Ergyd arall i deuluoedd gan yr Eisteddfod

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ergyd arall i deuluoedd gan yr Eisteddfod

Postiogan Prysor » Maw 01 Rhag 2009 7:00 pm

http://www.golwg360.com/Newyddion/cat87 ... _7908.aspx

Ar ol penderfynu dal i godi tal mynediad i'r maes ar ol 4pm, a chodi £20 ar rieni plant y pasiant am gopi DVD o'r sioe, mae'r Eisteddfod Genedlaethol bellach wedi gwahardd ceir o'r maes carafannau. O hyn allan fydd pawb yn gorfod parcio'u ceir mewn maes parcio newydd (a hyn mewn cyfnod lle mae nhw'n mynnu nad oes digon o safleoedd o ddigon o faint yng Nghymru i gynnal y Brifwyl).

Dwn i'm ar ba blaned mae aelodau Cyngor yr Eisteddfod (sydd, siwr o fod, wedi bwcio'u gwestai moethus at flwyddyn nesaf yn barod) yn byw.

Hyd yn oed os ydyn nhw yn byw ar blaned arall, does bosib nad ydyn nhw'n gwybod faint o drafferth mae hyn yn mynd i achosi. Mae bobol yn cadw stwff yn y car - yn enwedig bobol fel ni, sy'n gwersylla mewn pabell ar y maes carafanio, efo tri o blant - a mae nw angen y car mewn achosion brys. Hyd yn oed petaen ni'n gallu fforddio carafan, fydd angen uffarn o un fawr i gadw stwff teulu o bump.

Yn ol y sanghedrin Eisteddfodol, roedd mwyafrif y rhai a atebodd yr holiadur diweddaraf yn dweud na ddylai ceir gael symud yn ol ac ymlaen ar hyd y maes carafannau i fynd i'r siop a'r toiledau ac ati. Sy'n ddigon teg - ond pam gwahardd yn gyfangwbl? Dwi'm yn meddwl fod yr opsiwn hwnnw'n cael ei gynnig yn yr holiadur (ond ella mod i'n rong yn hynny o beth).

Do, mi dorrodd merch fach ar feic ei choes wedi cael ei hitio gan gar yn y Bala. Ond pam ddim rheoli plant ar feics? Mae'r diawliad bach yn bla, fel gwyr unrhyw un sy di aros ar y maes 'na, tra bod y ceir o leia'n cadw at o dan 5 m.y.a.

Ac os ydi rhai pobol yn defnyddio'u ceir i fynd i'r toiledau, pam na all yr Eisteddfod ddarparu mwy o doiledau sy'n agosach at bob cae ar y maes? Mae hon yn hen gwyn - un bloc sy na i'r 800 o garafans. Ydio'n unrhyw syndod fod rhywun sydd a thrwyn ar y brethyn yn mynd i gael ei demtio i neidio i mewn i'w gar?

A be am y bobol yma sy'n defnyddio'u ceir i biciad i'r siop neu'r gawod? Dwi yn cytuno, fel mae'n digwydd, eu bod nhw'n ddiog a hunanol gan fwyaf. Be am ddirwyo'r diawliad, drwy system o flaendal na chawn nhw fo'n ol i gyd os ydyn nhw'n torri'r rheolau? Yn lle cosbi pawb.

Mae'n siwr mai rhyw barchusion cyfforddus a hunanol, adweithiol a hunangyfiawn sydd wedi cefnogi hyn - pobol sy'n barnu a neidio i gasgliadau, yn gweld cwpwl o geir ac yn dechra cwyno "fod pawb wrthi'n torri rheolau!" A phobl tebyg ar Bwyllgor y Steddfod wedi cytuno. "Pa ots gennym ni am y dyrfa fudr. Gadewch iddynt fwyta'r baw maen nhw'n rowlio ynddo."

A thra dwi'n son am fod allan o gysylltiad efo realiti, does gan y criw eifori towers yma uffarn o ddim amgyffred nag ots am realiti cymdeithasol ein hoes. Be maen nhw'n feddwl am yr 800 o geir fydd wedi parcio mewn cae am wythnos - y cwbl yn llawn o ddillad ac eitemau teuluol eraill. Ydyn nhw wirioneddol yn meddwl na fydd llygad pob lleidr yn y sir a thu hwnt ar y cae hwn yn ystod yr wythnos?

Sgwn i faint o'r penna swej adweithiol ma sy'n dweud eu bod nhw'n 'hapus efo'r cyhoeddiad newydd yma,' fydd yn newid eu meddyliau mwya sydyn ar ol piciad i'w car i nol twb o liwb rhyw fora, a ffendio'u preisd Volvo estate yn wag ac yn sefyll ar frics?

Pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Cymru - pryd mae nhw'n mynd i ddysgu? Troi mewn cylchoedd llai a llai, y clwb egsgliwsif ma sy'n benderfynol o gadw diwylliant Cymraeg mor gul ac amherthnasol i'r werin datws ag sy'n bosib, a'i gwneud hi mor anodd a phosib iddyn nhw fynychu'r wyl. Hara-kiri diwylliannol haleliwia amen.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Ergyd arall i deuluoedd gan yr Eisteddfod

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 01 Rhag 2009 7:20 pm

Un ateb posib byddai caniatau mynediad i geir pan yn gosod pabell/carafan, ond os yw'r car yn gadael y maes carafannau/pebyll, bydd dim hawl mynd nol ar y maes carafannau/pebyll? O ran y rhai sy'n gyrru i'r toiledau, os yw stiward yn gweld car yn symud tu fewn i'r maes carafannau/pebyll (pan nad ydynt yn gosod y garafan/babell), gellir gofyn iddynt adael y maes ac atal y car rhag dod nol i'r maes. Byddai gwneud hyn yn ddigon hawdd trwy roi cerdyn arbennig i bawb sy'n llogi gofod, sy'n cael ei gymryd pan mae'r car yn mynd ar y maes am y tro 1af. Wedyn os ydyn nhw'n gadael, bydd dim cerdyn gyda nhw i ddod nol ar y maes. Gwneud synnwyr? ... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ergyd arall i deuluoedd gan yr Eisteddfod

Postiogan sian » Maw 01 Rhag 2009 7:59 pm

Fe wnes i e-bostio'r Steddfod yn syth pan welais i hwn - yn gofyn iddyn nhw adael i bobol gadw'u ceir wrth eu pebyll.
Mae'n hollol anymarferol cadw'r holl stwff i deulu mewn pabell - mae'r car fel cwpwrdd.

Yna, meddyliais - rhaid rhoi gwybod i Prysor - siwr fydd ganddo fe rywbeth i'w ddweud am hyn!

Rhy hwyr! Wedi achub y blaen arna i

A fyddai'n syniad i bawb sy'n aros mewn pabell gysylltu â'r Steddfod yn gofyn am gael cadw'u ceir wrth eu pebyll - heb eu galw nhw'n "barchusion cyfforddus a hunanol, adweithiol a hunangyfiawn" os oes modd, plis.

hywel@eisteddfod.org.uk
elfed@eisteddfod.org.uk
alan@eisteddfod.org.uk
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ergyd arall i deuluoedd gan yr Eisteddfod

Postiogan sian » Mer 02 Rhag 2009 9:11 am

Wedi cael e-bost gan y Steddfod bore 'ma

"Ar y funud, does dim bwriad i wahardd ceir rhag aros ger y babell, ond ein bod yn erfyn ar y preswylwyr hyn i beidio a symud y ceir. Cedwir yr hawl i wahardd unrhyw gerbyd sydd yn symud yn ddi-angen, ac/neu os yw'r tywydd yn wael."

Dydyn nhw ddim yn "barchusion cyfforddus a hunanol, adweithiol a hunangyfiawn" wedi'r cyfan :D
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 0 gwestai

cron