Bydda'i / 'na'i

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan sian » Maw 08 Medi 2009 4:30 pm

Kez a ddywedodd:Os byddwch chi'n cambifhafio yn yr ysgol, 'na i wybod! (ditto)

Ti'n siwr bod hwnna'n iawn? Sai'n credu 'ny.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan Kez » Maw 08 Medi 2009 5:10 pm

Na, fi ddim yn siwr Sian, ac am bo ti'n ei gwestiynnu fe, fi'n itha siwr bo fe ddim yn iawn :-)

Wi'n ofan bo fi'n treial bod yn rhy glyfar; ma gramadeg yn gallu tripo di lan trw'r amsar. ma'r frawddeg yn swno'n weddol ok ifi er fi'n derbyn bo fe'n rong (neu odi ddi?) :D

'Swn i ddim yn gweud - na i wybod. Ond synnwn i ddim 'tasa pobol erill yn ei weud e, felly ar gownt hwnna- gaf i ofyn a yw hwnna'n swno'n iawn ne bido i bobol erill ??.
Golygwyd diwethaf gan Kez ar Maw 08 Medi 2009 10:35 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan sian » Maw 08 Medi 2009 5:41 pm

Kez a ddywedodd:Os byddwch chi'n cambifhafio yn yr ysgol, 'na i wybod! (ditto)


Bydde Os byddwch chi'n cambifhafio yn yr ysgol, 'na i glywed! neu Os byddwch chi'n cambifhafio yn yr ysgol, 'na i ffindio mas! yn iawn. Neu Os byddwch chi'n cambifhafio yn yr ysgol, ga i wybod! ond sai'n credu bod 'na i wybod yn gwneud synnwyr.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 08 Medi 2009 9:14 pm

"Bydda i'n mynd allan bob Nos Sadwrn" - mae hyn yn iawn yn yr Aeleg hefyd, sef "Bidh mi a' dol a-mach gach Oidhche Shathairne", i fynegi rhywbeth dych chi'n gwneud drwy'r amser.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan asuka » Maw 08 Medi 2009 9:34 pm

sian a ddywedodd:ond sai'n credu bod 'na i wybod yn gwneud synnwyr.
so... oes syniade beth yw'r egwyddor yma? be sy rhaid ychwanegu at y disgrifiad o byddaf/gwnaf? :seiclops:
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan y mab afradlon » Maw 08 Medi 2009 9:43 pm

Wy wedi dechrau drysu'n lan gyda'r peth erbyn hyn. Nagwy'n siwr beth o'n i arfer gweud cyn i rywun ofyn i fi beth wy'n gweud (os cyh chi'n 'y nilyn i!)

Ond o ran defnydd "na'i" a "bydda'i" gyda rhai berfau - ti'n iawn Kez mae rhai yn swnon'n iawn ac eraill yn chwithig.

Mae rhyw syniad gyda fi taw rhywbeth i wneud gyda'r ferf "gwneud" a "bod" yw'r gwahaniaeth. hynny yw, does dim modd i chi 'wneud' gallu, felly byddai'n gallu yn hytrach na 'na'i allu. Falle bod yr un peth yn iawn am wbod - ma 'nai wbod yn swno breaidd yn rhyfedd (ond falle sen i'n gweud hynny hefyd - aaagh!) Eto ma modd gwneud rhedeg neu noifad neu siarad neu glywed, felly " na'i glywed am hynny" yn gweithio'n iawn.

Ydw i'n gweld goleuni, neu ydw i'n rhwdlan trwy 'nhin?
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan asuka » Maw 08 Medi 2009 9:51 pm

y mab afradlon a ddywedodd:Ond o ran defnydd "na'i" a "bydda'i" gyda rhai berfau - ti'n iawn Kez mae rhai yn swnon'n iawn ac eraill yn chwithig.
hei - y fi wedodd hynny! :D mae dy esboniad di'n swnio'n dda... rhan o'r llawn esboniad falle am fod sawl peth gwahanol yn mynd mlân, mae'n debyg! :ofn:
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai