CYFARFOD: Sefydlu Academi Heddwch i Gymru
7pm, Nos Fawrth, Chwefror 23, 2010
Festri’r Tabernacl, Teras Waterloo, Caerfyrddin
Nelly Maes (Llywydd Academi Heddwch Gwlad Belg)
Jill Evans ASE (Aelod Seneddol Ewropeaidd)
Dan nawdd Cymdeithas y Cymod, Caerfyrddin
Bydd llywydd Cynghrair Rydd Ewrop, sef Nellie Maes, yn dod i siarad. Hi yw llywydd Academi Heddwch gwlad Belg ac mae’n gweithio’n ddiflino dros heddwch byd eang. Bydd Jill Evans, Aelod Seneddol Ewropeaidd hefyd yn bresennol. Mae hi'n Is-Lywydd Plaid Cymru, yn llefarydd y blaid ar faterion Ewropeaidd a Rhyngwladol ac yn gadeirydd CND Cymru.
Dewch i gefnogi - nos Fawrth yn Festri Tabernacl am 7