SerenSiwenna a ddywedodd:Ger-Y-Gors
Trem-Y-Wern
Hafod-Y-Wern
Gorsdir
Werndir
Bwthyn-Y-Wern
Drws-Y-Wern
Neis! Un peth i gofio - os ti'n neud nhw'n hyphenated neu fel tri gair, "y" fach sydd 'na.
Fel rheol hefyd, mewn enwau llefydd, os ydyn nhw'n hyphenated, llythyren fach sydd i'r rhan olaf - Cil-y-coed, Cil-y-cwm, Dinbych-y-pysgod, Betws-y-coed
Felly: Trem y Wern neu Trem-y-wern; Bwthyn y Wern neu Bwthyn-y-wern
"golwg" yw ystyr "trem" - fel yn "view" yn Saesneg - "Trem y Môr = Sea View
Mae "tremio" yn gallu golygu "edrych" - fel yn yr emyn "Tremio trwy gawodydd dagrau / Ar y groes yn unionsyth"
Mae "Gorsdir" a "Werndir" yn ffurfiau wedi'u treiglo. Dydw i ddim yn meddwl bod "Corsdir" yn swnio'n enw neis iawn!
Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, mae "gwerndir" yn golygu "moorland" neu "savannah" ac mae "gwern" yn golygu "alder-grove, alder-marsh, swamp, quagmire, damp meadow, sometimes figuratively - hell)