Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 17 Ion 2010 5:07 pm

Ond o gymryd mai pynciau bach, theoretig sy'n cael y fwyell, dwi ddim yn deall pam mae Cymdeithaseg yn mynd. Mae'n bwnc coman, poblogaidd, galwedigaethol ac mae digon o ariannu arno o'r tu allan, gan yr Heddlu ac ati. Yn yr oes newydd wallgo hon lle mae prifysgolion ar gyfer pob Twm, Dic a Harri, ac yno i ddarparu rhyw rwtsh galwedigaethol yn lle pynciau academaidd go iawn, gellid deall pam mae Diwinyddiaeth yn mynd - mae'n unol â'r agwedd newydd sy'n troi prifysgolion yn bolytechnics. Ond yn y fath fyd, mae'r penderfyniad i gael gwared ar Gymdeithaseg - Y pwnc galwediaethol coman - yn od.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 18 Ion 2010 9:33 am

Ron i'n credu mai galwedigaethol oedd Diwinyddiaeth!
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 18 Ion 2010 3:55 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:gellid deall pam mae Diwinyddiaeth yn mynd


Pam felly Guto?

Yn gyntaf rhaid cofia mae bychan iawn ydy gwedd Ddiwinyddol yr adran bellach - prif ffocws yr adran ydy Astudiaethau Crefyddol. Mae hi'n adran fechan ydy, ond yn adran dda yn arbennig felly o ran cyfraniad i ymchwil Cymraeg a Chymreig - yr unig adran Grefydd yn y wlad sy'n gwneud cyfraniad felly. Maen bwysig hefyd nodi fod nifer y myfyrwyr wedi bod yn codi dros y bum mlynedd diwethaf yn unol ar diddordeb newydd cyffredinol ers 2001 mewn Crefydd a'i effaith ar gymdeithas a'r byd. Y mae'r adran yn y du hefyd - yn talu am eu hun bob blwyddyn ac yn denu pres ymchwil. Maen debyg mae'r unig broblem oedd i'r adran dderbyn marc is na'r hyn roedd hi'n ddisgwyl gan yr RAE (Research Assessment Exercise) - ond roedd hynny oherwydd i ddau aelod o'r staff adael jest cyn yr RAE ac nid oedd modd gwneud penodiadau mewn pryd - pan fo aelod o staff yn gadael y maen cymryd ei ymchwil gydag ef - felly mewn adran fach gyda llai na deg o staff roedd colli dau yn amlwg yn mynd i sgiwio marciau'r RAE.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

Postiogan sian » Llun 18 Ion 2010 4:31 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
dawncyfarwydd a ddywedodd:gellid deall pam mae Diwinyddiaeth yn mynd


Pam felly Guto?


Darllen y frawddeg gyfan: "Yn yr oes newydd wallgo hon lle mae prifysgolion ar gyfer pob Twm, Dic a Harri, ac yno i ddarparu rhyw rwtsh galwedigaethol yn lle pynciau academaidd go iawn, gellid deall pam mae Diwinyddiaeth yn mynd - mae'n unol â'r agwedd newydd sy'n troi prifysgolion yn bolytechnics."

(Dim bod fy angen i i amddiffyn Guto - na 'mod i'n cytuno o anghenraid mai rwtsh yw pynciau galwedigaethol) :wps:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 18 Ion 2010 6:36 pm

Yep - dwi ddim yn meddwl ei fod o'n benderfyniad da, dwi'n meddwl ei fod o'n "unol â'r agwedd newydd sy'n troi prifysgolion yn bolytechnics".

Be o'n i'n ddweud oedd ei bod hi'n rhyfedd bod Cymdeithaseg yn mynd yn y fath hinsawdd.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

Postiogan Josgin » Llun 18 Ion 2010 7:12 pm

Os yw cymdeithaseg yn mynd, mae rhyw dda ymhob rhyw ddrwg .
Golygwyd diwethaf gan Josgin ar Llun 18 Ion 2010 10:06 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

Postiogan obi wan » Llun 18 Ion 2010 9:37 pm

Mae Sioni'n iawn, Diwinyddiaeth, yn draddodiadol, yw'r pwnc galwedigaethol yn anad yr un. Ac yn draddodiadol eto, mae tipyn o gydbwysedd rhwng yr academaidd a'r galwedigaethol yn dderbyniol ac yn ddigon iach mewn prifysgol. Ond beth am y pynciau rwtsh-ratsh pur, nad ydyn nhw na galwedigaethol nac academaidd? Y rhain ddylai fynd: Hamdden a Thwristiaeth, Gwyddor Chwaraeon, Cyfathrebu (neu Diwydiannau Creadigol) !! Ond nid fel'na mae fandaliaid a siarlataniaid Bangor yn ei gweld hi. Ac Adrannau Cymraeg, gwyliwch eich cefnau! mae'n amlwg bod ymgyrch i ddiraddio'r pwnc drwy golegau Cymru.
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

Postiogan Darth Sgonsan » Maw 02 Chw 2010 1:01 pm

elfen o'r pwys mwyaf i garedigion y theatr yn hyn oll yw'r Ganolfan Arti newydd gafodd ei gaddo i ddod yn lle Theatr Gwynedd. Gyda'r lle newydd i gostio £35m, a dim ond £15m o grant o'r cynulliadm, mae'n amlwg fod twll mawr du yn y coffrau

ai'r hyn sydd yma yw: er mwyn cael adeilad newydd crand rhaid chwalu addysg cyfrwng Cymraeg?

beth am gadw'r dysgu Cymraeg a rhoi cot o baent a ffenestri newydd yn Theatr Gwynedd?

(fedra i ddim aros i weld yr hysbyseb am joban Merfyn i gael tagu ar fawredd y cyflog. Yn ol Phil Dew fydd yr Is-Ganghellor yn cael mwy o gyflog na Phrif Weinidog Gwledydd Prydain, a hynny i fugeilio rhyw 2,000 o ddefaid academaidd a'u mwythwrs compiwtars)
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

Postiogan obi wan » Sul 07 Chw 2010 6:44 pm

Pwy fyddai aelodau'r Maes yn ei roi -- neu ddim yn ei roi -- i olynu Merfyn ac ennill y cyflog mawr yna? Ydi o o bwys? Ynteu a fyddai coes brwsh yn gwneud y tro? Ydi hi'n bwysig cael Cymro? Beth am gael Sais o ran hwyl?
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 08 Chw 2010 2:05 pm

Dwi wedi crynhoi rhai meddylai ar fy mlog am hyn bellach. Dyma rannu nhw fan hyn hefyd.

I ddechrau maen bwysig nodi fod oddeutu 20% o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor yn yr adrannau sydd dan fygythiad. A chymryd yr Adran Addysg a’r Adran Gymraeg allan o’r darlun y mae’r ffigwr yn nes at 40%. Mewn gair, bydd cau yr adrannau yma yn golygu cwymp syfrdanol yn nifer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor.

Ac mae’r Adran Gwyddorau Cymdeithas a’r Adran Ddiwinyddiaeth yn cynnig rhywbeth unigryw a phwysig i’r secotr. Dyma ydy’r unig adrannau yng Nghymru sy’n dysgu’r cyrsiau yma trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag a bod yn cyflawni gwaith ymchwil Cymraeg a Chymreig unigryw, pwysig a safonnol.

Prif ddarparwr presennol addysg Gymraeg ydy Bangor ac felly mewn cyfnod lle mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ar lefel genedlaethol i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg yn y sector maen drist gweld y prif ddarparwr bresennol yn rhwyfo’r ffordd arall. Tybed beth fydd gan yr Arglwydd, Llywydd Prifysgol Bangor, i ddweud am hyn.

Maen bur annhebygol, gwaetha’r modd, fod y gweithgor sydd wedi awgrymu cau’r adrannau ym Mangor wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i effaith hyn ar addysg Gymraeg a Chymreictod y sefydliad. Tybed a gododd hyn ar eu radar o gwbl? Os naddo, yna y mae hynny yn arwyddocaol ynddo ef ei hun ac yn dangos natur agwedd uwch dimau rheoli ein prifysgolion tuag at addysg Gymraeg ac yn cryfhau’r ddadl mewn gwirionedd dros Goleg Ffederal Cymraeg.

Mi fydd penodi Is-Ganghellor newyddi i olynu Merfyn Jones yn allweddol i ddatblygiad addysg Gymraeg ym Mangor. Er y byddai hi’n fanteisiol ac yn ddelfrydol i’r Is-Ganghellor newydd allu siarad Cymraeg, fy marn i yw fod agwedd yr Is-Ganghellor newydd tuag at y Gymraeg yn bwysicach. Rydym ni, dros y blynyddoedd, wedi cael gormod o “Gymry Da” sydd heb godi bys i ddatblygu addysg Gymraeg felly dydy gallu siarad yr iaith ddim yn ddigon mewn gwirionedd. Roedd Merfyn Jones yn siarad Cymraeg ond maen debyg ei fod ef yn awr yn gadael mewn cyfnod o ddirywiad a bygythiad i addysg Gymraeg sy’n dangos fod ymrwymiad yr un mor bwysig a’r gallu i siarad Cymraeg. Ddangosodd Merfyn Jones ddim digon o ymrwymiad nac arweiniad gwaetha’r modd - pe bae e wedi ni fyddai e’n gadael mewn cyfnod o ddirywiad na fyddai?

Fy marn i yw y bod yn rhaid i’r Is-Ganghellor newydd gael ymwybyddiaeth a phrofiad yn gweithio mewn cyd-destun Cymreig ac yn benodol ym maes datblygu addysg Gymraeg. Mi fydd hi’n drychineb i Brifysgol Bangor ac i ddyfodol addysg Gymraeg os bydd y Brifysgol yn ceisio parasiwtio rhywun i mewn o un o brifysgolion Lloegr na fydd ag unrhyw ymwybyddiaeth heb sôn am brofiad o’r cyd-destun Cymreig ac addysgu cyfrwng Cymraeg.

Dylai’r gallu a’r profiad i arwain Prifysgol Gymreig sy’n dysgu pethau trwy gyfrwng y Gymraeg gyda golwg ar ddatblygu hyn gael ei ysgrifennu i mewn i’r swydd ddisgrifiad. Y mae’n set tra wahanol o sgiliau i rheiny sy’n nodweddiadol o rywun sydd wedi bwrw ei brentisiaeth mewn Uni yn Lloegr.

“Arbenigaethau” ydy’r buzz word mawr maen debyg ymysg tîm rheoli Prifysgol Bangor ar hyn o bryd – gwae iddyn nhw anghofio mae eu pennaf arbenigaeth y dylent ganolbwyntio ar ei warchod, ei feithrin a’i ddatblygu ydy ymchwil a dysgu cyfrwng Cymraeg a Chymreig.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron