Oes 'na siawns i ni dramorwyr fedru tiwnio i mewn i wylio ychydig o'r steddfod yr wythnos nesaf ? Mi 'roedd gen i linc ar gyfer gwylio S4C yn fyw , ond tydi hwnnw ddim yn gweithio i mi rwan .
Diolch.
Cymedrolwr: Mali
Mali a ddywedodd:Oes 'na siawns i ni dramorwyr fedru tiwnio i mewn i wylio ychydig o'r steddfod yr wythnos nesaf ? Mi 'roedd gen i linc ar gyfer gwylio S4C yn fyw , ond tydi hwnnw ddim yn gweithio i mi rwan .
Alla i ddim gwylio rhaglen arbennig ar y wefan. Pam ddim?
Mae gwaharddiadau hawlfraint byd-eang yn ein gwahardd rhag dangos ein holl gynnwys y tu allan i'r DU. Gobeithiwn allu ymestyn y gwasanaeth hwn yn y dyfodol i ehangu'r ddarpariaeth ar y we.
Mali a ddywedodd:Yn anffodus tydi 'Gwylio S4C yn fyw' ddim yn gweithio .... i mi ta beth. Mae'r neges : 'stream not found:uk_live_1' yn ymddangos yn y sgwâr.
Emma Reese a ddywedodd:Do'n i ddim yn sylweddoli bod Clic yn gweithio i ni sy tu allan i'r DU eto! Tybed ydy S4C wedi ail-ystyried eu polisi? Mae'n wych beth bynnag! Ces i gip ar rai o'r rhaglenni; problem i mi ydy bod 'na doriadau y lluniau sy'n para am eiliadau. Maen nhw'n rhwystredig braidd ond o leia, dw i'n medru gwilio S4C unwaith eto. Dydy 'Gwylio yn fyw' ddim yn gweithio i mi chwaith.
Emma Reese a ddywedodd:O na! Digwyddodd yr un peth! Dydy Clic ddim yn gweithio bellach ar ôl i mi ei gadw'n 'hold' am sbel. Ella mai dim ond un siawns sy gynnon ni!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai