Cymru a Ewro 2012

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru a Ewro 2012

Postiogan aronj89 » Sad 17 Ebr 2010 10:41 pm

Dwi'm di bod ar y maes es amser maith ond roedd perfformiad Bale heno yn ddigon i ecseitio fi i godi cwestiynnau am obeithion Cymru o guro'r gelyn pennaf yn y qualifiers a hyd yn oed llwyddo i fynd i'r gystadleuaeth!?
Roedd hi'n siom ar ein tinnau i bawb dwi'n siwr i weld Rambo yn chwalu ei goes yn racs (wrth feddwl nol am hune pam nath Tosh rioed drio cal Shawcross i chware i ni gan bo ne bosib???) ond ma Bale di fflio mynd yn ddiweddar a Collison di cal tymor bach da.
Diddorol ydi gweld fod Davies nol, Bellers ar dan a digon o enwau bach da eraill yn perfformio, Ashley Williams, James Collins ac yn y blaen, ond dwi'n pryderu hefo'r hen 5-3-2 gan fod geny ni ddim tri digon da i chwarae yng nghanol y defnece na midfield. 4-4-2 di'r ateb hefo Bellers mewn free role.
Giggsy i gal comeback???

TRAFODWCH
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Cymru a Ewro 2012

Postiogan Josgin » Sul 18 Ebr 2010 8:44 am

Ail wynt Bale sydd wedi gwneud y gwahaniaeth i Spurs eleni. Mi wnaeth o ffwl go iawn o Terry ddoe.
Mae'n chwarae mewn tim sy'n gallu 'cario' ei wendidau, ac mae wedi aeddfedu'n amddiffynnol bethbynnag.
Dwi'n poeni mai Belamy ydi'n prif ymosodwr ni.
Mae'r math o chwaraewr (fel Giggs, a dweud y gwir) sy'n mynd i boeni'r amddiffyn , ond nid y golwr.
Dwi'n cytuno fod 4-4-2 yn opsiwn mwy ymarferol i Gymru.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Cymru a Ewro 2012

Postiogan aronj89 » Sul 18 Ebr 2010 9:45 am

Dwi'n gwbod bod o'n bell o safon rooney a drogba ond o be dwi wedi weld (yn erbyn lerpwl FA cup a ballu) mae Church yn opsiwn dda hefo Bellers gan bod o'n fodlon torri i gefn i gyredd y 6 yard i roi i ben ar groesiad. Ddim felma welith Tosh hi a neith o bendroni pethe drosoth a throsodd a sticio vokes neu ched i sefyll yn llonydd ond hei lwc i church dduda i!!!
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron