Golwg360 yn lansio blog newydd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Golwg360 yn lansio blog newydd

Postiogan golwg360 » Iau 15 Ebr 2010 3:03 pm

Golwg360 yn lansio blog newydd

Mae’r gwasanaeth newyddion ar-lein Cymraeg, Golwg360, wedi lansio blog newydd sbon o’r enw ‘Blog Golwg360’! Bwriad y blog yw i roi llwyfan canolog i newyddiadurwyr y gwasanaeth ysgrifennu darnau sy’n mynegi eu barn ar faterion y dydd.
Yn ogystal a hyn, maeGolwg360 yn gobeithio recriwtio cyfranwyr eraill o faesydd amrywiol i gymryd mantais o’r cyfle i ddweud eu dweud ar y blog newydd.

Ond nid dim ond gosod llwyfan ar gyfer newyddiadurwyr ac arbenigwyr yw bwriad y blog, fel yr eglura Prif Weithredwr Golwg360 Owain Schiavone, “mae’r blog yn ymateb i geisiadau o sawl cyfeiriad i weld mwy o fynegi barn gan bobl ar Golwg360. Rydan ni hefyd yn gwahodd darllenwyr Golwg360 i gyfrannu – boed yn ysgrifennu darn am rywbeth maent yn teimlo’n gryf ynglŷn ag o, neu ymateb i farn cyfranwyr eraill.”

Mae diwrnod lansiad blog Golwg360 (dydd Iau 15 Ebrill) yn gweld sylwadau gan ohebydd Golwg360,Ifan Dylan, ar frwydr etholiadol yng Ngheredigion, yn ogystal a barn darlithydd cyfryngau Prifysgol Bangor, Llion Iwan, ynglŷn a’r ddadl teledu byw rhwng arweinwyr y prif bleidiau. Dros yr wythnosau nesaf bydd blogwyr amrywiol eraill yn ymuno â hwy, tra fod cynlluniau hefyd i ddefnyddio’r blog fel cyrchfan ar gyfer adolygiadau celfyddydol o bob math.

“Mae hwn yn amser da i ni lansio’r blog gan fod pawb yn awyddus i drafod yr etholiad cyffredinol, a byddwn ni’n gwneud defnydd helaeth o’r adnodd wrth arwain at 6 Mai” meddai Owain Schiavone ”Yn gyffredinol, rydan ni’n gweld y blog fel ffordd cyflym a hawdd i bobl fynegi eu barn ynglŷn a straeon newyddion, materion y dydd a unrhyw beth arall mae nhw eisiau mynegi darn amdano a gobeithio y bydd pobl yn barod i wneu hynny”.

Gallwch ymweld â’r blogyn uniongyrchol o Hafan http://www.golwg360.com
golwg360
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Gwe 30 Hyd 2009 2:06 pm

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron