Wedi colli'r clawr efo'r geiriau, a tydi gwefan Ffa Coffi ddim yn dangos y geiriau i gyd..
Oes rhywun yn gwybod y geiriau i'r ail bennill? 'Mali Mair?' 'enbrydio'??... be ma Gruff yn ddeud?
Rhywbeth tebyg i hyn: (cywirwch os gwelwch yn dda)
Gwareiddiad sydd yn disgyn
A malu mae’r plisgyn, sydd yn dal at ein gilydd
Awyr iach sy’n brin a 'Mali Mair' yn disgyn
Ac yn methu anadlu.
Taswn i’n hollol fud
Taswn i heb 'enbrydio', a fasa’r tan heb gydio
Ta waeth mae’r byd yn fflop, felly trown at ganu pop
I cael dianc a chydig