ceribethlem a ddywedodd:Fi'n tybio fod tipyn o gyfraniadau i'r edefyn yma ddim cweit yn siwr o'r hyn sy'n mynd mlaen mewn gwasanaethau boreol ysgolion. Nid mater o orfodi plentyn i addoli mewn modd Cristnogol ydyw. Mae'r gyfraith yn dweud fod rhaid cael gwasanaethau sy'n "broadly Christian in character", h.y. rhai sydd yn son am foesau cyffredinol ayyb.
Fel soniais i uchod, dwi heb rhoi "neges" Crefyddol yn fy "ngwasanaeth" ers blynyddoedd. Cyfle i gyfarfod a'r cohort Blwyddyn cyfan mewn un lle ar yr un pryd yw hi.
Wyt ti'n cynnwys gweddi yn dy wasanaethau di, felly?
Tua faint o'r disgyblion sy'n cael eu hesgusodi o'r gwasanaethau? Roedd plant ni'n meddwl mai dim ond Tystion Jehofa oedd yn dewis esgusodi eu plant o'r gwasanaethau yn eu hysgol nhw. Roedd yr actor Gareth Lewis ar Beti a'i Phobl yn ddiweddar yn dweud bod ei fab e'n cael ei esgusodi am fod y teulu'n anffyddwyr.
Dyma rai o ganllawiau Estyn:
* rhaid i ysgolion ddarparu addoli ar y cyd bob dydd i bob disgybl cofrestredig
* dylai’r rhan fwyaf o weithredoedd addoli ar y cyd ym mhob tymor ddilyn patrwm Cristnogol yn bennaf neu’n gyfan gwbl. Hynny yw, dylent adlewyrchu traddodiadau cyffredinol y gred Gristnogol heb gadw at arferion unrhyw enwad Cristnogol yn benodol
* dylai fod yn ymwneud â pharchu neu fawrygu bod neu bŵer dwyfol.
* Dylai addoli ar y cyd mewn ysgolion geisio rhoi’r cyfle i ddisgyblion addoli Duw, ystyried y materion ysbrydol a moesol yn ogystal ag ystyried eu credoau eu hunain. ... Dylai hyn hefyd feithrin ysbryd cymunedol, hyrwyddo ethos cyffredin a gwerthoedd sy’n cael eu rhannu, ac atgyfnerthu agweddau cadarnhaol.
* Mae’r gyfraith yn nodi y dylai’r rhan fwyaf o wasanaethau addoli ar y cyd ym mhob tymor ‘fod o natur Gristnogol yn bennaf neu’n gyfan gwbl’. Felly, o bryd i’w gilydd mae’n dderbyniol i addoli ar y cyd fod heb gysylltiad clir â’r ffydd Gristnogol. Dylai arolygwyr wirio cofnod yr ysgol o themâu diweddar addoli ar y cyd i weld a yw’r ysgol yn cydymffurfio â’r gyfraith ai peidio
* Mae’r gyfraith yn mynnu bod ysgolion yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion addoli. Nid yw’r gyfraith yn mynnu bod ysgolion yn gorfodi disgyblion i addoli.
Be dwi'n dreio ddadlau yw y byddai'r sefyllfa'n iachach i bawb o dynnu'r elfen "parchu neu fawrygu pŵer dwyfol" allan yn llwyr am nad yr ysgol yw'r lle i wneud hynny.