'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrair

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrair

Postiogan rygbigog » Gwe 10 Medi 2010 2:07 pm

Oes chyfieithiad addas am 'Play Offs'? :(

Y tim ar waelod yr Uwch Gynghrair i chwarae yn erbyn y tri tim gorau o'r Gogledd, Gorllewin a'r Dwyrain. Yn fy mharn ni, Y Crwydwyr Morgannwg, Gogledd Cymru, Penybont a Glyn Ebwy. Cam yn y gyfarwydd cywir, ond:

1. Mae'r tim o'r UG wedi cael £80,000 mwy am chwaraewyr gyda tymor o chystadlu ar level uwch.

2. Ar ol taflu Rhuthun a Llangefni allan, a gwrthod clybiau'r Gogledd rhag dringo'r ysgol, rhaid i Gogledd Cymru chwarae gemau gyfeillgar.

3. Clybiau fel Glyn Ebwy a Phenybont yn llawer gryfach (yn y tymor hir) na rhai o'r timau yn yr UG, sef Tonmawr neu Bedwas - sydd heb chyflesterau na chwaraewyr brodorol.

A hyn ydi'r drefn gorau i wella safon yr UG ond, yn mwy bwysig, ddarganfod mwy o chwaraewyr ifainc dawnus i'r level Ranbarthol ?
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan ceribethlem » Gwe 10 Medi 2010 9:28 pm

rygbigog a ddywedodd:Oes chyfieithiad addas am 'Play Offs'? :(

gemau ail gyfle mae radio Cymru yn defnyddio am y 'play offs' diwedd tymor ym mhel droed.

rygbigog a ddywedodd:3. Clybiau fel Glyn Ebwy a Phenybont yn llawer gryfach (yn y tymor hir) na rhai o'r timau yn yr UG, sef Tonmawr neu Bedwas - sydd heb chyflesterau na chwaraewyr brodorol.

Rhywbeth eironig dy fod yn dweud hyn gyda RGC1404 yn llawn o Canucks :winc:
Un o'r Canucks wedi arwyddo am un o rhanbarthau'r Alban os dwi'n cofio'n iawn.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan rygbigog » Gwe 10 Medi 2010 10:39 pm

Dim posib gael 'Ail Gyfle' pan does dim 'Cyfle Gyntaf'! Mae'r drefn pel droed yn well, ddyrchafu a gostwng timau'n awtomatig - ond mae corff Clwbiau'r Uwch Gynghrair wedi llwyddo i tynnu'r drws yn dyn iawn.

Bydd y Crwydriaid yn wan o herwydd fod Chaerdydd wedi dennu'r hyfforddwr a chwaraewyr, mae Bedwas yn twll heb adnoddau addas, ac mae Tonmawr yn pentre gyda un dyn arian ac un chwaraewr lleol. Yn fy mharn i, mae angen safon well o adnoddau a canolbwyn ar ddatblygu chwaraewyr ifainc. Mwy o symyd i fynnu ac i lawr, neu cael gwared o'r llanast British & Irish Cup a dwy uchwanegol yn yr UG.

Pob lwc i Chaucey yn Glasgow. Cytundeb 2 fis yn unig, ond wedyn ar gael i Ganada ar taith mis Tachwedd, a wedyn.....? Dysgodd llawer gyda'r Gogs a Clive Griff, mae angen ddatblugu mwy o sgiliau ond bydd ei gem yn addas iawn i'r Albanwyr, corfforol iawn. Fellu dwi' gobeithio bydd o'n llwyddo i barhau gyda Glasgow am y tymor, a wedyn gyda Canada i Cwpan Y Byd.

Mae chroeso dda i'r Cannucks llenwi'r bylchau yma, gyda cymaint o Gogs yn timau Llanelli a'r Scarlets. :winc: :gwyrdd:
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan ceribethlem » Gwe 10 Medi 2010 11:24 pm

rygbigog a ddywedodd:Dim posib gael 'Ail Gyfle' pan does dim 'Cyfle Gyntaf'! Mae'r drefn pel droed yn well, ddyrchafu a gostwng timau'n awtomatig - ond mae corff Clwbiau'r Uwch Gynghrair wedi llwyddo i tynnu'r drws yn dyn iawn.
Ai, o'n i'n amau fod e ddim cweit yn addas, ond y term agosa gallai feddwl am :winc:

rygbigog a ddywedodd:Bydd y Crwydriaid yn wan o herwydd fod Chaerdydd wedi dennu'r hyfforddwr a chwaraewyr, mae Bedwas yn twll heb adnoddau addas, ac mae Tonmawr yn pentre gyda un dyn arian ac un chwaraewr lleol. Yn fy mharn i, mae angen safon well o adnoddau a canolbwyn ar ddatblygu chwaraewyr ifainc. Mwy o symyd i fynnu ac i lawr, neu cael gwared o'r llanast British & Irish Cup a dwy uchwanegol yn yr UG.
Mae URC yn sicr yn ceisio datblygu safon yn nhermau adnoddau o fewn y clybiau, arwain dybiwn i at geisio gosod cytundebau canolog ar y chwareuwyr. Yn bersonol fi ddim yn credu fydd cytundebau canolog o les i Gymru yn y tymor hir, ond dadl arall yw hynny.

rygbigog a ddywedodd:Pob lwc i Chaucey yn Glasgow. Cytundeb 2 fis yn unig, ond wedyn ar gael i Ganada ar taith mis Tachwedd, a wedyn.....? Dysgodd llawer gyda'r Gogs a Clive Griff, mae angen ddatblugu mwy o sgiliau ond bydd ei gem yn addas iawn i'r Albanwyr, corfforol iawn. Fellu dwi' gobeithio bydd o'n llwyddo i barhau gyda Glasgow am y tymor, a wedyn gyda Canada i Cwpan Y Byd.
Ie, cytundeb dros dro tra bod un o sgwad Glasgow wedi cael anaf. Blaenasgellwr os gofiaf yn iawn?

rygbigog a ddywedodd:Mae chroeso dda i'r Cannucks llenwi'r bylchau yma, gyda cymaint o Gogs yn timau Llanelli a'r Scarlets. :winc: :gwyrdd:
McCusker yn sicr yn gwneud enw da i'w hunan. George North wedi cael dechreuad safonol iawn hefyd (yn y cyn dymor :? pre season) yn ogystal a'i ddechrau mas yn yr Eidal. Ofnaf fod agwedd amaturaidd Llanelli yn golygu mai tim eilradd fyddan nhw am cryn dipyn, a datglygu talent ar gyfer y Gweilch a Chaerdydd yw ei tynged.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan Duw » Sad 11 Medi 2010 8:17 pm

Ceri - cytuno mae'r Sgarlets wedi chael hi. Nhw yw'r conveyor belt. Shifto shit i'r wyneb so bo'r time da yn gallu pigo'r siolens mwya. :lol:

Os o'n nhw'n gweld potensial yn y gogs, bydde'r URC wedi taflu mwy o arian atyn nhw. Jest politics yw hwn - keep the natives quiet boys. 'Dyn nhw ddim o ddifri. Stim awydd i wneud unrhyw beth defnyddiol / gwahanol mewn rygbi yn dilyn llanastr sefydlu'r rhanbarthau.

Ger llaw, geme ail gyfle weden i ifyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan ceribethlem » Sad 11 Medi 2010 9:54 pm

Duw a ddywedodd:Ceri - cytuno mae'r Sgarlets wedi chael hi. Nhw yw'r conveyor belt. Shifto shit i'r wyneb so bo'r time da yn gallu pigo'r siolens mwya. :lol:

Os o'n nhw'n gweld potensial yn y gogs, bydde'r URC wedi taflu mwy o arian atyn nhw. Jest politics yw hwn - keep the natives quiet boys. 'Dyn nhw ddim o ddifri. Stim awydd i wneud unrhyw beth defnyddiol / gwahanol mewn rygbi yn dilyn llanastr sefydlu'r rhanbarthau.

Ger llaw, geme ail gyfle weden i ifyd.

Ie. Dau dim sydd yn bodoli o ddifri bellach. Mae'r Sgarlets yno i ddatblygu talent, tra bod y Dreigiau yna i roi rhyw pensiwn bach i has-beens a journey-men.
O ran RGC1404 fi'n ame mae'r academi fyddai o brif diddordeb i URC er mwyn magu unrhyw dalent yn ifancach cyn mynd at y Sgarlets wedyn ymlaen i'r Gleision neu'r Gweilch os ydyn nhw'n ddigon da.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan rygbigog » Sul 12 Medi 2010 7:23 am

Mae pawb a phopeth er mwyn ddatblygu chwaraewyr am y tim cenedlaethol heddiw. Clwb Rygbi Bro Ffestiniog - Gogledd Cymru - Scarlets - Gweilch neu lle bynag. Pob clod i'r timau a'r rhanbarthau sy'n uwch nag eraill, ond mae phawb gyda rhan i chwarae.

Y problem gyda Gogledd y wlad, am bob Gog sy'n llwyddo i cyraedd y brig, mae 2 neu 3 union mor dawnus yn methu - yn fy mharn i o herwydd diffyg cael tim Uwch Gynghrair yma.

Mae tim o'r Gynghrair M62 wedi lleoli yn y Gogledd ar hyn o bryd. Camp gyda dim hanes yma, dim clybiau lleol, dim Gogs yn y garfan a hyd yn oed ddim un Cymro yn y tim ar diwedd y tymor. Ond er gorffen yn haner gwaelod yr adran gyda dramorwyr, mae popeth yn cael ei wneud i hybu'r tim a'r camp yn yr ardal.

Er hyn, mae 99% o Gogs wedi cadw'n ffyddlon at rygbi Cymru - ond oes angen hybu tim Uwch Gynghrair gan yr URC, mwy fel a wnaeth y gynghair M62 eleni?
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan Duw » Sul 12 Medi 2010 8:29 am

Problem - dyw'r URC ddim yn cymryd y Gogledd o ddifri - De-centric yw eu meddylfryd. Heb law bo rhyw foi goleuedig yn arwain - bydd rygbi'r gogs yn diodde o ddiffyg arian a chynllunie dwl fel mewnforio hanner o Alberta. :rolio:

Os odd y tim lleol yn cael ei lenwi gan pobol estron, stim ffordd elen i i weld nhw. Jest cadw'r bois lleol allan. Er, hoffi'r walocs 'na'. Rho cwpl o Gogs i mi unrhyw bryd dros cwpwl o Canwcs (ffili credu wedes i 'na!).
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan rygbigog » Sul 12 Medi 2010 5:02 pm

Duw a ddywedodd:Problem - dyw'r URC ddim yn cymryd y Gogledd o ddifri - De-centric yw eu meddylfryd. Heb law bo rhyw foi goleuedig yn arwain - bydd rygbi'r gogs yn diodde o ddiffyg arian a chynllunie dwl fel mewnforio hanner o Alberta. :rolio:

Os odd y tim lleol yn cael ei lenwi gan pobol estron, stim ffordd elen i i weld nhw. Jest cadw'r bois lleol allan. Er, hoffi'r walocs 'na'. Rho cwpl o Gogs i mi unrhyw bryd dros cwpwl o Canwcs (ffili credu wedes i 'na!).


Cywir iawn am yr URC tan diweddar. Roedd Glanmor yn bodoli trwy talu arian mawr i clybiau bach (am dim rheswm ond pleidleisiau) yn hytrach na strwythyr i ddatblygu chwaraewyr. Ond rhaid rhoi clod i bois fel Gerald Davies a Joe Lydon dros y 5 mlynedd diwethaf, gadael i Gogs ifainc cystadlu yn erbyn rhanbarthau y De a chreu yr Academi Rygbi Gogledd Cymru.

Yn wreiddiol roeddwn i yn erbyn y syniad y Cannucks, ond mae angen llenwi'r bylchau o herwydd y Gogs mwyaf dawnus yn mynd i'r De, ond dros amser bydd y Gogs ifainc yn llenwi'r tim. Mae'r Scarlets wedi colli bois o'r ranbarth fel Mike Phillips, Dwayne Peel, Lee Byrne, Gavin Evans, Deinio Jones, etc, wedyn rhaid llenwi gyda safon gorau phosib. Oes rhaid roi cyfle i Lee Williams ar yr asgell fel hogun lleol, neu dod a bois o tu allan yr ardal fel George North? Mae Clive Griff yn rhoi cyfle i'r Gogs ifainc a wedyn ofyn i'r Cannucks dod a chwaraewyr o'r safleudd gyda gwendid.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Ion 2011 10:16 am

ceribethlem a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Ceri - cytuno mae'r Sgarlets wedi chael hi. Nhw yw'r conveyor belt. Shifto shit i'r wyneb so bo'r time da yn gallu pigo'r siolens mwya. :lol:

Os o'n nhw'n gweld potensial yn y gogs, bydde'r URC wedi taflu mwy o arian atyn nhw. Jest politics yw hwn - keep the natives quiet boys. 'Dyn nhw ddim o ddifri. Stim awydd i wneud unrhyw beth defnyddiol / gwahanol mewn rygbi yn dilyn llanastr sefydlu'r rhanbarthau.

Ger llaw, geme ail gyfle weden i ifyd.

Ie. Dau dim sydd yn bodoli o ddifri bellach. Mae'r Sgarlets yno i ddatblygu talent, tra bod y Dreigiau yna i roi rhyw pensiwn bach i has-beens a journey-men.
Efallai bod fi braidd yn fyrbwyll fan hyn. Mae'r Sgarlets i weld yn datblgyu system gall dwyn ffrwyth yn y dyfodol. Mae Caerdydd mewn trafferthion ariannol, yn gorfod gadael i bobl fel Tom Shanklin a Martyn Williams i fynd ar ddiwedd y tymor. Glywes i fod angen iddyn nhw arbed yn agos at filiwn o bunnoedd erbyn y tymor nesaf. Mae cae pel dored Caerdydd yn costio ffortiwn iddyn nhw ei logi. Mae'r Gweilch hefyd yn colli nifer (Henson eisoes), Hook ac yn ol y son Byrne am fynd i Ffrainc. Efallai bod Johnson am eu dilyn, ac mae Hoare am fynd. Son bod Stoddard yn darged i'r Gweilch, ac efallai Jon Davies. Cawn weld oes yw'r datblygiadau sydd wedi eu dangos yn ddiweddar yn Llanelli am dalu ffordd.

ceribethlem a ddywedodd:O ran RGC1404 fi'n ame mae'r academi fyddai o brif diddordeb i URC er mwyn magu unrhyw dalent yn ifancach cyn mynd at y Sgarlets wedyn ymlaen i'r Gleision neu'r Gweilch os ydyn nhw'n ddigon da.

Fi fel proffwyd! Ers i RGC1404 fynd yn fethdalwyr mae URC wedi cyhoeddi eu bod am cymryd dros yr ardal fel academi. (Er fi'n credu mod i'n aghywir am chwaeuwyr am fynd ymlaen at y Gleision).
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron