sian a ddywedodd:Dw i ddim cweit yn siwr be ti'n feddwl ond swn i'n meddwl bod llyfr newydd Llwyd Owen - Mr Blaidd - yn ffitio'r disgrifiad reit dda.
Hmm, hwn yn edrych yn ddiddorol iawn - dwi'm yn siwr os bydd e'n ffitio i genre 'drygioni cudd' yntai yw'r drygioni drwyddi draw ac ar y wyneb, ond mae'n edrych yn llyfr diddorol eniwe...
Dwi di bod yn meddwl amdanni ac mae Martha, Jac a Sianco yn esiampl da o 'drygioni cudd'. Ar y wyneb mae'r teulu yn byw ar fferm bach neis yng Ngheredigion, pobl parchus ayyb....ond dan y wyneb mae na gyfrinach siocing sy'n gwenwynor sin hwylus...pob dim dan y wyneb, pawb yn cogio nad oes dim yn bod.
Drygioni cudd yw premis cyfresi megis: Twin Peaks a Midsomer Murder, a llyfr gwych Mari Strachen sef: The Earth Hums in B-flat...unrhywun arall wedi ei ddarllen?