6 Gwlad

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: 6 Gwlad

Postiogan rygbigog » Mer 17 Maw 2010 10:11 pm

Tymor anodd arferol i'r Cymru ar ol cymaint ar taith y Llewod flwyddyn diwethaf.

10 o'r tim gyntaf heb wedi cael tymor di anaf, fellu byddai'n hapus gyda'r tymor os mae'r tim yn llwyddianus yn erbyn yr Eidalwyr.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: 6 Gwlad

Postiogan Duw » Gwe 19 Maw 2010 7:48 am

Pwy sy'n becso am yr Eidal? Cyfle i brofi chwaraewyr ar ymylon y garfan. Ennill/colli - WGAF - 'ryn ni wedi colli yn erbyn y 3 tim a ddylwn fod wedi rhoi gem dda iddynt. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: 6 Gwlad

Postiogan cemegwr » Gwe 19 Maw 2010 2:06 pm

Duw a ddywedodd:Pwy sy'n becso am yr Eidal? Cyfle i brofi chwaraewyr ar ymylon y garfan. Ennill/colli - WGAF - 'ryn ni wedi colli yn erbyn y 3 tim a ddylwn fod wedi rhoi gem dda iddynt. :rolio:

Ti'n disgwyl gormod. Does dim llawer o gryfder mewn dyfnder gyda Chymru, gyda'r colledion yn dilyn taith y Llewod, annochel byddai tymor gwael.

Yn absennol (am ba bynnag reswm, ac am o leiaf un gem): Gethin Jenkins, Matthew Rees, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Andy Powell, Mike Phillips, Dwayne Peel, Henson, Mark Jones

Yn ogystal a hynny mae'r chwareuwyr sydd heb dangos eu bod ar eu gorau yn ddiweddar: Tom Shanklin, Ian Gough, Lee Byrne

Does dim syndod fod Cymru wedi ei chael yn anodd. Y syndod i mi yw y gallai Cymru fod wedi curo Lloegr a Ffrainc. Iwerddon oedd yr unig dim roddodd grasfa i Gymru. Yr ofn sydd gen i yw y bydd pobl Cymru yn dechrau troi yn erbyn Gatland heb gymryd popeth mewn i ystyriaeth ac heb feddwl na chawn ni hyfforddwr gwell rhwng nawr a chwpan y Byd.
cemegwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Gwe 09 Hyd 2009 10:52 am

Re: 6 Gwlad

Postiogan Duw » Sul 21 Maw 2010 6:01 pm

Allai gytuno i radde, er mae cryfder mewn bron pob safle. Yr unig wedide a weles i oedd Paul Jenkins. Roedd yr olwyr yn iawn. Perfformiade gwael gan unigolion a diffyg syniade - ffili ware beth sydd o'u blaenie nhw.

Yn erbyn yr Eidal ddoe - sawl gwaith a fethodd Cymru sgorio? Dyle rhywun rhoi cic mewn pen-ôl Hooky. Trachwantus - y cyfan sy ishe fe wneud yw rhedeg yn syth a phasio mewn da bryd.

Dwi ddim yn gofyn am ben Gatland ar blat, ond dwi yn disgwyl i'r tim ware gyda rhyddid a dychymyg. Mae'r play-makers yn bresennol. Mae ennill pel araf yn fater allweddol, er nid yw'n gallu esgusodi'r perfformiade gwael hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: 6 Gwlad

Postiogan cemegwr » Gwe 26 Maw 2010 7:47 pm

Duw a ddywedodd: Yr unig wedide a weles i oedd Paul Jenkins.

Pwy yw hwnna te?
cemegwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Gwe 09 Hyd 2009 10:52 am

Re: 6 Gwlad

Postiogan Duw » Gwe 26 Maw 2010 11:51 pm

Oh walocs. Ti'n gwbod pwy dwi'n meddwl - Paul James. Gormod o 'J's yn y garfan! :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron