Enwi Ty

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Enwi Ty

Postiogan SerenSiwenna » Maw 23 Chw 2010 12:20 pm

Hia pawb,

Dwi newydd symyd ty ac am rhoi enw cymraeg i fy nghartref er fy mod yn byw yng nghilgwri. Dwi wedi gweld ambell i dy lleol gyda enwau Cymraeg megis: Llyndir sy'n adlewyrchu'r ffaith fod yr ardal yn adnebyddus am y 'Flashes' sef air lleol (Cheshire) ar gyfer llyn neu pwll o ddwr. Mae yna hefyd Gorsydd (Marches) ac alla i weld nhw o'r lloft, dros y cae, ac meddwl o ni fysa'n neis cael enw sy'n adlewyrchu hyn ac ella defnyddio'r gair 'Gors' gan nad oedd syniad beth oedd gors tan i fi ddechrau darllen casgliad o streon fer gan Kate Roberts yn ddiweddar: O gors y bryniau...cyd-ddigwyddiad oedd hi heddiw i mi fynd at y geiriadur a ffeindio mai hyn oedd y gair am Marsh!

eniwe edrychais ar y gair 'view' ac mae'n debyg mai 'cip' yw'r gair yn y context yma? Dwi ddim eisiau gwneud nonsense or peth enwi Ty 'ma felly fydswn yn gwerthfawrogi unrhyw cyngor gallech ei cynnig..beth am:

Cip-Y-Gors
Cip-Y-Gorsydd
Cip-Y-Gorsdir(?)
Cip-o'r-gors(?)
Trem-Y-Gors/ gorsydd
Bwthyn-Y-Gors

neu oes syniadau eraill gan pobl sy'n profiadol/ fwy ymwybodol o'r traddodiad?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Enwi Ty

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 23 Chw 2010 12:41 pm

O dop fy mhen byddwn i'n dueddol o ddweud mai 'trem' ydi'r gair mwyaf "priodol" wrth enwi ty? Dydi 'cip' ddim yn swnio'n iawn - ond gan ddweud hynny dy le di ydio felly mi gei di alw fo'n hynny a fynni!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Enwi Ty

Postiogan SerenSiwenna » Maw 23 Chw 2010 1:09 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:O dop fy mhen byddwn i'n dueddol o ddweud mai 'trem' ydi'r gair mwyaf "priodol" wrth enwi ty? Dydi 'cip' ddim yn swnio'n iawn - ond gan ddweud hynny dy le di ydio felly mi gei di alw fo'n hynny a fynni!


Ah, ond dyma'n union y math o cyngor dwi angen chwel, achos dwi eisiau iddo sowndio'n 'authentic' ynde.

Felly Trem-y-gors...ydy gors yn swndio'n iawn yn y context? A'i 'Marsh' fysa chi'n ei ddeall y gair i'w olygu? Dylie fod yn: Trem-y-gorsydd neu Trem-y-gorsdir? neu beth am:

Ger-y-gors
Ger-y-gorsdir
Ger-y-gorsydd
Glan-y-gors
Glan-y-gorsydd
Glan-y-Gorsdir

Neu rhywbeth cwbwl wahannol?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Enwi Ty

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 23 Chw 2010 1:41 pm

Gelli di wrth gwrs ddefnyddio 'gwern' yn lle 'gors' e.e. Trem-y-gors, Trem-y-wern - y ddau yn swnio'n gwbl iawn i 'nghlust i, i fod yn onast dwi'n eitha eu licio. Dwi ddim yn licio 'Ger-' na 'Glan-' ar gyfer 'gors' na 'gwern' ond chwaeth bersonol ydi honno!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Enwi Ty

Postiogan SerenSiwenna » Maw 23 Chw 2010 3:09 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Gelli di wrth gwrs ddefnyddio 'gwern' yn lle 'gors' e.e. Trem-y-gors, Trem-y-wern - y ddau yn swnio'n gwbl iawn i 'nghlust i, i fod yn onast dwi'n eitha eu licio. Dwi ddim yn licio 'Ger-' na 'Glan-' ar gyfer 'gors' na 'gwern' ond chwaeth bersonol ydi honno!


Ha ha, ie, mae 'na rhywbeth fwy swynol/ llenyddol am 'Trem' dwi'n credu, dwi'n ei hoffi fwy na 'Min'. Oes yna stori i tarddiad 'Trem' yntau jest hen air ydyw?
Trem-y-gors
Trem-y-gorsydd
Trem-y-gorsdir

Hmm, 'Gwern' yn neis 'fyd tydi, a hynna yn treiglio hefyd (hoffi pethau sy'n helpu fi gofio sut i dreiglio/ treiglio!)

Trem-y-wern
Trem-y-wernau(?)
Trem-y-werndir?

Mi ydyw i yn hoffi enwau fel Glan, Glyn pan mae nhw'n mynd yn un air, megis: Glanrafon, GlynDyfrdwy...ond Glangors/ Glanwern/ Glyngors/ Glynwern - sut mae hyn yn taro'r glust?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Enwi Ty

Postiogan SerenSiwenna » Maw 23 Chw 2010 3:12 pm

Gyda llaw, unrhywun yn gwybod pam oedd casgliad streon fer Kate Robarts a'r teitl: O Gors y Bryniau?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Enwi Ty

Postiogan SerenSiwenna » Iau 25 Chw 2010 10:38 am

Oes yna unrhywun yma wedi enwi ei tai nhw yn ol rhywbeth fel gors/ wern sydd yn rhan o'r 'view'?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Enwi Ty

Postiogan Gowpi » Iau 25 Chw 2010 5:05 pm

Stryd o dai ble'm 'magwyd ym Methlehem (yr unig 'stryd') yw Trem y Garn, y Garn Goch yw'r bryn y tu ol i'r pentref (lle gwasgarwyd llwch Gwynfor Evans gyda llaw - rhaid ymweld a'r ardal hon!) ta beth, o'n i ar ddeall mai'r ystyr oedd 'yng nghysgod y garn'...? Fydde'n i'n cytuno nad yw 'Cip' yn briodol. Oes lliw arbennig i'r gors? Gorslwyd. Gorsddu. Ger-y-Gors gyda thinc neis iddi... rhaid i fi gyfaddef, dyw cors ddim yn apelio i fi ta beth, mae'n neud i fi feddwl am slwj!!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Enwi Ty

Postiogan SerenSiwenna » Sad 27 Chw 2010 4:20 pm

Gowpi a ddywedodd:Stryd o dai ble'm 'magwyd ym Methlehem (yr unig 'stryd') yw Trem y Garn, y Garn Goch yw'r bryn y tu ol i'r pentref (lle gwasgarwyd llwch Gwynfor Evans gyda llaw - rhaid ymweld a'r ardal hon!) ta beth, o'n i ar ddeall mai'r ystyr oedd 'yng nghysgod y garn'...? Fydde'n i'n cytuno nad yw 'Cip' yn briodol. Oes lliw arbennig i'r gors? Gorslwyd. Gorsddu. Ger-y-Gors gyda thinc neis iddi... rhaid i fi gyfaddef, dyw cors ddim yn apelio i fi ta beth, mae'n neud i fi feddwl am slwj!!


Hmm, os yw Trem yn gologu 'yn cysgod' dyw e ddim cweit yn iawn pan yn trafod gors neu Wern nacyw?

Cymryd y pwynt am y gair 'Gors' hefyd - os mai 'bog' y mae pobl yn ei ddeall amdanni dwi'm ishio hyn i'r ty, 'Marshland' dwi eisiau iddyn nhw feddwl amdanni neu 'fenland'...mae'r gorsydd yn gwyrdd/ arian ac yn ddel drosben...

Dwi di clywed son am 'Hafod-y-Wern' ffordd 'ma (Llangollen) Sgwn i os fysa hyn yn enw gwell?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Enwi Ty

Postiogan SerenSiwenna » Sul 28 Chw 2010 8:26 pm

Ger-Y-Gors
Trem-Y-Wern
Hafod-Y-Wern
Gorsdir
Werndir
Bwthyn-Y-Wern
Drws-Y-Wern
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron