Wel, dwi wedi gwrthod talu (cow)bois am waith o'r blaen a gwnaethant bygwyth mynd â'u stwff. Wedes i bod hwnna'n iawn, jest eu bod yn gosod y pibellau nol fel oedden nhw cyn iddyn nhw rhacso'r system. Roedd gosod popeth yn ol yn fwy o hasl na'i werth e iddyn nhw. Yn y diwedd, tales i am y materials ond nid am eu hamser.
Anodd dweud pwy oedd yn gywir fan'yn - os taw cowboi job odd e - dylae'r perchennog fod wedi taflu cerrig at y twat ar y to, ar y llaw arall, os bai'r perchennog, dyle'r adeiladwr fod wedi plymio trwy'r to a 'bomio' trwy'r nenfwd a claimo ar inswrans y tit.
Mae'n debyg fod 'na fai ar y ddwy ochr , ond da chi ddim yn meddwl fod yr adeiladwr a'i fab wedi gwneud peth anghyfrifol ? Be ddiawl mae hyn yn ddysgu i'r genhedlaeth iau 'lly ?
Os bai'r perchennog, dwi'n meddwl roedd y boi'n iawn. Dysgu ei fab i ddangos asgwrn cefen. Ma ishe 'stand up guys' mas fanna. Wylle bo tymed o fynd yn rhy bell fan hyn, ond pob lwc iddo os odd e'n erfyn arian am waith o safon sy dal i'w dalu.
Anghofiwch am bwy sy'n cywir. Does neb sydd eisiau llogi fo rwan! Rili, pwy yn y byd sydd eisiau llogi adeiladwr sy'n risgio dinistrio dy dŷ? Ma o newydd golli busnes dichonol rhwng pawb sydd di clywed am hyn.
Helo Gwenci ! Falch fod 'na rywun arall yn gweld y goleuni . 'Roedd gweithred yr adeiladwr yn ddigon babiaidd....yn gwneud i mi feddwl am blentyn bach ddim yn cael ei ffordd ac yn dechrau taflu ei deganau o gwmpas . A sdim isho llawer o asgwrn cefn i wneud hynny.
Cytuno bo'r canlyniad iddo fe'n anffodus. Er, nid ydym yn gwybod y stori, felly anodd yw beirniadu. Wylle bo'r boi ar ddiwedd ei dennyn, yn gwynebu bilie dyw e ddim yn gallu talu oherwydd y perchennog. Pwy â wyr?