RET79 a ddywedodd:Y cwestiwn i ti Aran, yw os buasai tystiolaeth gan gwmni inswrans fod pobl o leiafrif ethnig arbennig yn cael mwy o ddamweiniau ceir, ti'n meddwl fuasai o'n deg i godi cost eu inswrans nhw? Yr ateb gan ran fwyaf fuasai "Na, ddim o gwbl! Buasai hynna yn hiliol! Dyw hi ddim yn deg fod pobl o hil arbennig yn cael eu 'cosbi' fwy".
diddorol. dw i'n amau'n gryf iawn na fuasai'r un cwmni yswiriant yn cael gwahaniaethu fel 'na'n seiliedig ar hil. hmmmm. ond eto, pe bai'n bosib i ddangos bod yna cysylltiad rhwng hil a phatrymau dreifio, yna mi fuasai'n gwneud synnwyr (o fewn canllawiau cwmniau yswiriant) i addasu prisiau'n seiliedig ar hynna. a fyddai hynny'n hiliol? dw i'n amau na fyddai fo, ond oherwydd bod yna gymaint o broblemau efo hilaeth wedi bod dros y canrifoedd, fyddai fo ddim yn dderbyniol yn gymdeithasol i gwmniau yswiriant gweithredu fel'na.
felly na, dw i ddim yn meddwl ei fod o'n rhywiaethol (brenin alltud?!) i godi ychwanegol ar gyfer dynion, a dw i ddim 'chwaith yn meddwl y byddai fo'n hiliol i wneud o
pe bai cysylltiad amlwg wedi'i phrofi'n ddigon da rhwng hil penodol a phatrymau dreifio.
mae'r ymateb hon wedi'i lliwio i ryw raddau gan fy amser yn Nubai, lle heb eithriad oedd patrymau dreifio
yn wahanol ar gyfer gwahanol hil. ar y prif-ffordd wyth lôn, pe bai yna rhywun yn dreifio'n beryglus o araf yn y lôn araf, byddai'r person hynna yn troi allan i fod o India neu Bakistan, a phe bai rhywun yn dod i fyny y tu ôl i chdi yn y lôn gyflym yn gwneud 220kmh ac yn fflashio goleuadau i ddeud 'Allan o fy ffordd!', mi fyddai'r person hynna yn troi allan i fod yn lleol - nid yn Arab yn gyffredinol, ond yn benodol yn ddinasyddion Dubai - 'ti'n meddwl bo chdi'n blydi biau'r lôn?!' 'sai rhywun yn gweiddi, cyn cofio... 'wps, sori, wrth gwrs mi wyt...
'
buaswn i'n disgwyl bod yna rhai eithriadau i hyn (o'n i'n dreifio'n eithaf gyflym fy hun, pryd 'ny, ond dim yn fflashio goleuadau'n aml!), ond nes i ddim gweld yr un eithriad fy hun mewn pum mlynadd a hanner, sydd yn fy nhyb i'n dangos bod yna patrwm. ac mae cwmniau yswiriant, wrth gwrs, yn delio mewn patrymau...
yn ffodus, mae erbyn hyn yn annerbyniol i ddechrau meddwl hyd yn oed am wneud y gwaith ymchwil i ddarganfod a fyddai patrymau tebyg yn bod seiliedig ar hil, a dwi'n gweld hyn yn beth iach - digon hawdd i agweddau hiliol effeithio ar 'ymchwil' tebyg. mae gormod o niwed wedi'i wneud, ac yn dal i gael ei wneud, oherwydd natur hiliol dynol ryw, felly peth da i'w ein bod yn ymwrthod hyd yn oed creu'r peryg.
ac ar y llaw arall,
petasai hi'n rhywiaethol yn erbyn dynion bod ni'n talu yswiriant uwch, fyddwn i ddim yn bersonol yn colli gormod o gwsg drosti - digon teg i'r genod cael rhywbath yn ôl wedi'r holl anfanteision eu bod wedi dioddef ac yn dal i ddioddef.
ond fel dw i 'di esbonio uchod, dw i ddim yn credu ei bod hi...
ar nodyn arall ond yn gysylltiedig, mae'n ddiddorol i weld agweddau tuag at ddioddefwyr gwrywaidd pan sôn am drais teuleol neu dreisio... mae'n ymddangos bod yna hyd yn oed llai o gydymdeimlad na sydd i wragedd (nid bod y cydymdeimlad yn hael ar gyfer gwragedd bob tro, 'chwaith) - elfen o 'paid â bod yn wirion, mae dy wraig yn dy guro di? twt lol...'