Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 09 Rhag 2009 10:34 pm

Roedd yn wybyddus ers blynyddoedd ymysg aelodau Plaid Cymru fod gan Asghar syniadau bach yn doji. Ro'n i'n ymwybodol ers blynyddoedd ei fod yn gefnogwr brwd o'r teulu brenhinol er enghraifft. Dwi'n cytuno gyda'r mwyafrif mae Cardi'n ei ddweud, ond dwi ddim yn credu bod gan 'unrhyw un' hawl i sefyll i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru, oes e? Mae rhaid i unrhyw un sydd am sefyll i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholaeth neu ar restr rhanbarth gael ei dderbyn gan bwyllgor canolog Plaid Cymru fel ymgeisydd addas. Ydw i'n gywir Cardi? Cyn ei dderbyn fel ymgeisydd addas, oni ddylai'r pwyllgor canolog fod wedi gofyn iddo beth oedd ei safbwynt ar hunan reolaeth i Gymru a materion eraill o bwys?

Roeddwn yn arfer cefnogi gwahaniaethu positif, er mwyn rhoi mwy o gyfle i elfennau mewn cymdeithas nad oedd yn cael eu cynrychioli yn deg yn y Cynulliad (e.e. pobl ifanc, menywod, lleiafrifoedd ethnig ayb) ond ar ôl y ffradach yma, dwi ddim mor siwr!!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Ray Diota » Mer 09 Rhag 2009 10:57 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Roeddwn yn arfer cefnogi gwahaniaethu positif, er mwyn rhoi mwy o gyfle i elfennau mewn cymdeithas nad oedd yn cael eu cynrychioli yn deg yn y Cynulliad (e.e. pobl ifanc, menywod, lleiafrifoedd ethnig ayb) ond ar ôl y ffradach yma, dwi ddim mor siwr!!


oedd na wahaniaethu positif o blais Asghar? sai'n meddwl bod e, ennill y bleidlais nath e...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 09 Rhag 2009 11:10 pm

Ray Diota a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Roeddwn yn arfer cefnogi gwahaniaethu positif, er mwyn rhoi mwy o gyfle i elfennau mewn cymdeithas nad oedd yn cael eu cynrychioli yn deg yn y Cynulliad (e.e. pobl ifanc, menywod, lleiafrifoedd ethnig ayb) ond ar ôl y ffradach yma, dwi ddim mor siwr!!


oedd na wahaniaethu positif o blais Asghar? sai'n meddwl bod e, ennill y bleidlais nath e...


Doedd dim rheol penodol yma, ond dwi'n credu (fel sydd wedi ei nodi yma) fod tipyn o bwysau wedi ei roi ar aelodau'r blaid yn y de ddwyrain i gefnogi Asghar fel yr aelod 1af o leiafrif ethnig.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Sleepflower » Iau 10 Rhag 2009 8:50 am

Nanog a ddywedodd:Felly, mewn hystungau cyhoeddus, fe wnaeth aelodau De Ddwyrain Plaid Cymru dewis Ashgar i fod yn ymgeisydd?! :?


Fel sydd wedi cael ei nodi gan sawl un ar yr edefyn, do, mewn hystyngiadau cyhoeddus, gan aelodaeth y Blaid, nid gwleidyddion etholedig yn unig, o fewn Rhanbarth Etholiad De Ddwyrain Cymru yn unig.

Nanog a ddywedodd:Nag oes unrhyw broses sgrinio gan y blaid?


Eto, fel sydd wedi cael ei gan sawl un ar yr edefyn, oes. Mae unrhwyun sydd yn dymuno sefyll mewn etholiadau Cynulliad, San Steffan neu Ewrop yn gorfod llenwi ffurflen gais a chael cyfweliad gan aelodau'r Pwyllgor Gwaith.

Nanog a ddywedodd:Trueni na fyddent yn mabwysiadu ambell i rheol o'r Eisteddfod ee 'Neb yn deilwng'.


Jiw, ti di bod yn gwneud dy ymchwil... :rolio: Mae opsiwn o'r fath yn bodoli. Gall aelodau dewis ail-agor enwebiadau (neu RON, h.y. re-open nominations) os nad ydynt eisau ethol un o'r ymgeiswyr i'r rhestr ymgeiswyr rhanbarthol.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Sleepflower » Iau 10 Rhag 2009 9:10 am

Ychydig o bwyntiau ychwanegol:

1. Mae'r hyn mae Mohammad Ashghar wedi gwneud yn siomedig iawn, ond, yn anffodus, o fewn y rheolau. Y broblem yw fod gan hawl i aeldoau a'u hetholwyd ar y rhestr fel aelodau plaid wleidyddol i newid eu plaid o fewn sesiwn Cynulliad. Mae hyn yn hollol anemocrataidd, ac yn dangos gwendid sylfaenol yn y rheolau. Does dim ots pa blaid yr ydych yn eu cefnogi, a dyw hyn ddim yn gwestiwn amdan os yw'r Ceidwadwyr neu Plaid Cymru yn edyrch yn wael. Y gwir yw mae hyn yn broblem i ni i gyd.

