Wn i ddim a oes diben ymateb i “Duw”, dim ond i ddweud wrth basio mae dechrau gyda ffydd syml y mae Cristnogaeth ac y bo'r ffydd yna wedyn yn esgor ar weithredoedd – gweler Llythyr Iago yn y Testament Newydd. Y pwynt ydy fod gweithredoedd y Cristion i fod i adlewyrchu y tro pedol sydd wedi bod yn y galon yn hytrach na fod ein gweithredoedd yn peri y dro yn y galon. Ffydd yng ngallu Duw yn arwain at weithredoedd nid ffydd mewn gweithredoedd yn amod ffafr Duw.
Yn ôl at brif ffrwd y sgwrs felly Josgin. Rhaid mi gydnabod nad ydy i'n gwybod am unrhyw eglwys Gristnogol sy'n estyn yn ôl dros y canrifoedd sydd yn arddel eu hiddewiaeth law yn llaw. Rydw i'n gwybod am y
Messianic Jews, ond dim ond creadigaeth o'r bedwaredd ganrif a'r bymtheg yn unig yw honno. Fe fuesi mewn gwasanaeth mewn eglwys Iddewig Feseianaidd yn Kyiev, Yr Iwcrain llynedd – or hyn yr oeddwn ni'n gweld (ac roedd hynny drwy gyfrwng ein cyfieithydd) y prif wahaniaeth oedd eu bod nhw'n parhau i addoli ar y Sadwrn. Roedd swm a sylwedd neges yr efengyl ganddynt yn sylfaenol Gristnogol ac ni roddwyd y defodau Iddewig yn amod dim jest fod rhai dal yn eu hymarfer.
Mae'r pwnc yma yn bwnc tra dyrys oherwydd fod llawer o'r diwylliant Iddewig yn mynd law yn llaw gyda'r grefydd Iddewig. Nid yw hyn yn wir am Gristnogaeth wrth gwrs gan fod Cristnogaeth, ar ryw wedd, yn grefydd di-ddiwylliant – neu o leiaf yn niwtral ddiwylliannol. Y maen grefydd sy'n cyfieithu ei hun i bob cyd-destun diwylliannol, dyna sydd i esbonio llawer o'i lledaeniad a'i thwf ar bob cyfandir yn ddi-wahan. Holl ddiben llawer o'r traddodiadau Iddewig oedd cysgodi'r hyn ddaeth i'w gyflawniad yn mywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist ac felly, y gwirionedd anodd i lawer o Iddewon yw fod llawer agwedd o'u diwylliant wedi pasio heibio o ran arwyddocâd bellach. Yr oedd iddo bwrpas yng nghyfnod yr Hen Destament ond bellach dydy e yn ddim ond defod wag sy'n dysgu a chymylu'r cyflawniad a'r cyfamod newydd yng Nghrist. Soniais eisoes am Lyfr yn Actau – yma gwelir y tensiwn yma yn chwarae allan – rhai, wel llawer, o Iddewon yn troi i ddilyn Iesu ond yr awdurdodau, pobl y sefydliad, yn mynnu glynu wrth yr hen draddodiadau.
Gellid di ddarllen yr hanes yr Actau 4 fan yma. Yr hyn sy'n bwysig nodi yw fod yr Iddewon wrth ddod yn Gristnogion yn llyfr yr Actau ddim yn peidio a bod yn Iddewon o ran cenedl dros nos. Yn yr un ffordd ag yr ydw i dal yn Gymro er hefyd yn Gristion. Ond yn naturiol y maen rhaid i Iddewon sy'n dod yn Gristnogion ymwrthod ag agweddau crefyddol eu hunaniaeth sy'n groes i ddysgeidiaeth newydd Crist. Ond mae'r un peth yn wir amdana i fel Cymro – y maen rhaid i mi bellhau ag elfennau o'r diwylliant Cymreig sy'n sylfaenol groes i ddysgeidiaeth Crist – meddwi'n gaib yn 'steddfod etc... ychydig o or-ddweud, ond chi'n deall fy mhwynt. Wrth gwrs yr hyn sy'n gwneud y mater yn gymhleth i'r Iddew yw fod ei ddiwylliant wedi ei blethu gymaint a'r grefydd Iddewig a phan fo Iddew yn gadael y grefydd y mae Iddewon eraill yn tybio ei fod wedi gadael y genedl megis.
Yr hyn dwi'n ceisio ei ddweud ydy fod y ffydd Gristnogol yn groesawgar iawn tuag at Iddewon sydd am barhau i arddel agweddau o'u hunaniaeth Iddewig nad sy'n groes i ddysgeidiaeth Iesu. Y mae'r broblem yn sefyll gyda'r ffaith fod hunaniaeth Iddewig, i raddau, yn gweld y ffydd Gristnogol fel rhywbeth gwrth-Iddewig oherwydd y gymysgedd yma rhwng eu hunaniaeth a'u crefydd.