Ffynhonnell bwysig i gerddoriaeth Cymraeg - Rhowch groeso penwythnosol i sadwrn.com
Gyda thristwch daeth y siop recordiau ar-lein sebon.co.uk i ben blwyddyn diwethaf - ond bellach does dim angen i chi boeni am sut y cewch afael ar y CD diweddaraf Cymraeg, oherwydd mae Sadwrn wedi prynu hen wefan Sebon ac maent yn barod am fusnes ar http://www.sadwrn.com.
Mae’n allweddol i artistiaid Cymru gael dosbarthwr ar-lein sy’n gwerthu CDs annibynnol ynghyd a chynnyrch gan labeli. Mae’r ffynhonnell o’r math yn cael ei ddefnyddio gan bobl ar draws y byd i ddod o hyd i fandiau ac artistiaid newydd neu i CDs sydd ddim ar gael yn y siopau. Dywedodd perchennog y cwmni, Guto Brychan,
“Mi wnaeth cyfnod Sebon ddangos bod 'na wir angen gwasanaeth fel hyn ar gyfer cerddoriaeth o Gymru, felly pan glywais fod sebon.co.uk yn dod i ben fe benderfynais fod angen parhau efo'r gwasanaeth. Mae'r siop ar-lein yn bwysig am sawl rheswm; i fandiau newydd sy'n ffeindio fe'n anodd cael eu cynnyrch mewn siopau ac i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. O safbwynt y cwsmer mae'n hwyluso'r broses o gael gafael ar gerddoriaeth Cymraeg newydd. Rydyn ni hefyd yn anelu at gael y cynnyrch allan efo post dosbarth cyntaf fel bod y CD yn cyrraedd cyn gynted ag y bo modd.”
Mae yna dros 250 o artistiaid wedi'i rhestri ym mas data’r wefan erbyn hyn a thros 70 o labeli gwahanol. Yn ddiweddar mae sadwrn.com wedi bod yn brysur yn cynyddu’r catalog gyda’r cynnyrch diweddaraf, ychwanegodd Guto,
“Ar hyn o bryd mae 'na dros 400 o CDs ar y wefan. Dwi'n gobeithio dros y mis neu ddwy nesaf i fynd a'r ffigwr dros 500 wrth i mi gysylltu efo mwy o labeli.
“Mae'n bosib rhag-archebu albwm newydd Richard James (We Went Riding) ac albwm hir ddisgwyliedig Jakokoyak (Aerophlot), albwm newydd Gwibdaith Hen Fran (Llechan Wlyb) a nifer o CDs eraill. Dros y mis diwethaf mae yna dros 50 o CDs newydd wedi'i ychwanegu i'r safle felly bydd angen galw draw i gal golwg.”
Y pris sydd wedi'i nodi ar y wefan ydi'r pris sy'n cael ei dalu. Does dim cost cludiant ar y cynnyrch ac mae sadwrn.com wedi ceisio sicrhau bod y pris yr un peth a'r siopau.
Mae croeso i unrhyw un gysylltu â Sadwrn i werthu eu cynnyrch trwy'r wefan. Anfonwch e-bost i post(at)sadwrn.com am wybodaeth bellach.
Cadwch mewn cysylltiad gyda sadwrn.com drwy ymweld a’r safle http://www.sadwrn.com, ymuno a’r grŵp Facebook http://www.facebook.com/sadwrn neu dilynwch y cwmni ar Twitter http://www.twitter.com/sadwrn_com.