Llai nac wythnos yn ôl fe dreuliais dridiau yn 'Ninas Pechod'.
Wel am le hyfryd; lle braf; lle llawn miri ac asbri.
Dyma'r ail waith imi ymweld a Las Vegas yn Nevada.
Ein prif fwriad y tro hwn oedd gweld 'Cher' yn cynnal cyngerdd yn Caesar's Palace.
Chawsom ni ddim ein siomi.
Mae hi'n 62 oed bellach ac mae hi mor fywiog a thalentog ag erioed.
Fe roedd 'na si bod' Only Men Aloud' yn bwriadu mynd i Las Vegas. Oes na wirionedd yn hyn dwedwch?
Peth arall a'm trawodd yn Las Vegas oedd yr adeiladau mawreddog a'r adloniant sydd i'w gael am ddim yno.
Dyma enghraifft ichwi o flaen y Bellagio Fountain ar y Strip:
http://www.youtube.com/watch?v=cP0K6H2QK7A