Cyfartaledd i ddynion a merched

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan RET79 » Maw 11 Tach 2003 9:56 pm

Aran a ddywedodd:felly na, dw i ddim yn meddwl ei fod o'n rhywiaethol (brenin alltud?!) i godi ychwanegol ar gyfer dynion, a dw i ddim 'chwaith yn meddwl y byddai fo'n hiliol i wneud o pe bai cysylltiad amlwg wedi'i phrofi'n ddigon da rhwng hil penodol a phatrymau dreifio.


Ie, dyma'r pwynt mae'n anodd iawn dweud iawn i seilio pris cynnyrch ar ffactor ryw ac wedyn dweud na i'w seilio ar hil y person pe bai digon o dystiolaeth fod hil yn ffactor bwysig yn y patrwm.

Mae hwn yn enghraifft o lle gall ffwl fy ngalw yn hiliol am wneud y gosodiad uchod ond eto wrth wneud hynny mae nhw yn cymryd agwedd sexist. Difyr iawn.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Maw 11 Tach 2003 9:58 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:
RET a ddywedodd:Efallai nad yw merched yn perfformio mor dda a dynion yn y swyddi ac yn llai effeithiol pan mae'n dod i negotiatio cyflog.


Dyna be ddudest ti. :?


Ie, cynnig rheswm wnes i pam fod merched ar y cyfan yn gwneud llai o arian na'r dynion - gweler fy nadl ar bel-droedwyr merched yn gwneud lot llai na dynion a darllen yr link roddodd chwadan mae o'n cynnig llawer o resymau eraill pam fod merched yn gwneud llai.

Beth yw'r rheswm ti'n feddwl mae merched yn gwneud llai o arian? Conspiracy mawr gan gyflogwyr? Wel?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Maw 11 Tach 2003 9:59 pm

RET a ddywedodd:ac wedyn dweud na i'w seilio ar hil y person pe bai digon o dystiolaeth fod hil yn ffactor bwysig yn y patrwm.


Da ni wedi bod yn gweithio mor galed i gael gwared a hiliaeth dros y blynyddoedd dwytha mi fysain biti i adael i syniadau bod pobl o hil gwahanol yn 'eraill' ffurfio unwaith eto. Hyd yn oes os bysai tystiolaeth, fyswn i ddim yn gwneud dim amdano am y rheswm hynny.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Macsen » Maw 11 Tach 2003 10:01 pm

RET a ddywedodd:Beth yw'r rheswm ti'n feddwl mae merched yn gwneud llai o arian? Conspiracy mawr gan gyflogwyr? Wel?


Institutionalised sexism. :D
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Aran » Maw 11 Tach 2003 10:05 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd: Hmmm... swn i'n dweud bod gan hynny mwy i wneud gyda diwylliant na hil?


digon teg, ond mae'r patrymau yn dal i ymddangos fel gwahaniaeth hil - cofia, dw i ddim yn deud bod 'na rhwybath mewn unrhyw hil sy'n achosi math penodol o ddreifio! ond lle mae 'na patrymau (hyd yn oed wedi achosi gan rhwybath arall) sy'n ymddangos ar sail hil, ar ran y math o waith bod cwmni yswiriant yn delio ynddi, mae gennyt ti rywbath i feddwl amdani...

mae'n bwysig cofio bod yna gwahanaethau rhwng pobl o wahanol hil - lliw croen, i ddechrau! ond pethe ysgubol iawn, hefyd - dw i'n cofio ffrindiau yn Zimbabwe yn deud 'ew, dach chi pobl o Ewrop yn rhedeg i bob man, trwy'r amser, isio ymlacio arnoch'... a'r peth oedd, er mod i'n hwyr i 'ngwaith yn amlach nag eithaf lot ohonyn nhw, yn gyffredinol oeddent yn iawn - mae pobl o Ewrop yn Affrig yn tueddu i wneud pethe'n ffastach (cyn iddynt ddysgu i slofi i lawr, beth bynnag - dw i'n dda am ddysgu i slofi i lawr!)

y peth pwysig ydy i beidio â disgwyl y byddant yn gweithio fel rheol, a pheidio â gwahaniaethu'n annheg o'u herwydd. hilaeth ydy lle mae dealltwriaeth naturiol o'r wahaniaeth naturiol rhwng pobl o wahanol hil yn troi i mewn i sicrwydd anghyfiawn bod pawb o hil penodol efo'r un nodweddiadau. mae gweld patrymau'n iawn, ond mae'n hanfodol pwysig cofio bod unrhyw unigolyn efo'r gallu i dorri ar draws unrhyw batrwm...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Macsen » Maw 11 Tach 2003 10:11 pm

Aran, dw i dal yn meddwl mai diwylliant yw hyn, nid hil. Does na'm 'patrwm' yn ffordd rywun o ymddwyn o ran lliw ei croen. Mae o i gyd i wneud efo'r awyrgylch mae nhw'n tyfu fyny yndda fo.

Da ni gyd yn brysio yn Ewrop am fod rhaid i ni ddal y tren, bws, dechrau y seminar, ecetra. Pam oni'n Zambia, roedd pawb yn 'araf' (peidiwch a cymeryd hwnna ffor rong!) am ei bod nhw wedi cael ei codi i fyny mewn diwylliant lle oedd pawb yn fwy chilled.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Maw 11 Tach 2003 10:12 pm

Mae rhagrith enfawr yn mynd ymlaen pan mae'n dod i hawliau.

Gwnaf ddefnyddio merched fel enghraifft. Sylwer fod feminists yn honni eu bod am gydraddoldeb ond y gwir yw mae nhw ond am gydraddoldeb pan mae'n ei siwtio nhw. Er enghraifft dwi ddim yn clywed feminists yn gofyn am i ferched gael cydraddoldeb pan mae'n dod i dalu premium inswrans gan ar hyn o bryd mae merched yn cael mantais, ar sail eu rhyw, o dalu lot llai o inswrans.

Fedri di ddim cael lot o hygrededd os ti'n gofyn am fwy o hawliau i gael cydraddoldeb hefo dynion heb ar yr un pryd roi fyny rhai o hawliau sydd o dy blaid gan dy fod yn ferch.

"You gotta take the rough with the smooth"

Yn syml, mae merched yn ddigon hapus i gwmni inswrans roi cynnyrch rhatach i nhw ar sail eu rhyw felly dwi ddim yn meddwl fod ganddyn nhw hygrededd pan mae nhw'n honni fod nhw eisiau cydraddoldeb.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Maw 11 Tach 2003 10:16 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Aran, dw i dal yn meddwl mai diwylliant yw hyn, nid hil. Does na'm 'patrwm' yn ffordd rywun o ymddwyn o ran lliw ei croen. Mae o i gyd i wneud efo'r awyrgylch mae nhw'n tyfu fyny yndda fo.


Ifan mae llawer mwy i hil o bobl na gwahaniaeth yn lliw eu croen - ieithoedd, crefydd, traddodiadau, ffordd o fyw etc. sydd fel ti'n dweud yn deillio o'r awyrgylch mae pobl yn tyfu fyny ynddo.

Mae diwylliant a hil yn mynd law yn llaw rhan fwyaf o'r amser.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Aran » Maw 11 Tach 2003 10:33 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Aran, dw i dal yn meddwl mai diwylliant yw hyn, nid hil. Does na'm 'patrwm' yn ffordd rywun o ymddwyn o ran lliw ei croen. Mae o i gyd i wneud efo'r awyrgylch mae nhw'n tyfu fyny yndda fo.

Da ni gyd yn brysio yn Ewrop am fod rhaid i ni ddal y tren, bws, dechrau y seminar, ecetra. Pam oni'n Zambia, roedd pawb yn 'araf' (peidiwch a cymeryd hwnna ffor rong!) am ei bod nhw wedi cael ei codi i fyny mewn diwylliant lle oedd pawb yn fwy chilled.


cytuno'n llwyr - ond fel dw i'n gweld o, mi wyt ti'n sôn am achos gwahaniaeth, lle dw i'n sôn am ymddangosiad patrymau...

dwed bod yna pentref o bobl felyn, a phentref o bobl las, ac ym mhentref y bobl las mae ffynnon sy'n gwneud i boer pobl mynd yn goch. reit - mae'r pobl las i gyd yn yfed o'r ffynnon 'ma, a bob tro maent yn mynd draw i ymweld a'i ffrindiau yn y pentref pobl felyn, maent yn poeri wrth adael (dwedwn ni fod o'n draddodiad!)...

ac mae'r pobl felyn wrth gwrs yn credu bod pobl las i gyd efo poer coch.

mae'r rheswm ar wahân i'w hil, ond mae'n ymddangos yn seiliedig ar hil, sef bod yna batrwm.

dau gwestiwn sydd isio - pe bai rhywun glas o bentref arall, pell i ffwrdd, lle nad oes y ffasiwn ffynnon rhyfadd, yn cyrraedd y pentref pobl felyn, a fyddai'r pobl felyn yn disgwyl i'r person glas dieithr fod efo poer coch?

a fydden nhw'n dwp i ddisgwyl hynna?

***************************

wrth gwrs, y peth pwysig ydy bod pawb yn wahanol mewn gwahanol ffyrdd, ag y dylid parchu a dathlu y gwahaniaethau, nid cogio bod nhw ddim yn bodoli.

amrwyiaeth ydy natur y gêm, a'r peth gorau amdani, hefyd... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Macsen » Maw 11 Tach 2003 10:36 pm

ret a ddywedodd:fan mae llawer mwy i hil o bobl na gwahaniaeth yn lliw eu croen - ieithoedd, crefydd, traddodiadau, ffordd o fyw etc. sydd fel ti'n dweud yn deillio o'r awyrgylch mae pobl yn tyfu fyny ynddo.


Sef diwylliant. Be ddedais i!

Mi wyt ti yn siarad yn nhermau diwylliant nid hil. Diwylliant y bobl sy'n ei gwneud nhw'n 'wahanol' nid ei hil! Be am y bobl croenddu sy'n byw ym Mhrydain? Mae ei diwylliant nhw yn debyg iawn i un ni ar y funud, ac os fyswn i'n siarad hefo un ar y ffon fyswn i ddim yn sylwi bod unrhyw wahaniaeth. Fel dw i wedi gwneud llawer tro!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron