Y chwith bob amser yn gwthio'u syniadau heb ofyn

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan RET79 » Llun 10 Tach 2003 11:04 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:RET, mae'n amhosib barnu grwp cyfan o bobl, bydda nhw yn chwith neu dde, atheist neu gristion, ar rai pobl yr wyt ti'n ei nabod. :rolio:

Mae yna rai pobl amholeit ymhob grwp o bobl. Hyd yn oed Mes-E (gasp!).


O fy mhrofiad i, ar y cyfan felna dwi wedi gweld pobl yn byhafio. Y dystiolaeth orau fedri di ei gael yw tystiolaeth bersonol. Er dwi'n cyfaddef fedri di ddim perswadio pobl yn hawdd iawn hefo tystiolaeth bersonnol, rhaid i ti gael mwy tu cefn i ti na hynna.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Llun 10 Tach 2003 11:49 pm

Ret, y rheswm bod angen i'r chwith fod mor 'swnllyd' ydi gan mai gwleidyddiaeth dilynol (progressive) ydyw, yn gwrthryfela yn erbyn y status quo. Gan fod 'y dde' yn cael eu ffordd beth bynnag, 'does dim angen iddynt dynnu sylw at eu barnau gymaint.

wedi dweud hynny, mae pobl meddw yn parablu ymlaen am wleidyddiaeth yn gallu mynd ar fy nerfau innau hefyd. Ddim yn hoff iawn o clichés a sloganau o gwbl. 'Dw i'n rhannu dy anniddigrwydd di â phobl sydd wedi darllen ambell beth gan Michael Moore ac sy'n meddwl eu bod yn gwybod y cyfan fel canlyniad.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Maw 11 Tach 2003 1:09 am

Dylan a ddywedodd:Ret, y rheswm bod angen i'r chwith fod mor 'swnllyd' ydi gan mai gwleidyddiaeth dilynol (progressive) ydyw, yn gwrthryfela yn erbyn y status quo. Gan fod 'y dde' yn cael eu ffordd beth bynnag, 'does dim angen iddynt dynnu sylw at eu barnau gymaint.

wedi dweud hynny, mae pobl meddw yn parablu ymlaen am wleidyddiaeth yn gallu mynd ar fy nerfau innau hefyd. Ddim yn hoff iawn o clichés a sloganau o gwbl. 'Dw i'n rhannu dy anniddigrwydd di â phobl sydd wedi darllen ambell beth gan Michael Moore ac sy'n meddwl eu bod yn gwybod y cyfan fel canlyniad.


Cytuno a dwi'n meddwl fod llawer o'r pobl hyn yn gwneud drwg a syniadau'r chwith.

Roeddwn yn teimlo biti dros y creadur yma ddydd Sul gan roedd o'n gwneud America allan i fod y wlad mwyaf drwg yn y byd. Roedd ei ddadleuon yn deillio o'r amgylchedd. Fe wnaeth un ddadl yn condemnio America am beidio arwyddo rhywbeth yn yr UN oedd yn gaddo dwr yfed glan i bawb yn eu gwlad. Roedd hyn yn chwerthinllyd yn fy marn i.

Fel chi'n gwybod dwi'n ffan mawr o America ond dwi ddim yn honni fod America yn berffaith mae gen America lot o broblemau. Ond os buaset ti'n gorfod rhoi 'rating' i wledydd y byd mae gen i ofn buasai America yn bell ar y blaen yn y pethau pwysig i gyd.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Maw 11 Tach 2003 1:11 am

Mai hanes America ar faterion o pollutio'r amgylchedd yn ofnadwy o sal. Bydd hi fel y caribi ar Ynys Mon cyn hir.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Maw 11 Tach 2003 1:15 am

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Mai hanes America ar faterion o pollutio'r amgylchedd yn ofnadwy o sal. Bydd hi fel y caribi ar Ynys Mon cyn hir.


Dwi'n cytuno a dyma'r un peth dwi ddim yn ei hoffi am America gan o'r holl wledydd yn y byd sydd hefo'r arian a'r gwyddoniaeth i llnau ei hyn fyny America yw'r wlad honno.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Cwlcymro » Maw 11 Tach 2003 10:57 am

A deud y gwir dwi'n licio'r syniad o drafod gwleidyddiaeth mewn ty tafarn. Y peth ola da ni isho ydi i drafodeithiau wleidyddol fod yn sownd mewn papurau newydd a darlithoedd. Wrth gwrs di hynnu ddim yn deud ddylsa riwun ddechra gweiddi ei goeliada at riwun sy'n amlwg ddim isho sharad am y peth.
Dwi di siarad am wleidyddiaeth mewn pyb sawl tro, fana dwi'n siarad mwya efo'n ffrindia, felly os da ni'n ffitio gwleidyddiaeth mewn i'r sgwrs, gwd dduda i!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Maw 11 Tach 2003 5:23 pm

Cwlcymro a ddywedodd:A deud y gwir dwi'n licio'r syniad o drafod gwleidyddiaeth mewn ty tafarn. Y peth ola da ni isho ydi i drafodeithiau wleidyddol fod yn sownd mewn papurau newydd a darlithoedd. Wrth gwrs di hynnu ddim yn deud ddylsa riwun ddechra gweiddi ei goeliada at riwun sy'n amlwg ddim isho sharad am y peth.
Dwi di siarad am wleidyddiaeth mewn pyb sawl tro, fana dwi'n siarad mwya efo'n ffrindia, felly os da ni'n ffitio gwleidyddiaeth mewn i'r sgwrs, gwd dduda i!


Wel dio ddim mor ddrwg os ti'n gyffredinol yn cytuno hefo'r pobl ti'n trafod hefo ond mae gen i ofn roeddwn i'n anghytuno'n llwyr hefo'r boi yma am bob pwnc a datganiad wnaeth o. Yn drist dwi'n meddwl fod hyn wedi sawru pethau rhwng fi a fo braidd ar ol i ni ddod ymlaen mor dda ar ol trafod y rygbi.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Maw 11 Tach 2003 7:11 pm

RET a ddywedodd:Wel dio ddim mor ddrwg os ti'n gyffredinol yn cytuno hefo'r pobl ti'n trafod hefo ond mae gen i ofn roeddwn i'n anghytuno'n llwyr hefo'r boi yma am bob pwnc a datganiad wnaeth o.


Ah, dyna bon y peth. Os fysai'r boi yma wedi cerdded mewn gyda fflag America dros ei ysgwydd ac bathodyn tory ar ei frest sa ti heb gwyno?

Delwedd
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Maw 11 Tach 2003 9:40 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:
RET a ddywedodd:Wel dio ddim mor ddrwg os ti'n gyffredinol yn cytuno hefo'r pobl ti'n trafod hefo ond mae gen i ofn roeddwn i'n anghytuno'n llwyr hefo'r boi yma am bob pwnc a datganiad wnaeth o.


Ah, dyna bon y peth. Os fysai'r boi yma wedi cerdded mewn gyda fflag America dros ei ysgwydd ac bathodyn tory ar ei frest sa ti heb gwyno?

Delwedd


Wel fuasai'n well gen i os buasai o'n peidio siarad am wleidyddiaeth a chrefydd mewn tafarn i fod yn onest ond buasai'n haws trafod os buasai rhaid hefo rhywun o'r un barn gan fuaset yn cael dadleuon llai tanllyd.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Maw 11 Tach 2003 9:49 pm

Wel, mai hynny'n wir mewn bob sefyllfa. Heblaw am y Maes, lle dw i yn hoffi cael trafodaethau tanllyd. Delwedd
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron