Hia pawb,
Dwi newydd symyd ty ac am rhoi enw cymraeg i fy nghartref er fy mod yn byw yng nghilgwri. Dwi wedi gweld ambell i dy lleol gyda enwau Cymraeg megis: Llyndir sy'n adlewyrchu'r ffaith fod yr ardal yn adnebyddus am y 'Flashes' sef air lleol (Cheshire) ar gyfer llyn neu pwll o ddwr. Mae yna hefyd Gorsydd (Marches) ac alla i weld nhw o'r lloft, dros y cae, ac meddwl o ni fysa'n neis cael enw sy'n adlewyrchu hyn ac ella defnyddio'r gair 'Gors' gan nad oedd syniad beth oedd gors tan i fi ddechrau darllen casgliad o streon fer gan Kate Roberts yn ddiweddar: O gors y bryniau...cyd-ddigwyddiad oedd hi heddiw i mi fynd at y geiriadur a ffeindio mai hyn oedd y gair am Marsh!
eniwe edrychais ar y gair 'view' ac mae'n debyg mai 'cip' yw'r gair yn y context yma? Dwi ddim eisiau gwneud nonsense or peth enwi Ty 'ma felly fydswn yn gwerthfawrogi unrhyw cyngor gallech ei cynnig..beth am:
Cip-Y-Gors
Cip-Y-Gorsydd
Cip-Y-Gorsdir(?)
Cip-o'r-gors(?)
Trem-Y-Gors/ gorsydd
Bwthyn-Y-Gors
neu oes syniadau eraill gan pobl sy'n profiadol/ fwy ymwybodol o'r traddodiad?