O diar, dwi heb fod yma ers sbel, a gweld rwan ei bod hi'n ddistaw fel y bedd yma!!!
Ta waeth, dwi newydd orffen darllen campwaith naratif arall gan Llwyd Owen, sef Mr Blaidd. Mae gallu'r boi yma i ddweud stori afaelgar yn curo pawb arall sy'n sgwennu yn Gymraeg heddiw.
Mae'r iaith fymryn bach yn doji ambell waith, lle mae'n rhaid cyfieithu'r geiriau i'r Saesneg er mwyn dallt be sy genno fo (e.e. "gwarchod hunaniaeth" yn y frawddeg gynta un!), ac mae na un neu ddau typo annoying, ond oherwydd cryfder y sgwennu, y plot a'r ddeialog, dydi'r mân frychau hyn ddim ond yn pwysleisio mor wych ydi popeth arall am y nofel.
Prynwch, darllenwch, mwynhewch.