Rhys a ddywedodd:Wedi clywed lawer o sôn am y wefan ond didm yn dallt beth yw ei bwynt, a ddim rili eiiau agor cyfrif newydd ar wasanaeth arall mondi w eld tu ôl i'r lleni.
Sut mae'n gweithio?
Rwy'n sinig lle mae safleoedd o'r math yn y cwestiwn. Dwy'i ddim yn eu defnyddio fel arfer. Eto mae canran sylweddol a chynyddol o 'nhgydweithwyr mewn sawl cwmni dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn aelodau o'r un yma. Rwy'n gweithio fel contractiwr ac felly mae'r posibilrwydd y bydd yn dod a gwaith i fi rhywbryd yn ddigon o rheswm i ymuno. Wedi dweud hynny dwy'i ddim a werthu'r syniad i neb - hyrwyddo grwp Cymraeg newydd ar y safle oeddwn i nid hyrwyddo LinkedIn ei hun fel y cyfryw.
Ynglyn a sut mae'n gweithio:- Yn gyntaf mae rhywun yn (gorfod) cofrestru a rhestru'r cwmniau mae e wedi gweithio iddyn nhw, wedyn gwahodd cydweithwyr a chyn-cydweithwyr i ymuno a'i rwydwaith ( mae modd llwytho cysylltiadau o feddalwedd e-bost ac mae'r system yn gallu awgrymu pobl sydd wedi gweithio i'r un cwmniau ). Mae 'na grwpiau ar gyfer ieithoedd cyfrifiadurol, asiantaethau, cwmniau a diddordebau eraill sy'n cynnig ffordd arall o ddod o hyd i aelodau newydd. Y gobaith yw, siwr o fod, bod datblygu rhwydwaith fawr yn mynd i ddod a gwaith neu fusnes i rhywun yn y pen draw ( neu jyst helpu i gadw mewn cysylltiad er difyrrwch ).
Mae rhywun oedd yn gweithio 'da fi dros ddegawd yn ol yn ateb nifer fawr o gwestiynau ar grwpiau sy'n trafod pethau fel gweinyddu systemau ac arsefydlu meddalwedd ar weinyddwyr - synnwn i ddim y bydd e'n cael gwaith weithiau gan bobl sydd wedi gweld ei gyfraniad dros amser hir.
Pe byddai rhywun yn gweithio rhywle oedd ag angen sgiliau penodol ac yn gwybod am unigolyn gyda'r sgiliau yn ei rhwydwaith oedd yn digwydd bod ar gael gallai hynny fod yn fuddiol i bawb.
Ar y llaw arall 'fallai fod e'n dda i ddim.
Yn sicr lle mae'r Gymraeg yn y cwestiwn rwy wedi gweld llawer mwy o grwpiau yn cael eu sefydlu na sy'n cael eu defnyddio