gan Leusa » Sul 21 Meh 2009 2:17 pm
Heb fod ar y maes ers blynyddoedd bellach, ac wedi darllen dipyn ers hynny! Dyma ddetholiad o'r nofelau mae'n rhaid eu darllen:
We Need to Talk About Kevin - Lionel Shriver, cyfres o lythyrau gan fam plentyn sydd wedi saethu rhai o'i gyd-ddisgyblion yn farw yn yr UDA. Mae o'n emosiynol, ac yn llawn twists. Ma'n swnio'n ddiflas - cyfres o lythyrau, ond dydio ddim, mae pob tudalen yn gyffroes.
Birdsong - Sebastian Faulks, llyfr sy'n neidio rhwng y rhyfel byd 1af a'r presennol. Fel rhywun s'n anghytuno'n gryf ac unrhyw fath o drais, boed yn ymuno â'r fyddin neu glodfori rhyfeloedd ayyb 'dwi'n dueddol o anwybyddu dyddiau 'cofio y rhyfeloedd byd'. Ond mi fyddai'n meddwl dwywaith o hyn allan. Mae'r llyfr yn darlunio bywydau pob normal a'u gorfodwyd i fynd i fwd Ffrainc a Gwlad Belg i farw dros achos nad oedden nhw'n cytuno ag o.
The Secret life of Bees - Monk Kidd - wedi ei selio ar gyfnod hiliol cychwyn yr 20fedG yn UDA. Ond efo stori annwyl am hogan fach wen yn cael ei hun yn byw hefo tair chwaer ddu sy'n cadw gwenyn.
The Time Traveler's Wife - Audrey Niffenegger Dyma fy llyfr gorau newydd. Mae'n sôn am berthynas gŵr a gwraig, ond mae'r gŵr yn teithio mewn amser, (heb drio) ac mae'n cyfarfod ei wraig pan mae hi'n hogan fach, hmmm ma'n swnio'n od. A mae o'n od! Ond gwych o od.
Captain Corelli's Mandolin - Louis de Bernières, Mae'n siwr fod lot o bobl yn cael ei rhoi off darllen y nofel yma oherwydd y ffilm (nad ydw i wedi ei gweld, diolch byth). Mae'r awdur yn amazing. Llyfr yn llawn satire a hiwmor tywyll. Mae 'na ryfel a marwolaethau ayyb, ond rhywsut dydech chi ddim yn sylwi lot ar yr agwedd negyddol i hynny achos y darnau doniol a'r love stori gwych sy'n digwydd.
och ma na lot lot mwy, ond mae gen i draethawd arall i'w sgwennu!!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi