Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Aran, dw i dal yn meddwl mai diwylliant yw hyn, nid hil. Does na'm 'patrwm' yn ffordd rywun o ymddwyn o ran lliw ei croen. Mae o i gyd i wneud efo'r awyrgylch mae nhw'n tyfu fyny yndda fo.
Da ni gyd yn brysio yn Ewrop am fod rhaid i ni ddal y tren, bws, dechrau y seminar, ecetra. Pam oni'n Zambia, roedd pawb yn 'araf' (peidiwch a cymeryd hwnna ffor rong!) am ei bod nhw wedi cael ei codi i fyny mewn diwylliant lle oedd pawb yn fwy chilled.
cytuno'n llwyr - ond fel dw i'n gweld o, mi wyt ti'n sôn am achos gwahaniaeth, lle dw i'n sôn am ymddangosiad patrymau...
dwed bod yna pentref o bobl felyn, a phentref o bobl las, ac ym mhentref y bobl las mae ffynnon sy'n gwneud i boer pobl mynd yn goch. reit - mae'r pobl las i gyd yn yfed o'r ffynnon 'ma, a bob tro maent yn mynd draw i ymweld a'i ffrindiau yn y pentref pobl felyn, maent yn poeri wrth adael (dwedwn ni fod o'n draddodiad!)...
ac mae'r pobl felyn wrth gwrs yn credu bod pobl las i gyd efo poer coch.
mae'r rheswm ar wahân i'w hil, ond mae'n ymddangos yn seiliedig ar hil, sef bod yna batrwm.
dau gwestiwn sydd isio - pe bai rhywun glas o bentref arall, pell i ffwrdd, lle nad oes y ffasiwn ffynnon rhyfadd, yn cyrraedd y pentref pobl felyn, a fyddai'r pobl felyn yn disgwyl i'r person glas dieithr fod efo poer coch?
a fydden nhw'n dwp i ddisgwyl hynna?
***************************
wrth gwrs, y peth pwysig ydy bod pawb yn wahanol mewn gwahanol ffyrdd, ag y dylid parchu a dathlu y gwahaniaethau, nid cogio bod nhw ddim yn bodoli.
amrwyiaeth ydy natur y gêm, a'r peth gorau amdani, hefyd...