Eisio cyngor - troi pob tudalen Wordpress yn ddwyieithog

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Eisio cyngor - troi pob tudalen Wordpress yn ddwyieithog

Postiogan Coch a bon ddu » Maw 31 Awst 2010 10:23 am

Helo!

'Dw i wrthi'n paratoi gwefan ddwyieithog, mor syml â phosibl, ar gyfer defnyddwyr sydd eisio diweddaru eitemau newyddion yn hollol ddi-drafferth. Mae'r rhan fwyaf o'r wefan yn dudalennau gwybodaeth, gydag un dudalen i ddangos newyddion.

Dyw'r defnyddwyr ddim eisiau fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahan, ond y medru i osod eitemau byrion dwyieithog.

Defnyddio Wordpress 3.0.1 ydw i, gyda themau eitha syml (Zenlite neu Twenty Ten 1.1). Trwy ddefnyddio'r atodyn "No comments on pages", does dim byd o gwbl yn ymddangos ynglŷn â sylwadau.

Trwy osod XAMPP ar fy ngyfrifiadur Linux (Ubuntu) gartref, mae gen i 'Amgylchedd Ddatblygu' lle galla i hacio'r côd heb dangos fy nghamgymeriadau'n gyhoeddus! NId arbenigwr Wordpress ydw i, o bell ffordd.

Galla i hacio ffeiliau .php y thema er mwyn newid eitemau fel "Home" i "Cartref / Home", ond mae nifer o eitemau yn dal yn Saesneg yn unig - a 'dw i'n amau y bydd rhaid hacio rhai o ffeiliau .php Wordpress ei hun i'w newid nhw.

Yr eitemau dan sylw yw'r dolenni canlynol:

Meta
Log In / Log Out
Site Admin

Archives
August 2010

Posted in..

Mae bwtwm SEARCH yn uniaith Saesneg hefyd.

Cwestiynau:

1) Oes rhywun wedi gwneud y ffasiwn beth o'r blaen? Ydw i am ail-ddefeisio'r olwyn? Os felly, oes adnoddau ar lein sy'n disgrifio'r broses? FYddai atodyn Wordpress yn wych!
2) Os na, lle mae'r ffeiliau sy'n rhoi enwau i'r dolenni uchod?
3) Sut mae newid y rhestr o archifau i ddangos Awst / August 2010, neu 8/2010?

Bydda i'n ddiolchgar iawn am unrhyw gyngor!
Coch a bon ddu
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Mer 05 Medi 2007 9:20 am
Lleoliad: Caernarfon

Re: Eisio cyngor - troi pob tudalen Wordpress yn ddwyieithog

Postiogan Gruff Goch » Maw 31 Awst 2010 1:09 pm

Helo 'na.

Dwi 'di bod wrthi'n sgwennu canllawiau ar gyfer Cymreigio rhyngwyneb WordPress a defnyddio WPML i gynnal gwefan ddwyieithog (lle mae angen newid iaith y rhyngwyneb ac iaith y cynnwys). Fe wna' i drio dod o hyd iddo ar dy gyfer di (yn anffodus dwi wedi gorfod ail osod Windows a bydd yn rhaid i mi edrych drwy'r backups wnes i). Wyt ti'n gneud hyn ar ran cwmni neu sefydliad? Os wyt ti, mae'n bosib y galla i ddod draw i Gaernarfon i dy roi di ar ben ffordd yn ystod oriau gwaith, a hynny am ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Re: Eisio cyngor - troi pob tudalen Wordpress yn ddwyieithog

Postiogan Coch a bon ddu » Maw 31 Awst 2010 2:06 pm

Gruff -

Diolch am dy ymateb, ac am gynnig help.

'Dw i'n gwneud hyn fel rhan o brosiect ar gyfer Pobol Peblig. http://peblig.org/
Fel ti'n gweld, mae 'na wefan, ond mae criw Peblig yn meddwl ei bod hi'n rhy gymleth iddyn nhw.. a rhy anodd i'w diweddaru. ('Dw i'n dewis fy ngeiriau'n ofalus mewn fforwm cyhoeddus.) Dan ni eisio gwefan hollol ddwyieithog, heb yr opsiwn i ddewis y naill iaith neu'r llall, oherwydd y byddai'r rhai nad ynyn nhw'n hyderus yn y Gymraeg jyst yn dewis Saesneg. Dyddiad lawnsiad y wefan newydd yw 17eg y mis yma!

Ers mis Mai 'dw i wedi bod yn adnewyddu hen gyfrifiaduron, gosod Ubuntu, rhoi hyfforddiant a'u dosbarthu nhw i bobol ym Mheblig. Mae dros haner trigilion y stad yma heb fynediad i'r byd digidol. Efallai dy fod wedi clywed am seibercofis? Gyda cymorth gan Ganolfan Gydweithredol Cymru, 'dan ni wrthi'n ymsefydlu fel menter gymdeithasol. Ar hyn o bryd, minnau yw'r unig berson gyda rhyw afael bregus ar y pethau teci, ac felly os oes gen ti ddiddordeb....

Croeso i chdi gysylltu trwy ebost am fwy o wybodaeth - seibercofis@btinternet.com

Diolch eto.

John Fraser
Coch a bon ddu
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Mer 05 Medi 2007 9:20 am
Lleoliad: Caernarfon

Re: Eisio cyngor - troi pob tudalen Wordpress yn ddwyieithog

Postiogan Gruff Goch » Maw 31 Awst 2010 2:47 pm

Dwi wedi gyrru e-bost atat ti John. Ydw, dwi wedi clywed am Seibercofis (yn Hacio'r Iaith ym mis Ionawr) ond ro'n i'n cyflwyno sesiwn yr un pryd a dy sesiwn di, dwi'n meddwl, felly ches i ddim dy weld di'n siarad.
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Re: Eisio cyngor - troi pob tudalen Wordpress yn ddwyieithog

Postiogan Duw » Gwe 03 Medi 2010 8:03 pm

<off-piste>Shw mae John! Cofio dy gyflwyniad - ffantastig. Pob lwc gyda seibercofis.</off-piste>
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai