gan Gowpi » Llun 02 Tach 2009 12:00 pm
Mae'n rhaid i fi gyfaddef ces i siom a'm synnu o fynd at y peiriant hunan wasanaeth yn S. Dinbych y Pysgod nad oedd y dewis ar gael, fues i'n chwilio am y botwm a daeth menyw lan ata' i yn meddwl bod fi'm imbicile a chynnig helpu, a finne'n nodi nad oedd y dewis Cymraeg ar gael: "Oh no, I can't speak Welsh, no Welsh here" - S. newydd sbon yw hi, y cyntaf yn sir Benfro. Bydd rhaid stico 'da Londis yno te...
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.