gan Ifan Saer » Maw 11 Tach 2003 3:29 pm
Nadi.
Er i mi gael trafodaeth danbaid â RET unwaith, ac anghytuno'n LLWYR, dwi'n falch iawn fod o yma ar y maes, i gynrychioli ei farn a'i safbwynt ei hun. Dwi wedi cytuno efo fo amball waith weithia' hefyd, sydd yn fy atgoffa fod modd cytuno ar rai pynciau er eich bod yn anghytuno'n llwyr ar rai eraill - peth da.
Diflas tu hwnt fyddai maes-e hebddo, yn ogystal a Pogon, Boris, Newt ayyb. Fyddai ddim yn cytuno efo nhw'n amal, ond does dim dwywaith ei bod nhw'n ysgogi trafodaeth go-iawn, yn seiliedig ar fwy na dim ond "fi sy'n iawn! Chi sy'n rong!" math o rwtsh. Beryg fod gosodiad yr edefyn hwn yn perthyn i'r meddylfryd yna.
Y Cofis wyr y cyfan