E-Lyfrau

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

E-Lyfrau

Postiogan ceribethlem » Mer 22 Medi 2010 7:08 pm

Gan fy mod yn hoffi fy nhechnoleg, ac yn buddsoddi'n gyson mewn pethau, rwyf wedi penderfynnu neidio i fyd yr e-lyfr ac wedi archebu Amazon Kindle. Rwy'n gobeithio y gwnaiff gyrraedd mewn rhyw pythefnos, ac felly rwyf wedi casglu nifer o e-lyfrau sydd ar gael am ddim yn barod.
Oes rhywun arall ag unrhyw brofiad o e-lyfrau? Beth yw eich barn chi am y peth? Byddai'n rhoi fy marn yn syth wedi agor a dechrau darllen, ag eto ar ol ychydig wythnosau pan fyddaf wedi arfer a hi ychydig yn well.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: E-Lyfrau

Postiogan Duw » Sad 25 Medi 2010 8:58 pm

Cofia dy e-frechdan a dy e-goffi. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: E-Lyfrau

Postiogan ceribethlem » Mer 29 Medi 2010 8:11 am

Duw a ddywedodd:Cofia dy e-frechdan a dy e-goffi. :D

Wel, mae'r e-lyfr wedi cyrraedd, ac rwy'n hapus iawn gyda hi.

Nawr te, lle byddai gallu ffeindio'r e-frechdan a'r e-goffi 'na?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: E-Lyfrau

Postiogan Glanyrafon » Sad 09 Hyd 2010 11:34 am

Mae 'da fi kindle hefyd ac rwy innau yn hapus iawn gydag e.

Oes modd cael llyfrau Cymraeg ar ei gyfer e? 'Swn i'n meddwl y byddai e-lyfrau yn ffordd hwylus o gyhoeddi llyfrau Cymraeg heb yr "overheads" arferol.
Glanyrafon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Sad 04 Maw 2006 9:08 pm
Lleoliad: Cwmtawe Uchaf

Re: E-Lyfrau

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 09 Hyd 2010 2:32 pm

Glanyrafon a ddywedodd:Mae 'da fi kindle hefyd ac rwy innau yn hapus iawn gydag e.

Oes modd cael llyfrau Cymraeg ar ei gyfer e? 'Swn i'n meddwl y byddai e-lyfrau yn ffordd hwylus o gyhoeddi llyfrau Cymraeg heb yr "overheads" arferol.


http://www.ylolfa.com/ebooks.php?lang=cy
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: E-Lyfrau

Postiogan ceribethlem » Maw 19 Hyd 2010 5:34 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Glanyrafon a ddywedodd:Mae 'da fi kindle hefyd ac rwy innau yn hapus iawn gydag e.

Oes modd cael llyfrau Cymraeg ar ei gyfer e? 'Swn i'n meddwl y byddai e-lyfrau yn ffordd hwylus o gyhoeddi llyfrau Cymraeg heb yr "overheads" arferol.


http://www.ylolfa.com/ebooks.php?lang=cy


E-Lyfrau E-Pub yw'r rhain, sydd ddim yn gallu cael eu darllen ar y kindle, dim ond ar darllenwyr megis y Sony. Fodd bynnag, rwyf wedi gofyn am hyn i'r lolfa ac maent wedi cadarnhau nad oes DRM ar y llyfrau. Mae hyn yn golygu fod modd ei "cyfieithu" ar gyfer y kindle gan ddefnyddio meddalwedd Calibre, mae ar gael am ddim o fan hyn:- http://download.cnet.com/Calibre/3000-2125_4-10910277.html
Mae'r meddalwedd yma'n "cyfieithu" dogfennau HTML, PDF a RTF hefyd, ond yn anffodus yn methu a "chyfieithu" rhaglenni Word (er gellir eu safio fel HTML, RTF ayyb yn ddigon hawdd)
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: E-Lyfrau

Postiogan Glanyrafon » Maw 19 Hyd 2010 9:59 pm

Diolch. Mae Calibre gyda fi.

Fawr o ddewis o lyfrau fan 'na mewn gwirionedd yn anffodus.

Oni fyddai modd ychwanegu ee llyfrau Daniel Owen sy, r'wy'n cymryd, m'as o hawlfraint i Project Gutenberg neu ei debyg? Am wn i nag y'n nhw mewn print felly na fyddai'n dwyn dim o gyhoeddwyr Cymraeg neu ddim byd felly.
Glanyrafon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Sad 04 Maw 2006 9:08 pm
Lleoliad: Cwmtawe Uchaf


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai