth hyd yn oed yn bennaf gyfrifol am dueddiad rhywiol. Dydy'r nifer uchel o bobl hoyw yn Iran, er enghraifft, ddim yn arwydd o unrhyw oddefgarwch gan glericwyr Islamaidd.
A? Mae traddodiad a credau rhieni'n pŵer dim yn orfod adlewyrchu rheini y poblogaeth, ac yn enwedig yn llefydd fel Iran rhydych yn cael 'counter-culture' pwrpasol yn codi efo'r ifanc fel gwrthryfel (bron fel ieuenctid yn gwisgo crysau 'Che' yn America) ac oherwydd ei fod wedi denu gan syniadau a cyfryngau'r Gorllewin. Gan defnyddio rhesymeg dy esiampl, ellid dweud fod y protestio yn Iran yn orfod bod yn genetig gan nad oes llawer o oddefgarwch gan y llywodraeth.
Ond gan fod yr ymchwil heb dod i ben, a neb yn siŵr os nac oes genynnau eraill sydd ac effaith mawr ar eich rhywioldeb nac oes unrhyw tystiolaeth cadarn er dadlu'r pwynt hyn.
Chickenfoot a ddywedodd: Jest er mwyn cadarnhad, wnes i'n dweud hynna - dweud wnes i nad yw neb yn gwneud ddewisiad ymwybodol i fod yn hoyw neu'n syth, a dydi o ddim yn beth da na drwg.
Felly pam ydi pobl yn falch o fod yn hoyw. Dw i'n gwybod fod magwraeth yn cael effaith ar ymddygiad, ond fy mhywnt i oedd beth yw diben fod yn falch o'n rhywioldeb?
Mae pobl sy'n dweud eu bod yn falch o fod yn hoyw/du/gwyn yn gwylltio fi. 'Dwn i'm pam - mae pethau dibyn pwysicach i'w trafod, wedi'r cwbl.
A, ymddiheuriadau - wnes i rhoi geiriau yn dy geg.
Ond efo pa tystiolaeth ydych yn dod i'r canlyniad nad oes gan unrhywun unrhyw dewis ei hun dros y pethau yma ("nad yw neb yn gwneud ddewisiad ymwybodol i fod yn hoyw neu'n syth")? Neu ydych yn dadlu nad oes rhyddid ewyllis gan bodau dynol o gwbl?
Ac ydych yn felly'n credu ni dyle pobl fod yn balch o'i diwylliant a'i gwlad?