2. Sai'n derbyn cyfiawnhad Mohammad Asghar wrth ddweud mai ond o 500-ish pleidlais cipiodd Plaid Cymru ail-sedd y rhestr o'r Ceidwadwyr, a hynny oherwydd ei bleidlais bersonol e. Gelllir dadlau byddai'r Cyng Colin Mann (dylai bod yn AC erbyn hyn), oedd yn 3ydd ar rhestr Plaid Cymru, wedi cipio'r un faint os nad mwy o bleidleisiau yn ardal Caerphilly oherwydd ei boblogrwydd personol yntau, petae'n 2il ar y rhestr ac yn debygol o gael ei ethol.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Cardi Bach » Iau 10 Rhag 2009 10:21 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd: ond dwi ddim yn credu bod gan 'unrhyw un' hawl i sefyll i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru, oes e? Mae rhaid i unrhyw un sydd am sefyll i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholaeth neu ar restr rhanbarth gael ei dderbyn gan bwyllgor canolog Plaid Cymru fel ymgeisydd addas. Ydw i'n gywir Cardi? Cyn ei dderbyn fel ymgeisydd addas, oni ddylai'r pwyllgor canolog fod wedi gofyn iddo beth oedd ei safbwynt ar hunan reolaeth i Gymru a materion eraill o bwys?


Mae gan unrhyw aelod - sydd wedi bod yn aelod ers 12 mis - yr hawl i roi eu henwau ymlaen ar gyfer y rhestr genedlaethol - sef y rhestr canolog o ddarpar ymgeiswyr.

Os oes yna wendid yn y drefn y ddewis ymgeisyddion, mae'r gwendid yn gorwedd yn y broses derbyn person i fod ar y rhestr genedlaethol. Mae panel o gynrychiolwyr o'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol (etholir y Pwyllgor Gwaith gan yr aelodaeth yn y gynhadledd flynyddol) - fel arfer 3 aelod - yn cynnal cyfweliad gyda'r person, ac yna yn dweud wrth y Prif Weithredwr os ydyn nhw'n derbyn y person i fod ar y rhestr ai peidio. Mae'r gwendid yn y ffaith nad oes yna set o gwestiynnau penodol iw holi, er enghraifft, barn yr unigolyn ar y drefn gyfansoddiadol (annibyniaeth) ayb. Wedi dweud hyn, mae hyn yn mynd nol at un o mhwyntiau i ynghynt - mewn sawl ystyr pam ddylid gofyn hynny i rywun sydd wedi ymaelodi a'r Blaid ac wedi bod yn talu i goffrau'r Blaid ers blwyddyn? pam ddylid gofyn os ydyn nhw'n credu ym mholisiau ac egwyddorion craidd y Blaid? Byddai rhywun feddwl mai dyna pam eu bod nhw'n ymaelodi, er mwyn gwireddi'r weledigaeth honno! Yn amlwg ddim. Ond rhaid pwysleisio eto mai'r unigolyn sydd yn camarwain, mae'r Blaid yn gweithredu mewn ewyllys da.

Ar fater arall, mae sylwadau oscar a ddarllenais i ar Golwg360 ddoe wedi fy ngwylltio!
Gadewch i ni atgoffa ein hunain o'r hyn y dywed yr adroddiad gwreiddiol yn y BBC:
Asked why he had stood for Plaid Cymru when he was opposed to independence for Wales, he said his voice had been that of "a little parrot in a jungle", with little chance of changing Plaid's stance on the issue.


Ond yna beth yw'r dyfyniad ganddo yn Golwg360 ddoe?
“[Heb ymuno â Phlaid Cymru] byddwn i wedi bod yn berson coll mewn gwleidyddiaeth,” meddai


:ofn: Anghredadwy.
Mae'n cwyno nad oedd ei farn ar y drefn gyfansoddiadol yn cael ei glywed ym Mhlaid Cymru (pa syndod, am nad dyna bolisi y Blaid!), ond yna yn dweud nad oedd ei farn ar unrhyw bwnc gwleidyddol yn y byd yn cael ei glywed yn ei fywyd sifil cyn dod yn AC Plaid Cymru! Mae'n defnyddio Plaid Cymru, ac yn defnyddio ewyllys da yr etholwyr, i hyrwyddo ei hunan yn unig!

Ac yna heddiw yn y western mail daw cadarnhad pellach mai'r rheswm iddo adael mewn gwirionedd oedd am fod y Blaid wedi pasio polisi o beidio a chyflogi aelodau o'r teulu o'r newydd (hynny yw, dim rhai dnewydd ar ol Medi 09). Roedd Oscar eisioes yn cyflogi ei wraig ac yn dymuno cyflogi ei ferch o ddiwedd Medi ymlaen, ond atgoffwyd ef nad oedd hawl ganddo i gyflogi ei ferch yn ol rheolau'r Blaid. Rheolau a ddaeth yn sgil holl halibalw treiliau a'r awgrymiadau a ddaeth yn sgil ffiasco yr ASau - ymdrech onest a theg gan y Blaid i fod yn dryloyw a dangos gwerth am arian heb unrhyw gyhuddiadau o ffafriaeth i'r etholwyr.

