tomsyn a ddywedodd: Dwi'm yn gweld be di'r drwg i dafarnai gynnal gigs pob wythnos ble mae mynediad am-ddim a bod y band yn cael ei dalu am y pres sy'n cael ei neud tu ol i'r bar.
Achos yn aml iawn nid y dafarn / bar ei hun sy'n trefnu.
tomsyn a ddywedodd:
Aml iawn dwi di meddwl mynd i gig a wedyn sylwi bod pris mynediad yn rhyw £6 a wedyn newid fy meddwl a peidio mynd.
Yn ddigon aml mi gei di weld 3 band am dy £6, sy'n aruthrol o rhad am oriau o adloniant. Mae pawb wedi mynd i ddisgwyl cerddoriaeth i gyd am ddim - downloads am ddim, gigs am ddim. Mi oedd pobl yn cwyno fod £25 yn ddrud am diced Sesiwn Fawr er mwyn y nefoedd! £25 am dwni-ddim-faint o artistiaid drwy'r dydd, a rheini o bob cwr o'r byd! Tydi cerddoriaeth a digwyddiadau ddim yn creu na threfnu eu hunain, a gorau po gynta i bobl sylwi ei fod o'n costio, ac os ydy nhw isho fo, mi fydd rhaid talu.
Pan mae'n bosib trefnu rhywbeth am ddim, yna gret, cyn belled a fod pawb ddim yn disgwyl i bob dim fod felly. A phan mae rhywun yn cwyno am orfod talu £6, tydi pethau ddim yn edrych yn rhy dda.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.