Dwi wedi sylwi ar hyd y blynyddoedd fod pobl o'r chwith wastad yn fwy hoff o wthio'u syniadau a mynegi eu barn yn chwyrn ar bobl.
Cefais brofiad amhleserus y penwythnos hwn. Roedd ffrind i ffrind i fi yn dechrau ymosod ar Bush ar ol darllen papur dydd Sul. Wnaeth o ddweud datganiadau wrth-Americanaidd go iawn yn gyhoeddus. Hefyd fe wnaeth o ddatganiadau gwrth-Gristnogol.
Nid oedd y boi yma'n gwybod fy naliadau gwleidyddol i, ac i fod yn berffaith onest sgen i ddim llawer o fynedd dadlau am wleidyddiaeth gyda pobl ar chwarae bach, yn enwedig mewn ty tafarn. Ond roedd y person yma'n mynd ymlaen ac ymlaen yn gwneud datganiadau gwrth-Americanaidd, galw Bush yn 'war criminal' ac yn y blaen. Roedd y dadleoun yn chwerthinllyd a wnes i ddim dangos fy nheimladau ar hast.
Dwi'n meddwl mai'r rheswm roedd o'n myn ymlaen am y pwnc oedd roedd o'n disgwyl am nod gen i o gytundeb. Wedi'r cyfan roeddwn wedi cytuno a phopeth roedd wedi ei ddweud am y gem rygbi ddydd Sul ac yn meddwl mod i'n dod ymlaen a fo'n iawn.
Ond ar ol bron i hanner awr o gadw'n ddistaw a trio newid y pwnc roedd yn rhaid i mi ddechrau stopio fo ar ol iddo wneud datganiad a'i gwestiynu. Roedd o wedi synnu ar y dadleuon cryf a'r cwetiynau anodd roedd gen i i'w gynnig iddo - does neb yn cael 'easy ride' gen i pan mae'n dod i wleidyddiaeth. Os yw nhw'n trio gwthio eu syniadau arnaf fi rhaid iddyn nhw ddysgu mod i ddim yn hawdd yn derbyn beth mae nhw'n ddweud o gwbl, rhaid i nhw fy mherswadio i hefo rhesymeg a thystiolaeth - dyna sut mae dadlau.
Wel, ar ol hanner awr o roi triniaeth Paxman-esque i'r boi ma roedd o yn edrych braidd yn wirion. Dwi ddim yn meddwl ei fod wedi dadlau i'r safon a'r 'intensity' yna o'r blaen.
Yn anffodus, roedd o'n dechrau bod yn sarhaus ac yn bersonol. 'Rattled' yw'r gair. Roeddwn i'n tybio ar adegau fod o'n ystyried taflu dwrn ond roeddwn i'n gwybod fuasai o ddim gan mod i'n fonheddig hefo fo. Wnaeth o ddechrau tori ar draws fi hefyd. Dwi'n meddwl erbyn y diwedd fod o'n credu os oedd o'n gweiddi drostaf i ei fod o'n ennill y ddadl. Hefyd drwy weiddi drosta i doedd o ddim yn gallu clywed mwy o fy nadleuon.
Y pwynt dwi eisiau ei wneud yw, dwi wedi dod ar draws amryw o bobl sydd yn hoffi gwthio eu syniadau, a rhan fwyaf o'r amser mae nhw'n bobl o'r chwith. Dwi'n ffeindio eu syniadau'n 'offensive' go iawn (ond dyw nhw ddim yn gwybod hyn). Hefyd mae nhw fel arfer yn gas yn erbyn crefydd.
Fel rheol dwi ddim hefo diddordeb trafod crefydd na gwleidyddiaeth mewn ty tafarn ond yn anffodus mae llawer o'r adain chwith methu stopio eu hunain gan orfodi i mi ddechrau eu cwesitynu.
Yn gyffredinol dwi erioed wedi clywed person o'r dde yn dechrau trafodaethau yn gyhoeddus.
O fy mhrofiad i felly mae'r chwith bob amser yn fwy digwylidd ac yn hoffi gwthio'u syniadau a dwi'n ffeindio hyn yn ddigwylidd gan fod crefydd a gwleidyddiaeth yn bynciau sensitif iawn. Dwi'n ffeindio fo'n rude pan mae nhw'n dechrau trafod pynciau fel hyn yn enwedig mewn llefydd cyhoeddus.
Mae pobl o'r dde fel arfer yn cadw'u syniadau i nhw eu hunain.