Helo Gîcs!
Mae na gynlluniau ar droed i (gyd)drefnu'r BarCampcyntaf Cymraeg - Hacio'r Iaith.
Y bwriad ydi cael diwrnod o rannu gwybodaeth a thrafod y we yn y Gymraeg. Gall hyn fod yn wefannau Cymraeg, yn ddefnydd Cymraeg ar wefannau eraill, neu jest yn drafod stwff gwe amrywiol, ond yn y Gymraeg. Da ni'n anelu ar hyn o bryd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn y 30ain Ionawr, yn rhywle yn Aberystwyth, ond mae'r rhain i'w cadarnhau.
Mae na gofnodion blog ar Metastwnsh a Quixotic Quisling sy'n esbonio'n well chydig o'r syniadau tu ôl i'r peth, ond rydyn ni eisiau ei drefnu fel cynhadledd agored, h.y. mae popeth yn cael ei drefnu gan y mynychwyr, gan gynnwys pa gyflwyniadau sydd am ddigwydd a pa ffurf mae'r peth yn gymryd.
Os da chi isio cyfrannu, [=http://hedyn.net/hacio_r_iaith#sesiynau_arfaethedigurl]gallwch chi gynnig siarad am rywbeth sy'n eich diddori[/url], cynnig syniad am rywbeth i rywun arall drafod,helpu gyda rhyw elfen o'r trefnu a hyrwyddo, neu jest dod i gymryd rhan ar y dydd.
Mae o yn bwrpasol wedi ei anelu at bob math o ddefnyddwyr y rhyngrwyd: o flogwyr a chynhrychwyr cynnwys i raglennwyr a dylunwyr gwefannau. Bydd na sesiynau mwy technegol - sef yr elfen Hacio - ar gyfer rhaglennwyr profiadol ac amrhofiadol. Gobeithio bydd na ryw elfen ohono at ddant pawb.
Ond wnaiff hynny ond gweithio os mae pobol yn fodlon dod i siarad felly sticiwch o yn eich dyddiadur a rhowch eich enw lawr i ddod. Dwi'n recno bydd o'n wych o gyfle i sgwrsio'n frwd gyda phobol o'r un anian, dysgu rhywbeth newydd a thrio meddwl am ffyrdd gwell o wneud pethau. Bydd o'n hollol anffurfiol, a dim byd tebyg i gynhadledd lychlyd, a gobeithio byddwn ni'n cael digwyddiad cymdeithasol ar ddiwedd y dydd (h.y. bŵz!).
Byddwn ni hefyd yn annog pawb sy'n dod i gofnodi a thrafod y digwyddiad ar-lein yn fyw ar amrywiol blatfformau, fel bod posib cael cyfranniadau gan bobol nad sy'n gallu dod hefyd.
Felly ewch draw i'r Wici ar gyfer y digwyddiad, a chyfrannwch ato fo. Neu fel arall, gadwch sylw fan hyn, neu ar y blogiau sy'n sôn amdano a byddwn ni'n rhoi rheiny ar y Wici hefyd.
Gobeithio gallwch chi ddod! Os ddim gadwch ni wybod be da chi'n feddwl yndê.