Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan Gruffo » Gwe 14 Awst 2009 2:13 pm

Ai fi sydd wedi camddeall hyn....

" Bydd S4C yn cynnig dewis o sylwebaeth Gymraeg neu Saesneg i wylwyr digidol ar ei darllediad byw o’r Rhyl v Caerfyrddin, a ddangosir 5.00pm, ddydd Sadwrn, 15 Awst.

Am resymau technegol, bydd yn rhaid i wylwyr sydd eisiau sylwebaeth Gymraeg ddewis yr opsiwn iaith Gymraeg yn eu bocs neu deledu...."

:ofn: Ydy hyn yn golygu mae sylwebaeth Saesneg fydd y sylwebaeth wreiddiol, ac os ydyn ni eisiau clywed sylwebaeth Gymraeg, bydd yn rhaid i ni fynd i newid yr opsiwn drwy wasgu'r botwm coch neu rywbeth...??

Dim fel arall rownd y dyle hi fod, h.y. os oes rhywun di-Gymraeg eisiau derbyn sylwebaeth Saesneg ar S4C, nhw ddyle orfod newid yr opsiwn iaith :?:
"Nid hon yw'r gan sy'n mynd i achub yr iaith....."
TEW
Rhithffurf defnyddiwr
Gruffo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 233
Ymunwyd: Sul 31 Awst 2003 12:36 pm
Lleoliad: Wombat

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan dafydd » Gwe 14 Awst 2009 3:04 pm

Dwi ddim yn gwybod y manylion ynglyn a hwn, ond mae'n anffodus iawn y ffordd mae nhw wedi penderfynu ei wneud e. Er mae'n gwneud synnwyr i gael pobl i newid dewisiadau iaith eu bocs digidol. Mae'r traciau sain ychwanegol yn cael eu fflagio fel Cymraeg/Saesneg ayyb felly os yw'r bocs wedi ei osod ar y sain Cymraeg i ddechrau, mi wneith e ffafrio Cymraeg ar unrhyw ddarllediad yn y dyfodol sydd a sain amlieithog.

Mae'n arbed y darlledwr i orfod greu gwasanaeth 'botwm coch' yn unswydd ar gyfer newid y trac sain. Un peth fasen i'n dweud yw hyd yn oed lle mae mwy nag un trac sain, fe ddylai fod yn bosib i'r darlledwr ddweud i'r blwch digidol pa un yw'r trac sain 'default', a felly dwi ddim yn siwr pa 'reswm technegol' sydd ddim yn caniatau hynny yn y sefyllfa yma.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan huwwaters » Gwe 14 Awst 2009 6:08 pm

Neu beth am y rheswm mai ar gyfer gwasanaethu yn y Gymraeg cafodd S4/C ei sefydlu. Os yw pobol eisiau gweld Y Rhyl vs. Caerfyrddin drwy'r Saesneg, ene dyletswydd BB1, BB2, ITV, Five neu unrhyw sianel arall ydyw.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan Gruffo » Gwe 14 Awst 2009 6:50 pm

Ok, diolch. So ai achos bod ein bocsys digidol ni wedi ei setio fel 'default' i'r Saesneg ma hyn yn digwydd, neu S4C sydd wedi penderfynu mae fel hyn ma hi fod??
"Nid hon yw'r gan sy'n mynd i achub yr iaith....."
TEW
Rhithffurf defnyddiwr
Gruffo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 233
Ymunwyd: Sul 31 Awst 2003 12:36 pm
Lleoliad: Wombat

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan dafydd » Gwe 14 Awst 2009 7:42 pm

Gruffo a ddywedodd:Ok, diolch. So ai achos bod ein bocsys digidol ni wedi ei setio fel 'default' i'r Saesneg ma hyn yn digwydd, neu S4C sydd wedi penderfynu mae fel hyn ma hi fod??

Dyw S4C ddim wedi gwneud hi'n glir os ydi hyn yn effeithio bocsys Freeview, Sky neu Cebl. Pan oedd S4C2 yn darlledu o'r Cynulliad roedd y bocs Freeview sy' gen i yn darlledu y sain 'wreiddiol'. Wedyn wrth ddewis y sain Saesneg, roedd hynny yn cynnwys cyfieithiad ar-y-pryd o unrhywbeth yn Gymraeg.

Ar fy mocs i mae'r fwydlen 'trac sain' yn dangos tri dewis - Auto, Wel, Eng. Mae 'auto' yn dewis y cynta ar y rhestr, sef Cymraeg. Hynny yw - mae traciau sain Cymraeg a Saesneg yno'n barod (yn wahanol i sianel eraill) er mai yr un sain sydd ar y ddau drac.

