Enwi Ty

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Enwi Ty

Postiogan sian » Llun 01 Maw 2010 9:10 am

SerenSiwenna a ddywedodd:Ger-Y-Gors
Trem-Y-Wern
Hafod-Y-Wern
Gorsdir
Werndir
Bwthyn-Y-Wern
Drws-Y-Wern


Neis! Un peth i gofio - os ti'n neud nhw'n hyphenated neu fel tri gair, "y" fach sydd 'na.
Fel rheol hefyd, mewn enwau llefydd, os ydyn nhw'n hyphenated, llythyren fach sydd i'r rhan olaf - Cil-y-coed, Cil-y-cwm, Dinbych-y-pysgod, Betws-y-coed

Felly: Trem y Wern neu Trem-y-wern; Bwthyn y Wern neu Bwthyn-y-wern

"golwg" yw ystyr "trem" - fel yn "view" yn Saesneg - "Trem y Môr = Sea View

Mae "tremio" yn gallu golygu "edrych" - fel yn yr emyn "Tremio trwy gawodydd dagrau / Ar y groes yn unionsyth"

Mae "Gorsdir" a "Werndir" yn ffurfiau wedi'u treiglo. Dydw i ddim yn meddwl bod "Corsdir" yn swnio'n enw neis iawn!

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, mae "gwerndir" yn golygu "moorland" neu "savannah" ac mae "gwern" yn golygu "alder-grove, alder-marsh, swamp, quagmire, damp meadow, sometimes figuratively - hell) :ofn: :D
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Enwi Ty

Postiogan Nanog » Llun 01 Maw 2010 8:55 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:Oes yna unrhywun yma wedi enwi ei tai nhw yn ol rhywbeth fel gors/ wern sydd yn rhan o'r 'view'?


Dwi'n gwybod am 'Hafod-Y-Wern' ac hefyd....'Bwlch-Y-Wern'.....yng ngogledd Penfro.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Enwi Ty

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 02 Maw 2010 9:22 pm

Hefyd "Drem", pentre yn East Lothian o ble medrwch chi weld mynyddau mawr Gododdin (a Fife hefyd).
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Enwi Ty

Postiogan SerenSiwenna » Llun 29 Maw 2010 2:40 pm

sian a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:Ger-Y-Gors
Trem-Y-Wern
Hafod-Y-Wern
Gorsdir
Werndir
Bwthyn-Y-Wern
Drws-Y-Wern


Neis! Un peth i gofio - os ti'n neud nhw'n hyphenated neu fel tri gair, "y" fach sydd 'na.
Fel rheol hefyd, mewn enwau llefydd, os ydyn nhw'n hyphenated, llythyren fach sydd i'r rhan olaf - Cil-y-coed, Cil-y-cwm, Dinbych-y-pysgod, Betws-y-coed

Felly: Trem y Wern neu Trem-y-wern; Bwthyn y Wern neu Bwthyn-y-wern

"golwg" yw ystyr "trem" - fel yn "view" yn Saesneg - "Trem y Môr = Sea View

Mae "tremio" yn gallu golygu "edrych" - fel yn yr emyn "Tremio trwy gawodydd dagrau / Ar y groes yn unionsyth"

Mae "Gorsdir" a "Werndir" yn ffurfiau wedi'u treiglo. Dydw i ddim yn meddwl bod "Corsdir" yn swnio'n enw neis iawn!

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, mae "gwerndir" yn golygu "moorland" neu "savannah" ac mae "gwern" yn golygu "alder-grove, alder-marsh, swamp, quagmire, damp meadow, sometimes figuratively - hell) :ofn: :D


Ew am wybodaeth! Diolch Sian. Hmm, mae'n ymddangos fod y gair 'Cors' yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio 'bog' yn hytrach na 'marsh'. O ni wedi sidro 'Cors' oherwydd y cysylltiad hefo 'O Gors Y Bryniau' (Kate Roberts) ond o ni heb sylweddoli mai enw unpleasent oedd 'cors'. Hmm, gyda hynna mewn golwg felly 'Gwern' yw'r candidate gorau - er dwi'n reit disturbed i weld fod e'n gallu olygu 'Hell'!!??
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Enwi Ty

Postiogan SerenSiwenna » Llun 29 Maw 2010 2:47 pm

Nanog a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:Oes yna unrhywun yma wedi enwi ei tai nhw yn ol rhywbeth fel gors/ wern sydd yn rhan o'r 'view'?


Dwi'n gwybod am 'Hafod-Y-Wern' ac hefyd....'Bwlch-Y-Wern'.....yng ngogledd Penfro.


Ia, dyna o ni yn meddwl, o ni yn siwr bo fi di clywed am 'Hafod-y-wern' rhywbryd yn y gorffennol, swndio'n reit neis ynde...ond eto hoffwn i greu rhywbeth unigryw...

Hafod-y-wern
Trem-y-wern
Werndir
Bwthyn-y-wern.....
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Enwi Ty

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 29 Maw 2010 8:11 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:Ew am wybodaeth! Diolch Sian. Hmm, mae'n ymddangos fod y gair 'Cors' yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio 'bog' yn hytrach na 'marsh'.

Ond rhaid cofio fod "bog" yn dod o'r Aeleg/Wyddeleg "bog", sy'n golygu "meddal" (h.y. "tir meddal" yn yr ystyr cyffredinol, wrth gors...)
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Enwi Ty

Postiogan SerenSiwenna » Gwe 16 Ebr 2010 12:48 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:Ew am wybodaeth! Diolch Sian. Hmm, mae'n ymddangos fod y gair 'Cors' yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio 'bog' yn hytrach na 'marsh'.

Ond rhaid cofio fod "bog" yn dod o'r Aeleg/Wyddeleg "bog", sy'n golygu "meddal" (h.y. "tir meddal" yn yr ystyr cyffredinol, wrth gors...)


O! Rhaid i mi gyfaddau o ni yn reit taken hefo'r gair cors, a mae'n neud lot o sens os mai meddal mae'n olygu, ag eto, dyw e ddim yn air sy'n cael ei olygu marsh mae'n ymddangod, mwy bog yn yr ystyr unpleasent ynde...mae hyn yn engraifft or ffaith fod cael geiriadur yn handi a cyfieuthu, yn no substitute am wybod y gair trwy ei ddefnyddio ai chlywed yn cael ei ddefnyddio 8)
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai