Er bod gwefannau torrentau eraill, mae'n glir mae'r unig ffordd i fedru rhannu rhaglenni Cymraeg heb gael eu plismona gan y ddi-gymraeg ydy wrth greu gwefan ein hunain, felly dyna yn union dwi wedi gwneud.
Mae 'na dipyn o waith tacluso a nifer o gynnwys yn dal i'w gyfieithu, ond mae'n bosib ymuno a rhannu rhaglenni yno yn barod. Mae Miss Cymru a Miss World, Noson Lawen a Cartrefi Cefn Gwlad Cymru y penwythnos yno i chi lawrlwytho a bydd Pobol y Cwm, Cefn Gwlad ac Y Byd ar Bedwar yn cael eu recordio heno ac yn ymddangos yno yfory. Os oes gofyn amdanyn, gallaf ail rannu'r 23 o raglenni sydd gennyf o'r pythefnos diwethaf.
Dewch felly, i http://golyg.com
(Meddyliais am yr enw a phrynais y parth rhai blynyddoedd yn ôl am bwrpas arall ond cafodd erioed ei ddefnyddio.)
Nodyn am gyfreitholdeb
Fel dwi'n deall y rheswm pam na allai S4C darlledu rhaglenni y tu allan i'r DU ydy gan fod yn un o'r termau ac amodau gyda chorff sy'n cynrychioli artistiaid sgrin Brydeinig. Dyma sut bod rhaglenni ffeithiol fel CF99 a Pawb a'i Farn ar gael ar Clic, ond dim llawer yn fwy. Does gennyf i ddim cytundeb gydag actorion Pobol y Cwm nag unrhyw gorff sy'n ei gynrychioli a dwi'n ddigon bodlon recordio rhaglenni gyda chyfrifiadur mewn cartref gyda thrwydded teledu yng Nghymru er mwyn eu rhannu gydag unrhyw ffrindiau sydd eisiau eu gweld cyn belled nad ydy'r rhaglenni ar gael i'w prynu. Buaswn byth yn meddwl twyllo artistiaid na chynhyrchwyr o ennill eu bywoliaeth. I ddweud y gwir, mae'n union yr un fath a bod ffrind neu aelod o'r teulu yn recordio oddi ar y teledu ac yn anfon rhaglen ar fideo neu gryno ddisg i rywun, ond bod defnyddio meddalwedd BitTorrent i drosglwyddo'r rhaglenni yn haws, yn gynt, ac yn rhad ac am ddim.