Am berson bas, di-egwyddor, sbeitlyd...mi fydd e'n gartrefol iawn gyda'r Toris. Mae hyn am adlewyrchu yn wael iawn arnyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Josgin » Iau 10 Rhag 2009 12:11 pm

Bobl bach , am grinc o ddyn ! . Ac eto , go brin fod y nodweddion annymunol yma'n anhysbys bryd y daeth i'r amlwg fel 'cenedlaetholwr' .
Buasai'n ddiddorol gweld os y bu cynnydd sydyn yn nifer aelodau o dras 'ethnig' arbennig yn union cyn ei ddewis fel ymgeisydd . Mae pethau fel hyn yn eithaf cyffredin yn ninasoedd Lloegr. Adlewyrchu'n wael ar y Ceidwadwyr ? - 'dream on ! '
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 10 Rhag 2009 12:29 pm

So wot am be sy'n gyffredin yn Lloegr? Yn amlwg mae'r Ceidwadwyr ei eisiau am yr union resymau â Phlaid Cymru, sef cael aelod ethnig tocenistaidd, so ydi, mae o'n adlewyrchiad gwael iawn ohonyn nhw!

Ac o ystyried safon y dyn ei hun, gwaeth fyth ddywedwn i!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Aberblue » Iau 10 Rhag 2009 8:47 pm

Mae'n amlwg i mi fod eisiau i Blaid Cymru edrych o ddifri ar y ffordd maent yn dewis ymgeiswyr.

Dyma "Oscar" (fel mae pawb yn ei alw nawr) yn credu mewn Prydain Unedig a'r teulu brenhinol - digon teg, ond a ddywedodd wrth aelodau PC beth oedd ei gredoau?

Dyna chi Dafydd Wigley, aelod mwyaf galluog y Blaid o bell ffordd, yn cael ei roi yn AIL ar restr y Blaid am ei fod yn ddyn; oes unrhywun yn credu o ddifri fod Janet Ryder yn fwy o gyffeiliad i'r Cynulliad na Wigley? Mae'r un peth yn wir yn y de - rhoddwyd rhyw fenyw ddi-brofiad o flaen Simon Thomas am ei bod yn ddynes a dim rheswm arall.

O ddifri, ai dyma'r ffordd orau i ddewis Aelodau i'r Cynulliad?

Di ond un sail ddylai fod - yr ymgeiswyr gorau, dim ots os ydynt i gyd yn ddynion, yn wragedd, yn groenddu, yn wyn neu beth bynnag.
Aberblue
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Maw 26 Meh 2007 5:37 pm
Lleoliad: Ceredigion

Re: Mohammad Ashghar yn gadael Plaid Cymru

Postiogan Nanog » Gwe 11 Rhag 2009 12:45 pm

Diddorol clywed neithiwr ar 'Pawb a'i farn' fod yna grwp yn bodoli a elwir yn 'Muslims for Plaid'. Oes unrhyw fwy o wybodaeth am y grwp yma? Dwi'n gweld fod ganddynt meicro safle ar wefan Blaid Cymru lle mae son am Ashgar a gwrtwynebiad Blaid Cymru at y gyflafan yn Irac ayyb. Oes mwy o wybodaeth amdanynt? Pam eu bod yn cefnogi Plaid? Neu efalle taw dim ond modd i'w llais yn erbyn y rhyfel yw Plaid Cymru?

Dwi newydd ddod o hyd i hwn:


Mae'r boi 'ma yn deall yn iawn.......

Rwyf i’n wastad wedi bod yn falch o fod yn Foslem Cymreig o dras Bangladeshi, ac mae gennyf ymdeimlad cryf o berthyn i Gymru. Dim ots beth yw ein cefndiroedd gwahanol, yr ydym oll yn ymdrechu am yr un nod, am gydraddoldeb cyfle a mwy o annibyniaeth i’n cenedl ni, gyda mwy o reolaeth dros ein materion ein hunain. Mae Plaid Cymru wedi rhoi’r cyfle i mi wneud gwir wahaniaeth i’m cymuned a’m gwlad.


http://www.mswlimiaid.plaidcymru.org/co ... =898;lID=2

Dwi'n credu taw beth dwi'n ceisio dweud yw fy mod yn gobeithio fod y bobl 'ma yn gwybod beth mae Plaid Cymru yn sefyll drosto - roedd Ashgar wedi cymusgu, neu'r Blaid....neu hyd yn oed y ddau ohonynt.....neu yn wir, efalle taw fi sydd wedi camddeall? Mae'n bosib eu bod wedi cael sawl 'Clause 4 moment' yn ddiweddar........ :? Gwelidyddion ydynt wedi'r cyfan......
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai