S4C yn hen ffasiwn ??

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan CYFRYNGWR 1 » Maw 19 Hyd 2010 10:02 am

Dwi ar fin dechrau testun ymchwil i mewn i weithgareddau S4C fel darlledwr yn y flwyddyn 2010. Yn amlwg ar hyn o bryd mae cryn dipyn o drafod parthed dyfodol y sianel a byswn I’n ddiolchgar I glywed barn rhai o’r bobl gyffredin cyn mynd ati I ymchwilio ymhellach i’r maes. Rhai o’r cwestiynau dwi am ofyn yw….

A oes angen i S4C gymryd mwy o risg o safbwynt cynnwys rhaglenni - h.y rhy sâf ar hyn y bryd ??

O gymharu â darlledwyr eraill y DU - yw S4C wedi datblygu i ateb gofynion y gwylwyr / cynulleidfa fodern ?

Oes modd i S4C arbed arian heb effeithio ar ansawdd rhaglenni ?

Sylwadau ??!!
CYFRYNGWR 1
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 19 Hyd 2010 9:54 am

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 19 Hyd 2010 10:37 am

A oes angen i S4C gymryd mwy o risg o safbwynt cynnwys rhaglenni - h.y rhy sâf ar hyn y bryd ??


Mae ‘na elfennau o S4C yn rhy saff hyd bod yn wirion. Mae cael rhybuddion yn dweud bod ‘peth iaith gref’ cyn Pobol y Cwm jyst yn stiwpid (a does ‘na ddim ‘iaith gref’ yn Pobol y Cwm!) – a ‘sdim angen y bîps ar ôl 9 chwaith, felly mae ‘na elfen o barchusrwydd di-angen yn perthyn i’r sianel sy'n nwfn yng nghydwybod nifer o'i gwylwyr/cyn-wylwyr. Dwi ddim yn meddwl bod angen iddi fod yn fwy risgi o reidrwydd ... wn i ddim am neb arall ond pan fydda i’n clywed y llais yn dweud bod rhywbeth ar S4C yn ‘feiddgar’ dwi’n meddwl ‘O God...’

O gymharu â darlledwyr eraill y DU - yw S4C wedi datblygu i ateb gofynion y gwylwyr / cynulleidfa fodern ?


Naddo. Bai’r rheolwyr ydi hyn, dydyn nhw ddim yn gwrando ar y feirniadaeth leiaf nac yn ystyried sylwadau fawr ddim. Ond mae’n anodd hefyd – e.e. mae arlwy nos Sadwrn S4C yn ddiflas reit, ond does ‘na ddim modd yn y byd iddi gystadlu efo BBC neu ITV ar nos Sadwrn, mae’n frwydr sydd wedi’i cholli cyn ei dechrau. A dwi’m yn meddwl bod fawr ddim i apelio i wylwyr newydd, nac i’r gynulleidfa a gollwyd – mae’r ail yn sicr oherwydd delwedd bresennol y sianel.

Oes modd i S4C arbed arian heb effeithio ar ansawdd rhaglenni ?


Yn onest, na - er gwaethaf popeth dydi £100m y flwyddyn ddim yn lot i gynnal sianel llawn amser yn y lle cynta.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Ray Diota » Mer 20 Hyd 2010 11:19 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Yn onest, na - er gwaethaf popeth dydi £100m y flwyddyn ddim yn lot i gynnal sianel llawn amser yn y lle cynta.


Ma'n hen ffocin digon.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 26 Hyd 2010 4:17 pm

Wel cymhara di gyda £50 miliwn ar gyfer BBC Four a mae nhw yn gwneud rhaglenni gwerth chweil
Golygwyd diwethaf gan Madrwyddygryf ar Maw 26 Hyd 2010 4:48 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 26 Hyd 2010 4:46 pm

Mae S4C gyda nifer o heriau, yn gorfod cynnig arlwyiaeth i gymaint o bobl sydd a wahanol blas. Mae wastad yn mynd i fod yn anodd i ceisio cystadlu erbyn Xfactor, stricly come dancing, the wire, mad men, the apprentice ayb.

Ond credaf mae angen newid pethau a lladd yr hen deinasoriaid y sianel megis Noson Lawen a Cefn Gwlad. Er fod nhw yn derbyn cryn dipyn o cynulleidfa, dwi'm yn meddwl does neb o dan 50 yn edrych ar rhain bellach. Mae angen cull i ddweud y gwir, fel digwyddodd i Radio 1 yn y nawdegau.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan sian » Maw 26 Hyd 2010 5:13 pm

Hyd yn oed os nad oes neb o dan 50 yn gwylio rhyw raglenni, swn i'n dadlau nad yw hynny'n rheswm i gael gwared â nhw.
Mae mwy o angen rhaglenni teledu ar bobl dros 50 nag sydd ar bobl iau. Mae 50 - 90 yn 40 mlynedd - sy'n dalp go dda o'r gynulleidfa bosib.
Does dim un rhaglen yn mynd i blesio pawb, ond dydi hynny ddim yn rheswm dros gael gwared â rhaglenni sydd yn plesio rhywun!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan ceribethlem » Mer 27 Hyd 2010 12:17 pm

sian a ddywedodd:Hyd yn oed os nad oes neb o dan 50 yn gwylio rhyw raglenni, swn i'n dadlau nad yw hynny'n rheswm i gael gwared â nhw.
Mae mwy o angen rhaglenni teledu ar bobl dros 50 nag sydd ar bobl iau. Mae 50 - 90 yn 40 mlynedd - sy'n dalp go dda o'r gynulleidfa bosib.
Does dim un rhaglen yn mynd i blesio pawb, ond dydi hynny ddim yn rheswm dros gael gwared â rhaglenni sydd yn plesio rhywun!

Y broblem gyda'r meddylfryd yna, yw fod pobol iau ddim yn mynd i'r habit o wylio S4C. Felly pan fyddan nhw'n 50+ byddant yn fwy tebyg o wylio rhywbeth arall.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan sian » Mer 27 Hyd 2010 12:29 pm

Ond beth mae pobol sy dros 50 (neu 60) NAWR i fod i neud i basio nosweithiau oer a thywyll y gaeaf?
Mae hyd yn oed pethe fel Pentalar yn rhy "soffistigedig/fodern" i lot fawr o gynulleidfa darged S4C.
Alli di ddim jest anghofio am hen bobol sy'n byw yng nghefn gwlad yn y gobaith o ddenu pobl iau.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan dafydd » Mer 27 Hyd 2010 4:31 pm

sian a ddywedodd:Ond beth mae pobol sy dros 50 (neu 60) NAWR i fod i neud i basio nosweithiau oer a thywyll y gaeaf?
Mae hyd yn oed pethe fel Pentalar yn rhy "soffistigedig/fodern" i lot fawr o gynulleidfa darged S4C.
Alli di ddim jest anghofio am hen bobol sy'n byw yng nghefn gwlad yn y gobaith o ddenu pobl iau.

Dwi ddim yn gweld fod angen cael gwared pob rhaglen ar gyfer y gynullleidfa 50+. Ond yn anffodus gyda'r toriadau mi fydd llai o gyllid ar gyfer popeth ac ar yr un pryd mae angen denu y gynulleidfa 18-45 sydd wedi eu hesgeuluso yn llwyr gan y sianel ers o leia 5 mlynedd (a fwy mewn gwirionedd). Felly mi fydd angen cael gwared ar rhai raglenni 'hen bobl' os ydi'r sianel am wario ar raglenni pobl iau nau 50.

Mae gan S4C union yr un broblem a Radio Cymru, sef mai dim ond un sianel Gymraeg sydd yna ar gyfer pawb. Felly mae gan y sianel ddelwedd hen ffasiwn sy'n lliwio barn pobl hyd yn oed os oedd yna raglenni fwy deniadol yn cael ei darlledu! Dyna pam fydd angen i'r sianel ddefnyddio'r cyfryngau newydd i ddenu gwylwyr 18+ gyda brand gwbl newydd efallai. Mae'n hawdd i wylwyr ifanc y sianel weld Cyw a Stwnsh fel brand ar wahan oherwydd fod yr oriau darlledu wedi eu penodi yn glir (ac efallai nad ydyn nhw byth yn gwylio S4C tu allan i'r oriau hynny).

Fe all gwyliwr yn ei arddegau droi mlaen E4, BBC Three neu sianeli tebyg ar ôl 7pm a dod o hyd i raglen mae e'n hoffi. Os oedden nhw'n troi i S4C, fase dim byd diddorol yn troi fyny tan 10 neu efallai ddim o gwbl rhai nosweithiau. Mae'r un peth yn wir am unrhywun yn ei 20au a 30au sy'n chwilio am raglenni difyr ond deallus a ddim yn 'draddodiadol'. Mae S4C yn gallu (a wedi) cynhyrchu y math yna o raglenni, ond dyw hi ddim yn hawdd dod o hyd iddyn nhw. Dwi'n ddefnyddiwr brwd o PVR i recordio rhaglenni i'w gwylio ar adeg mwy hwylus, ond prin ydw i'n gweld unrhywbeth ar S4C lle dwi'n meddwl "ww, rhaid i mi recordio hwnna". Fe allen nhw fod y rhaglenni gorau yn y byd ond dwi'n meddwl nad ydw i ar ben fy hun yn dweud nad ydw i'n ymddiried yn y sianel o gwbl i greu rhaglenni sy'n apelio.

Hynny yw, fe alla'i weld rhaglen ar BBC Two neu Four a meddwl "reit, mi fydd hwnna'n ddiddorol" a'i osod i'w recordio. Fe allai fod yn 90% siwr mod i'n iawn. Ond dwi'n gwybod o brofiad - os oes rhaglen newydd yn cael ei hysbysebu ar S4C sy'n edrych yn ddiddorol.. wnai edrych ar y rhaglen gynta a meddwl "oce, reit, dyw e ddim" a dyna ddiwedd ar wylio unrhywbeth arall yn y gyfres. Bosib mod i'n masochist drwy roi 'un cyfle arall' i bob ymgais newydd ar y sianel - y gwir yw fod rhan fwyaf o bobl ddim mor ffôl a mae nhw wedi mynd am byth i sianeli eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: S4C yn hen ffasiwn ??

Postiogan Ray Diota » Mer 27 Hyd 2010 5:33 pm

Sai'n gweld e fel dadl cynulleidfaoedd 50+ neu 18-35 ne be bynnag, ma fe i neud 'da amrywiaeth ac ystod o wahanol rhaglenni o safon. Gwendid S4C yw bo 'na ddim amrywiaeth. Lot o raglenni sy'n rhad i'w gwneud, sy'n ddi-ddim a sy gyd run peth. Watshes i Gofod dwrnod o'r blan (sy 'di anelu at bobol iau sbo yndi?) a wedon nhw wrtho fi i "edrych mlan at gwrdd a anifeiliaid anwes selebs". I mean, be ffwc?? Be sy'n dda am hynna, heblaw bod e'n rhad i'w gynhyrchu??

A be ddiawl yw'r 'Chwa' ma de? Barcud-fyrddio? Beiciau llwch? Eirafyrddio? Caiacio? 4 beth s'neb yn becso mo'r ffyc amdanyn nhw mewn un rhaglen. Briliant. Jiniys.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron