Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist
tom.j a ddywedodd:Son am glojes......yr Wyl Gerdd Dant ar S4C drwy'r dydd - oni bai am y gem rygbi a'r newyddion.....a ydy'r sianel yn trio denu gwylwyr neu beth? Sgwn i pwy ddaeth ar frig siartiau gwylwyr heno....X Factor? Strictly Come Dancing? neu'r Wyl Gerdd Dant??????? Ydy - ma S4C yn hen ffasiwn!!
Josgin a ddywedodd:Yr oedd darlledu'r wyl Gerdd dant drwy'r dydd yn enghraifft perffaith o pam mae S4C mewn ffasiwn drwbwl.
Methu coelio'n llygad .
sian a ddywedodd:tom.j a ddywedodd:Son am glojes......yr Wyl Gerdd Dant ar S4C drwy'r dydd - oni bai am y gem rygbi a'r newyddion.....a ydy'r sianel yn trio denu gwylwyr neu beth? Sgwn i pwy ddaeth ar frig siartiau gwylwyr heno....X Factor? Strictly Come Dancing? neu'r Wyl Gerdd Dant??????? Ydy - ma S4C yn hen ffasiwn!!
Ond - beth bynnag fyse S4C wedi'i ddangos, fyse fe ddim wedi gallu cystadlu ag X Factor a Strictly - felly pam ddim mynd am rywbeth hollol wahanol sydd â'i gynulleidfa ei hunan. Wnes i watsho'r teledu ar nos Sadwrn am y tro cynta ers Gwyl Gerdd Dant llynedd, siwr o fod. Weithiodd e i fi!
bed123 a ddywedodd:Cytuno llwyr hefo Sian. Un o cryfderau S4C ydi ei darllediadau o gwyliau fel Eist Genedlaethol, Urdd a'r Wyl Gerdd Dant. Wnes i a'r teulu aros i fyny tan 1 bore ma i wylio yr holl cyffro. Mwy o hyn sy eisiau ar S4C.
Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai