Madrwyddygryf a ddywedodd:Wedi trio fo yn barod. Diom byd arbennig.
Dwi'n meddwl bydd angen iddo ledu ychydig yn gynta cyn bydd modd gwneud penderfyniad (o'n rhan i beth bynnag). Wrth wylio'r fideo, roedd fy ngen ar y llawr. Yn ein ysgol ni, fel llawer eraill, dwi'n gwybod ein bod wedi bod yn defnyddio llwyth o raglenni ar gyfer hwn a'r llall, gyda bron dim yn siarad â'i gilydd - sawl enw a chyfrinair i gofio. O be dwi'n deall gall Wave gael gwared ar lawer o'r ffys gyda symud o un rhaglen i'r llall er mwyn cyfathrebu syniadau. Y rhan roeddwn yn hoffi oedd aml-golygu - llawer o bobl yn gweithio ar yr un ddogfen gyda newidiadau'n ymddangos ar gleintiaid pawb mewn amser go iawn. Gyda datblygwyr yn creu widgets newydd yn barod ar gyfer y lansiad swyddogol - wwwww.
Gwelais un defnydd arbrofol lle roedd testun yn cael ei gyfieithu 'on the fly' o'r Saesneg i'r Ffrangeg. Gydag amser, gall hwn greu chwildro.
Wylle taw fi sy'n naive.