Dw i'n meddwl, yn Lloegr, pan fydd pobl yn sôn am y Methodist Church, maen nhw'n golygu Wesleaid, ond pan rŷn ni'n sôn am y Methodistiaid, rŷn ni'n sôn am y Presbyteriaid (yr hen Fethodistiaid Calfinaidd).
Dw i'n meddwl mai'r Methodistiaid Calfinaidd oedd y "Methodistiaid creulon cas, Mynd i'r capel heb ddim gras"!
Mae'r
Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru (y Wesleaid) yn aelodau o
The Methodist Church of Great Britain. Dyma dipyn am beth maen nhw'n gredu.
Dydi Eglwys Bresbyteraidd Cymru ddim yn rhan o gyfundrefn Brydeinig. Mae'n eglwys ddwyieithog. Dyma'r
Gyffes Fer o'u Ffydd.Mae'r Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys Bresbyteraidd yn rhan o gyfundrefnau mawr.
Gyda'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr, y gynulleidfa leol yw'r 'eglwys' ond maen nhw'n rhan o undebau - sy'n eu gwarchod ond nid yn eu rheoli
Mae eglwysi'r Annibynwyr yn perthyn i
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac mae gan eglwysi'r Bedyddwyr drefniant tebyg gydag
Undeb Bedyddwyr Cymru.
Mae eglwysi Efengylaidd Cymraeg fel rheol yn annibynnol dw i'n meddwl. Mae eu diwinyddiaeth nhw'n Galfinaidd - i gyd, am wn i! Dw i ddim yn siwr beth yw'r berthynas rhwng yr eglwysi efengylaidd a
Mudiad Efengylaidd Cymru - "Cymdeithas o unigolion ac eglwysi yw Mudiad Efengylaidd Cymru (MEC), sy’n derbyn y Beibl fel Gair Duw, ac yn ei dderbyn fel sylfaen i holl faterion ffydd a bywyd; ac yn dibynnu’n llwyr ar yr Arglwydd Iesu Grist, ei fywyd, ei farwolaeth a’i atgyfodiad."
O ran diwinyddiaeth yr enwadau traddodiadol - mae'n dipyn o hotsh-potsh - gewch chi bobl sy'n credu'r stori am y creu yn Genesis fel y mae'n cael eu hadrodd ochr yn ochr â phobl sy'n credu mai dyn da oedd Iesu, nid Mab Duw.
Erbyn meddwl, mae'n dipyn o syndod bod y cyfundrefnau wedi dal gyda'i gilydd mor hir!