Hedd - popeth yn iawn. Mae hi yn annodd gweld bod yna fersiwn Gymraeg ar gael a dyna pam y gwnes i feddwl nad oedd tudalennau Cymraeg i'w cael. Fel arfer, mae'r ddolen ar gyfer tudalennau Cymraeg ar ben y dudalen. Gwell fydda cael tudalen groeso sy'n gorfodi rhywun i ddewis iaith - hy does dim dewis diofyn - ac yna rhoi dolen i newid iaith ar frig pob tudalen, fel, e.e gwefannau cynghorau. Ers gwneud hynny, mae Cyngor Gwynedd yn cael 40% o ymwelwyr yn dewis y tudalennau Cymraeg!
Son am wefannau cynghorau, annodd cael gwell nac un Wrecsam. Er bod yr ardal yn llai Cymraeg na llawer o lefydd, tydw i erioed wedi cael sefyllfa lle nad oes tudalen Cymraeg cyfatebol i un Saesneg ar gael. Dyna fodel i gyrff fel URC a CPC
Er bod yna dudalennau Cymraeg ar wefan URC, nid oes gair o Gymraeg ar eu e-lythyr
. Fe ddylai fod yn gwbl ddwyieithog yn fy marn i.