Duw a ddywedodd:Wel roedd "Fampir Hip-Hop" 'da ni 'ma ar y maes. Mae'r 'Meirw Byw' wedi'i ddefnyddio, er gall hwn gael ei alw ar bob math o ychs y nos. Yn bersonol dwi'm gweld dim yn bod ar 'Fampir', wedi'r cyfan, gair a fenthyciwyd o'r Bwlgareg (vampir) ac yn wreiddiol o'r Slafeg 'obyri' (yn ol be dwi'n deall). Eto, cystal â dwi'n gwybod, 'stim cyfeiriad at 'fampir' yng Nghymru cyn iddo gael ei son amdano mewn llyfrau poblogaidd y ddeunawfed ganrif.
Gair benthyg, ond benthyg oddi wrth pwy?
Diddorol iawn Duw, diolch am hwn. Ie, o ni'n meddwl fod 'sugnwyr gwaed' braidd yn flat ond dyna oedd y geiriadur yn ei gynnig. Yna neshi weld hysbyseb llyfr dros y penwythnos am 'fampirod...' rhyw lyfr i blant o olwg y cyfyr. Cytuno am y meirw byw, rhu vague. Ia, mae'n air wedi ei fenthyg eniwe felly mae 'Fampir' yn dderbynniol - ai 'fampirod' yw'r ffordd cywir i siarad amdannynt fel collective? Hoffi'r 'obyri'.......