gan Cymru Fydd » Maw 27 Ebr 2010 3:56 pm
Rydw i o blaid croesawu'r Frenhinez i Gaernarfon yn gyfangwbl. Mi gaiff hi ganu God Save the Queen, boed i holl blant Caernarfon fynd yno i chwifio'u baneri a boed iddi siarad Cymraeg yn garpiog er mwyn rhwbio'r halen yn y briw. Boed i Anita Kirk gael ei hennyd fechan hi o gynhesrwydd Prydeinig, a boed i Lis ddod â'i hwyr bach William i gael ei arwisgo yma pan gaiff Carlo ei greu'n frenin. Mi gân anghofio Hen Wlad fy Nhadau - byddai Swing Low yn llawer gwell i'r achlysur arbennig hwn.
Cyn i chi feddwl 'mod i'n gwallgofi, dyma fy rhesymeg. Mae Cymru wedi'i chael hi llawer yn rhy hawdd yn ddiweddar. Oce, mae'r iaith yn dirywio, ond rhyw fygythiad tawel sy'n pydru yn y gornel yw hwnnw. Mae angen pethau fel hyn i fegino marwor ein cenedlaetholdeb. Mae'n ffaith - mae'r Gymraeg wastad ar ei chryfaf pan fo bygythiad uniongyrchol a gormes yn ei hwynebu bob dydd. Pan oedd plant Cymru yn derbyn y Welsh Not am siarad Cymraeg, roedd y Gymraeg yn fyw ac yn gyffrous. Pan ddaeth Carlo i Gaernarfon yn 1969, roedd cenedlaetholdeb ar ei anterth, a chafwyd rhai o'r cerddi mwyaf angerddol erioed yn yr iaith. Cafwyd merthyrod hefyd.
Ond rwan, mae hi'n llawer rhy hawdd i fod yn Gymro. Mae gynnon ni ysgolion Cymraeg a hawliau cyfartal. Ond eto, mae'r dirywiad yn cyflymu.
Felly, boed i'r holl deulu Brenhinol feddiannu Cymru i'n codi ni oddi ar ein tinau. Digwydda ffyniant o hyd o dan ormes. Heb Ddeddf Uno 1536 a heb gwymp 1282, ni fyddai'r iaith Gymraeg yn fyw heddiw.
Galwa draw eto'n fuan, Lis fach. Mi gaiff Anita Kirk ei bodloni, a chaiff yr iaith Gymraeg fyw.
"Maes-e yw'r lle am seiat!"