Gruffo a ddywedodd:Ok, diolch. So ai achos bod ein bocsys digidol ni wedi ei setio fel 'default' i'r Saesneg ma hyn yn digwydd, neu S4C sydd wedi penderfynu mae fel hyn ma hi fod??
Dyw S4C ddim wedi gwneud hi'n glir os ydi hyn yn effeithio bocsys Freeview, Sky neu Cebl. Pan oedd S4C2 yn darlledu o'r Cynulliad roedd y bocs Freeview sy' gen i yn darlledu y sain 'wreiddiol'. Wedyn wrth ddewis y sain Saesneg, roedd hynny yn cynnwys cyfieithiad ar-y-pryd o unrhywbeth yn Gymraeg.
Ar fy mocs i mae'r fwydlen 'trac sain' yn dangos tri dewis - Auto, Wel, Eng. Mae 'auto' yn dewis y cynta ar y rhestr, sef Cymraeg. Hynny yw - mae traciau sain Cymraeg a Saesneg yno'n barod (yn wahanol i sianel eraill) er mai yr un sain sydd ar y ddau drac.
Dwi ddim yn gwybod beth fyddai'n digwydd ar ddarllediad 'dwyieithog' achos dwi erioed wedi gweld un. Ond mae digon o ddarllediadau wedi bod ar y BBC lle mae traciau sain ar wahan (e.e. gemau rygbi lle mae trac 'sain y dorf', neu feicroffon y dyfarnwr) felly dwi ddim yn gweld pam nad yw'n bosib i'r darlledwr ddewis yn union pa un yw'r "prif drac sain" a'r rhai ychwanegol.
Wrth gwrs gan fod gymaint o wahanol focsys ar gael, falle nad yw S4C yn gallu rhagweld sut fydd pob un yn gweithredu a felly mae nhw'n gorfod bod yn or-ofalus. Dwi ddim yn deall pwynt y datganiad i ddweud y gwir - sawl person fydd yn deall sut i newid y trac sain neu'r dewis iaith beth bynnag?