Dwi ddim yn gwybod beth fyddai'n digwydd ar ddarllediad 'dwyieithog' achos dwi erioed wedi gweld un. Ond mae digon o ddarllediadau wedi bod ar y BBC lle mae traciau sain ar wahan (e.e. gemau rygbi lle mae trac 'sain y dorf', neu feicroffon y dyfarnwr) felly dwi ddim yn gweld pam nad yw'n bosib i'r darlledwr ddewis yn union pa un yw'r "prif drac sain" a'r rhai ychwanegol.

Wrth gwrs gan fod gymaint o wahanol focsys ar gael, falle nad yw S4C yn gallu rhagweld sut fydd pob un yn gweithredu a felly mae nhw'n gorfod bod yn or-ofalus. Dwi ddim yn deall pwynt y datganiad i ddweud y gwir - sawl person fydd yn deall sut i newid y trac sain neu'r dewis iaith beth bynnag?
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 15 Awst 2009 5:04 pm

Ma hyn yn ffars! Does dim syniad gyda fi sut i newid dewis iaith fy set deledu sydd gyda 'freeview' yn rhan ohono i'r Gymraeg. Wedi trio chwilio trwy'r ddewislen, ond yn methu'n lan a chael sylwebaeth Cymraeg ar S4C digidol. Wedi trio gwasgu'r botwm coch, ond eto yn methu newid iaith y sylwebaeth. Wedi gorfod newid i S4C analog felly, ond ni fydd hyn ar gael fel opsiwn yma erbyn diwedd y mis, oherwydd bod y gwasanaeth analog yn dod i ben.

Rhesymau technegol? Os nad oes modd cael y Gymraeg fel yr opsiwn diofyn i bawb, gyda'r opsiwn o ddewis sylwebaeth Saesneg, dylai S4C gael gwared ar sylwebaeth Saesneg tan fod hyn yn cael ei ddatrys!!

Panasonic yw fy set deledu i, os oes gyda chi syniad sut i newid y dewis iaith i'r Gymraeg, rhowch wybod... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 15 Awst 2009 5:12 pm

Wedi trio danfon cwyn at S4C am hyn (sylwer ar y saesneg yn y cyfeiriad URL :rolio: ) http://www.s4c.co.uk/c_complaint_form.shtml ond y neges dwi'n cael pan yn gwasgu'r botwm 'Anfon' yw hyn:

(en) Please come back later
(fr) SVP veuillez revenir plus tard
(de) Bitte versuchen sie es spaeter nocheinmal
(at) Konnten's bitt'schoen spaeter nochmal reinschauen
(no) Vennligst prov igjen senere
(dk) Venligst prov igen senere
(pl) Prosze sprobowac pozniej
(pt) Por favor volte mais tarde
(ru) Попробуйте еще раз позже
(ua) Спробуйте ще раз пізніше


Mae S4C wedi colli'r plot yn llwyr! :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan Gruffo » Sad 15 Awst 2009 5:28 pm

Dwi'n gallu newid iaith y sylwebaeth i Gymraeg drwy wasgu'r botwm coch, ond os dwi'n newid y sianel, ac yna dod nol i S4C, mae'r sylwebaeth yn ol i Saesneg. Sdim syniad gyda fi sut i newid iaith y bocs sky i Gymraeg! Ma rhaid bod ffordd o gwmpas hyn!!! Allai ddim derbyn mae rhesymau technegol sydd tu ol iddo fe....allith y sylwebwyr Cymraeg ddefnyddio meicroffons y sylwebwyr Saesneg de, neu odwi'n dwp i feddwl bod e mor syml a hyna?!

Ar nodyn arall...ma hi'n gem eitha da!!!
"Nid hon yw'r gan sy'n mynd i achub yr iaith....."
TEW
Rhithffurf defnyddiwr
Gruffo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 233
Ymunwyd: Sul 31 Awst 2003 12:36 pm
Lleoliad: Wombat

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 15 Awst 2009 5:31 pm

Mae'r ffurflen cysylltu cyffredinol yn gweithio. Gallwch ddanfon cwyn yma - http://www.s4c.co.uk/c_contact_form.shtml
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sylwebaeth Saesneg yn cael blaenoriaeth ar S4C?

Postiogan Gruffo » Sad 15 Awst 2009 5:34 pm

Cwl...wedi gallu newid y iaith o English i Welsh yn system set-up. Wedi ei sorto!

Caerfyrddin yn dechre stryglo....
"Nid hon yw'r gan sy'n mynd i achub yr iaith....."
TEW
Rhithffurf defnyddiwr
Gruffo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 233
Ymunwyd: Sul 31 Awst 2003 12:36 pm
Lleoliad: Wombat

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron