Y chwith bob amser yn gwthio'u syniadau heb ofyn

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y chwith bob amser yn gwthio'u syniadau heb ofyn

Postiogan RET79 » Llun 10 Tach 2003 7:05 pm

Dwi wedi sylwi ar hyd y blynyddoedd fod pobl o'r chwith wastad yn fwy hoff o wthio'u syniadau a mynegi eu barn yn chwyrn ar bobl.

Cefais brofiad amhleserus y penwythnos hwn. Roedd ffrind i ffrind i fi yn dechrau ymosod ar Bush ar ol darllen papur dydd Sul. Wnaeth o ddweud datganiadau wrth-Americanaidd go iawn yn gyhoeddus. Hefyd fe wnaeth o ddatganiadau gwrth-Gristnogol.

Nid oedd y boi yma'n gwybod fy naliadau gwleidyddol i, ac i fod yn berffaith onest sgen i ddim llawer o fynedd dadlau am wleidyddiaeth gyda pobl ar chwarae bach, yn enwedig mewn ty tafarn. Ond roedd y person yma'n mynd ymlaen ac ymlaen yn gwneud datganiadau gwrth-Americanaidd, galw Bush yn 'war criminal' ac yn y blaen. Roedd y dadleoun yn chwerthinllyd a wnes i ddim dangos fy nheimladau ar hast.

Dwi'n meddwl mai'r rheswm roedd o'n myn ymlaen am y pwnc oedd roedd o'n disgwyl am nod gen i o gytundeb. Wedi'r cyfan roeddwn wedi cytuno a phopeth roedd wedi ei ddweud am y gem rygbi ddydd Sul ac yn meddwl mod i'n dod ymlaen a fo'n iawn.

Ond ar ol bron i hanner awr o gadw'n ddistaw a trio newid y pwnc roedd yn rhaid i mi ddechrau stopio fo ar ol iddo wneud datganiad a'i gwestiynu. Roedd o wedi synnu ar y dadleuon cryf a'r cwetiynau anodd roedd gen i i'w gynnig iddo - does neb yn cael 'easy ride' gen i pan mae'n dod i wleidyddiaeth. Os yw nhw'n trio gwthio eu syniadau arnaf fi rhaid iddyn nhw ddysgu mod i ddim yn hawdd yn derbyn beth mae nhw'n ddweud o gwbl, rhaid i nhw fy mherswadio i hefo rhesymeg a thystiolaeth - dyna sut mae dadlau.

Wel, ar ol hanner awr o roi triniaeth Paxman-esque i'r boi ma roedd o yn edrych braidd yn wirion. Dwi ddim yn meddwl ei fod wedi dadlau i'r safon a'r 'intensity' yna o'r blaen.

Yn anffodus, roedd o'n dechrau bod yn sarhaus ac yn bersonol. 'Rattled' yw'r gair. Roeddwn i'n tybio ar adegau fod o'n ystyried taflu dwrn ond roeddwn i'n gwybod fuasai o ddim gan mod i'n fonheddig hefo fo. Wnaeth o ddechrau tori ar draws fi hefyd. Dwi'n meddwl erbyn y diwedd fod o'n credu os oedd o'n gweiddi drostaf i ei fod o'n ennill y ddadl. Hefyd drwy weiddi drosta i doedd o ddim yn gallu clywed mwy o fy nadleuon.

Y pwynt dwi eisiau ei wneud yw, dwi wedi dod ar draws amryw o bobl sydd yn hoffi gwthio eu syniadau, a rhan fwyaf o'r amser mae nhw'n bobl o'r chwith. Dwi'n ffeindio eu syniadau'n 'offensive' go iawn (ond dyw nhw ddim yn gwybod hyn). Hefyd mae nhw fel arfer yn gas yn erbyn crefydd.

Fel rheol dwi ddim hefo diddordeb trafod crefydd na gwleidyddiaeth mewn ty tafarn ond yn anffodus mae llawer o'r adain chwith methu stopio eu hunain gan orfodi i mi ddechrau eu cwesitynu.

Yn gyffredinol dwi erioed wedi clywed person o'r dde yn dechrau trafodaethau yn gyhoeddus.

O fy mhrofiad i felly mae'r chwith bob amser yn fwy digwylidd ac yn hoffi gwthio'u syniadau a dwi'n ffeindio hyn yn ddigwylidd gan fod crefydd a gwleidyddiaeth yn bynciau sensitif iawn. Dwi'n ffeindio fo'n rude pan mae nhw'n dechrau trafod pynciau fel hyn yn enwedig mewn llefydd cyhoeddus.

Mae pobl o'r dde fel arfer yn cadw'u syniadau i nhw eu hunain.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Re: Y chwith bob amser yn gwthio'u syniadau heb ofyn

Postiogan Gruff Goch » Llun 10 Tach 2003 8:36 pm

RET79 a ddywedodd:Mae pobl o'r dde fel arfer yn cadw'u syniadau i nhw eu hunain.


Wel mae'n eitha' anodd camarwain pobl er dy fudd dy hun fel arall tydi... ;)
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Macsen » Llun 10 Tach 2003 8:45 pm

Mae pobl i'r dde yn eich chael hi'n hawdd i gadw ei syniadau i'w hunain am mai pobl i'r dde sy'n cael dweud ei dweud yn y papurau newydd a barnu y ffordd mae society yn mynd yn gyffredinol. Mae pobl o'r chwith yn gweld bod hyn ddim yn deg o gwbwl, bod y cyfoethog yn cael mynd yn fwy cyfoethog a fwcio'r tlawd drosodd, so pwy all feio nhw am drio newid pethau?

Dwi wedi sylwi ar hyd y blynyddoedd fod pobl o'r chwith wastad yn fwy hoff o wthio'u syniadau a mynegi eu barn yn chwyrn ar bobl.


Pwy sydd wedi dechrau pedwar edefyn allan o bump ar y seiat yma... RET! (I'w ganu i'r tiwn Shaft)

RET a ddywedodd:Cefais brofiad amhleserus y penwythnos hwn. Roedd ffrind i ffrind i fi yn dechrau ymosod ar Bush ar ol darllen papur dydd Sul.


Gwae fo am ddarllen y papur toiled 'na yn y lle cyntaf. Ac siarad yn erbyn America! Mewn lle cyhoeddus!? Wel, wrthy gwrs mi ddylsai bod ban yn erbyn y fath beth, gan fod America jyst yn trio helpu pawb wedi'r cyfan! RET, erioed di clywed am 'free speech'?

A beth yn union oedd y cwestiynnau yma a beth oedd yr atebion? Mae'n ddigon da i ti gerdded mewn i'r saloon a dweud fy fod ti wedi saethu lawr eryr o hanner millltir, ond dw i eisiau tipyn o dystiolaeth fama.

Dwi ddim yn meddwl ei fod wedi dadlau i'r safon a'r 'intensity' yna o'r blaen.


Waw, go get them RET! Rho slap bach i ti dy hun ar dy gefn, nest ddangos i'r lefti diawl yna pa ffordd mae'r cloc yn troi.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Llun 10 Tach 2003 10:20 pm

Ifan y pwynt yw dwi ar wefan lle mae ystafelloedd y siarad gwleidyddiaeth felly os dwi'n dechrau 4 allan o'r 5 edefyn mae hyn yn iawn - dyma le arbenning i siarad am wleidyddiaeth felly os ti ddim eisiau trafod gwleidyddiaeth does dim rhaid i ti ddod yma.

Mae gwleidyddiaeth a crefydd yn bynciau sensitif sydd yn rhannu pobl. Dyna pam dwi ddim yn codi'r pynciau mewn llefydd fel ty tafarn gan dwi yno i gael peint a hwyl nid i gael trafodaeth fanwl. Dwi'n ffeindio fo'n ddigwylidd fod person yn gwthio eu syniadau gwleidyddol lawr fy nghorn gwddwf mewn lle cyhoeddus felna. Roedd y boi yma yn un o'r cyntaf i gwyno am raglenni crefyddol ar y teledu yn "gwthio crefydd lawr ei gorn gwddwf" hefyd.

Efallai fod y pobl ma'n mwynhau dod i fyny hefo theoris michael moore esuqe. Wel, diddorol iawn, ond paid a disgwyl i mi gymryd y fath nonsense o ddifri a dwi ddim yn gweld pam fod rhaid i mi gael fy ngorfodi i gael y fath drafodaeth yn gyhoeddus pan efallai fod well gen i beidio rhannu fy nheimladau gweidyddol a chrefyddol.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Llun 10 Tach 2003 10:31 pm

Digon teg, RET. Pam na fyset ti wedi dweud wrth y boi gau ei geg? Mae'n gweithio i fi fel arfer.

Dw i wedi cael trafodaethau gwleidyddol mewn pybs, ond fel arfer pam dw i a pwy bynnag dw i yn trafod hefo wedi cael gormod o'r martinis.

Ond er hynny dw i ddim yn gweld gwir pwrpas y edefyn yma. Mae rhai pobl yn dwats. Mae rhai pobl yn teimlo mai mewn llefydd fel y dafarn yw'r unig lefydd i drafod pethau fel gwleidyddiaeth.

Fy mhwynt i hefo'r 4 allan o 5 oedd fy mod i'n ei ffeindio fo'n eironig mai pwrpas yr edefyn oedd i gwyno yn erbyn pobl adain chwith yn rhoi ei barn, tra rwyt ti o'r adain dde ac i weld yn rhoi dy farn ar wleidyddiaeth eitha lot.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Llun 10 Tach 2003 10:36 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Digon teg, RET. Pam na fyset ti wedi dweud wrth y boi gau ei geg? Mae'n gweithio i fi fel arfer.

Dw i wedi cael trafodaethau gwleidyddol mewn pybs, ond fel arfer pam dw i a pwy bynnag dw i yn trafod hefo wedi cael gormod o'r martinis.

Ond er hynny dw i ddim yn gweld gwir pwrpas y edefyn yma. Mae rhai pobl yn dwats. Mae rhai pobl yn teimlo mai mewn llefydd fel y dafarn yw'r unig lefydd i drafod pethau fel gwleidyddiaeth.

Fy mhwynt i hefo'r 4 allan o 5 oedd fy mod i'n ei ffeindio fo'n eironig mai pwrpas yr edefyn oedd i gwyno yn erbyn pobl adain chwith yn rhoi ei barn, tra rwyt ti o'r adain dde ac i weld yn rhoi dy farn ar wleidyddiaeth eitha lot.


Wel gwneud y sylwad roeddwn i nac ydw i'n nabod unrhywun o'r dde sydd yn dechrau dadleoun gwleidyddol yn y gweithle neu'r dafarn. Ond, mae pobl o'r chwith yn gwneud datganiadau gwleidyddol yn y llefydd rheiny ac mae hyn yn ansensitif.

Mae'r un peth yn wir am atheists yn fy mhrofiad i. Mae wedi mynd yn eitha ffasiynol i ddweud fod ti'n atheist a fod crefydd yn lwyth o rwtsh. Mae nifer o bobl yn datgan barn felna yn uchel ac yn gyhoeddus, hyd yn oed yn gweithle lle dylsen nhw gadw eu crefydd i nhw eu hunain, heb gael y cwrteisi i ofyn beth yw fy naliadau crefyddol. Dydw i ddim yn gweld cristion yn mynd rownd y lle yn condemnio a gwneud hwyl ar bobl sydd yn atheists yn yr un modd mae atheists yn ei wneud tuag at gristion.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Llun 10 Tach 2003 10:41 pm

RET a ddywedodd:Dydw i ddim yn gweld cristion yn mynd rownd y lle yn condemnio a gwneud hwyl ar bobl sydd yn atheists yn yr un modd mae atheists yn ei wneud tuag at gristion.


Lwc yw hyn, gwaetha'r modd. Dwi'n anbod lot o gristnogion sy'n mynd rownd yn dweud wrth pawb be i feddwl.

RET a ddywedodd:Wel gwneud y sylwad roeddwn i nac ydw i'n nabod unrhywun o'r dde sydd yn dechrau dadleoun gwleidyddol yn y gweithle neu'r dafarn. Ond, mae pobl o'r chwith yn gwneud datganiadau gwleidyddol yn y llefydd rheiny ac mae hyn yn ansensitif.


Mae rhan fwyaf o bobl o'r chwith dyddiau yma, yn enwedig mysg y dosbarth canol/gweithiol. Yr unig berson o'r dde dw i'n ei nabod ydi fy Nhaid a boi oedd yn gweithio yn CeKa lle oni dros yr 'ha. Dwyt ti ddim yn clywed y pob o'r dde yn cwyno am nad ydyn nhw yna.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Llun 10 Tach 2003 10:49 pm

OK Ifan, wel does gen i chwaith ddim amser i bobl Gristnogol nac o unrhyw grefydd yn gwthio eu syniadau lawr dy gorn gwddf ar ol i ti ddweud dim diolch. Ond mae atheists sydd yn dychanu pobl grefyddol yn gyhoeddus yr un mor amharchus.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Llun 10 Tach 2003 10:53 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd: Mae rhan fwyaf o bobl o'r chwith dyddiau yma, yn enwedig mysg y dosbarth canol/gweithiol. Yr unig berson o'r dde dw i'n ei nabod ydi fy Nhaid a boi oedd yn gweithio yn CeKa lle oni dros yr 'ha. Dwyt ti ddim yn clywed y pob o'r dde yn cwyno am nad ydyn nhw yna.


Wel yn gyffredinol dwi'n meddwl fod pobl o'r chwith yn fwy swnllyd ac yn fwy parod i ddatgan eu barn heb i neb ofyn amdano.

Dwi'n meddwl yn ol i etholiad gyffredinol 1992 pan etholwyd Major. Yn arwain fyny i'r etholiad yna yr oll roeddet ti'n weld oedd pobl ar y teledu bob dydd yn ymosod yn chwyrn ar y llywodraeth doriaidd ac roedd nifer fawr o brotestiadau hefo'r poll tax, glowyr etc. Roeddet ti'n cael yr argraff fod pawb yn casau'r llywodraeth. Ond pan ddaeth yr etholiad rownd fe gafodd Major fwy o bleidleisiau na neb mewn hanes (dwi ddim 100% fod hyn yn wir).

Felly y pwynt yw, mae'r dde yn cael eu cynhrychioli fel arfer gan y 'silent majority' hyn. Mae'r chwith, er eu holl swn, yn lais llai pwerus ar y cyfan ym Mhrydain.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Llun 10 Tach 2003 10:54 pm

RET, mae'n amhosib barnu grwp cyfan o bobl, bydda nhw yn chwith neu dde, atheist neu gristion, ar rai pobl yr wyt ti'n ei nabod. :rolio:

Mae yna rai pobl amholeit ymhob grwp o bobl. Hyd yn oed Mes-E (gasp!).
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron